Ynni niwclear

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Atomfa Trawsfynydd
Tair llong 'Task Force One' yr Unol Daleithiau, sy'n cael eu pweru gan ynni niwclear

Ynni niwclear yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer unrhyw dechnoleg sy'n ennill ynni trwy ddefnyddio adwaith niwclear, naill ai ymholltiad niwclear (Saesneg: nuclear fission) neu ymasiad niwclear. Ar hyn o bryd, dim ond ymholltiad niwclear a ddefnyddir yn fasnachol, lle mae'r adwaith niwclear yn cael ei reoli er mwyn berw dwr a chreu stem, sy'n creu trydan.

Mae'r ddau fath o adwaith yn rhyddhau maint aruthrol o ynni allan o faint cymharol fychan o fater.

Yn 2005, daeth 6.3% o ynni'r byd, a 15% o drydan y byd, o ynni niwclear. Y prif gynhyrchwyr oedd yr Unol Daleithiau, Ffrainc a Japan. Cynhyrchodd y tri yma 56.5% o drydan o ynni niwclear y byd y flwyddyn honno.

Yn 2009 roedd 13-14% o drydan y byd yn dod o ynni niwclear[1] ac roedd dros 150 o longau milwrol yn cael eu gyrru gan yriant niwclear.

Defnydd[golygu]

Yn 2007, cafwyd adroddiad gan yr Asiantaeth Ynni Atomig y Byd (Saesneg: International Atomic Energy Agency, neu'r IAEA) fod 439 atomfa niwclear ledled y byd.[2]

Atomfa[golygu]

Atomfa ydy'r enw sy'n cael ei roi ar yr adeilad lle holltir yr atom (fel arfer wraniwm-235 neu plwtoniwm-239); yng Nghymru roedd dwy atomfa yma: Wylfa (Môn) a Thrawsfynydd. Agorwyd atomfa gyntaf y byd sef Obninsk yn yr Undeb Sofietaidd Atomfa yn 1954 a'r cyntaf yng ngwledydd Prydain (Windscale) ym 1956.

Dechreuwyd adeiladu atomfa Wylfa yn 1963 a dechreuodd gynhyrchid trydan yn 1971 ac roedd yno ddau adweithydd Magnox (490 MW). Roedd y mwyaf a'r olaf o'i fath yng ngwledydd Prydain. Bydd yn dod i ben ar ddiwedd 2010.

Ceir atomfa hefyd yn Nhrawsfynydd, ond mae ers 1991 wedi dechrau cael ei ddad-gomisiynu. Dechreuwyd ar y gwaith o'i adeiladu ym Mawrth 1965 a dechreuodd ar ei waith o gynhyrchu trydan yn Hydref 1968. Roedd ganddo ddau adweithydd Magnox ac roedd yn cynhyrchu 470MW o drydan.

Hanes[golygu]

Cychwynnwyd arbrofi gyda defnyddio ynni niwclear i greu trydan cyn gynted ag y darganfuwyd yr elfennau ymbelydrol megis radiwm. Sylweddolwyd y gallent ryddhau swm anferthol o ynni ond roedd harneisio'r ynni hwn yn dasg anodd iawn; yn wir mynnodd tad ffiseg niwclear sef Ernest Rutherford ei bod yn dasg amhosib. Ond ar ddiwedd y 1930au darganfuwyd theori o'r enw 'ymholltiad niwclear' a sylweddolodd nifer o wyddonwyr gan gynnwys Leo Szilard y byddai 'adwaith cadwynol' (Saesneg: chain reaction) yn hwyluso hyn.

Symudodd Fermi a Szilard i'r Unol Daleithiau a sefydlwyd yr adweithydd cyntaf yno, o'r enw Chicago Pile-1 gan lwyddo yn eu hymgais ar 02 Rhagfyr 1942. Daeth y gwaith hwn yn rhan o Brosiect Manhattan a lwyddodd i gynhyrchu plwtoniwm ar gyfer y ddau fom ar Japan. Felly, o'r cychwyn un, ail beth oedd ynni niwclear - creu bomiau niwclear oedd y bwriad gwreiddiol.

Ar 27 Mehefin 1954 agorodd yr Undeb Sofietaidd Atomfa yn Obninsk - yr atomfa gyntaf (a'r adweithydd cyntaf) i gynhyrchu trydan ar gyfer grid cenedlaethol, gan lwyddo i gynhyrchu tua 5 megawatt o ynni trydanol.

Calder Hall yn 2007: safle adweithydd cyntaf Gwledydd Prydain.

Yn Sellafield agorwyd y cyntaf o bedwar adweithydd niwclear yn 1956 yn 'Calder Hall', ar draws y ffordd i Windscale - yr adweithydd cyntaf yng ngwledydd Prydain. Un o'r gwyddonwyr a oedd yn gyfrifol am y gwaith hwn ar y pryd oedd Owain Owain a gyhoeddodd nifer o ysgrifau a llythyrau yn y Faner a phapurau Cymraeg eraill yn rhybuddio pobl am berygl y lle. Gadawodd Windscale yn 1957 a chafwyd damwain enfawr yno'r flwyddyn ddilynol.[3][4]

Ynni niwclear yng Nghymru[golygu]

Bu dwy atomfa yng Nghymru: Atomfa'r Wylfa, Môn ac Atomfa Trawsfynydd. Yn Ionawr 2008 fe gyhoeddodd Llywodraeth Llundain eu bwriad i ddadwladoli llawer o'r atomfeydd ledled gwledydd Prydain; yn 2009 cyhoeddwyd eu pont yn cefnogi sefydlu 10 o atomfeydd gan gynnwys ail atomfa yn Wylfa. Fodd bynnag, mae'r Cynulliad yng Nghaerdydd yn gwrthwynebu codi atomfa yng Nghymru.

Ynni niwclear drwy'r byd[golygu]

Mae gan 31 o wledydd adweithydd neu adweithwyr niwclear ac mae 15 o wledydd yn cynllunio neu'n creu adweithydd/ion gan gynnwys Twrci, Gogledd Corea, Gwlad Pwyl a Thwrci.

Gwastraff niwclear - y broblem fawr[golygu]

Unwaith mae'r rhodenni wraniwm mewn atomfa wedi 'llosgi' neu adweithio, ni ellir ei ddefnyddio ymhellach yn yr adweithydd. Mae hyn yn golygu fod cryn wastraff, a hwnnw'n ymbelydrol. Mae sawl labordy ac atomfa drwy'r byd yn ceisio ailgylchu'r gwastraff hwn. Mae'r gwastraff hwn yn hynod o beryglus ac nid oes ateb i'r broblem beth i'w wneud gydag e ar hyn o bryd. Mae'n cymryd 10,000 o flynyddoedd i'r gwastraff hwn golli ei ymbelydredd.

Ar ôl pum mlynedd mewn dŵr, mae'r gwastraff yn cael ei roi mewn cynhwysyddion concrid a dur. Yn yr Unol Daleithiau mae hyn oll yn digwydd ar safle'r atomfa. Hyd at 2007 roeddent wedi storio 50,000 tunnell fetrig o wastraff niwclear.

Deil y broblem o storio'r holl wastraff yn broblem ryngwladol nad oes ateb iddi.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Icon-gears.png Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato