Owain Owain

Oddi ar Wicipedia
Owain Owain
Ganwyd11 Rhagfyr 1929 Edit this on Wikidata
Pwllheli Edit this on Wikidata
Bu farw19 Rhagfyr 1993 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwyddonydd niwclear, addysgwr, ysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amY Dydd Olaf, Amryw Ddarnau Edit this on Wikidata
Arddullgwyddonias Edit this on Wikidata
PlantRobin Llwyd ab Owain Edit this on Wikidata

Roedd Owain Owain (11 Rhagfyr 192919 Rhagfyr 1993)[1] yn llenor toreithiog, gwleidydd, gwyddonydd niwclear a darlithydd Cymreig ac yn sefydlydd a golygydd cyntaf Tafod y Ddraig ac un o brif sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith. Ef, yn fwy na neb arall, a 'osododd seiliau Cymdeithas gan ei chreu'n fudiad ymgyrchu effeithiol' yn ôl Dafydd Iwan yn ei gyfrol Pobl Dafydd Iwan.[2] Seiliwyd albwm Gwenno Saunders Y Dydd Olaf ar nofel ffug-wyddonol, broffwydol o'r un enw gan Owain Owain.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Owain Owain yn fab i Richard Alfred Owen (chwarelwr) a Mary Jones ar 11 Rhagfyr 1929 yn 22 Lôn Caernarfon, Pwllheli, cyn symud yn 1946 i "Talarfor", Ffordd y Cob, Pwllheli. Oddi yno, yn Hydref 1948 hyd at Gorffennaf 1952, symudodd i 108 Ffordd y Castell, Maesgeirchen, lle arhosodd tra'n fyfyriwr.[3] Yn y Coleg, cyfarfu ag Eira merch fferm o Ben-bre, a oedd hefyd yn fyfyriwr. Wedi gorffen gradd meistr mewn Cemeg ym Mhrifysgol Bangor yn 1952, fe'i consgriptiwyd i'r fyddin lle bu'n swyddog am ddwy flynedd, nes iddo bledio ei fod yn heddychwr. Symudwyd ef yn un o reolwyr Windscale, Cumbria, oherwydd ei arbenigedd mewn ffiseg a chemeg. Gyn 1954 ac 1955, gweithiodd Owain fel athro yn Llundain gan aros yn 19 York Street ac yna 125 Dawlish Road, Leyton.

Daeth yn sefydlydd a golygydd cyntaf Tafod y Ddraig. Ym Mangor, sefydlodd y syniad o weithredu drwy system o “gelloedd” pan sefydlodd gell cyntaf y Gymdeithas, ac ef oedd ei hysgrifennydd cyntaf. Dywed Dafydd Iwan i Owain “roi'r frwydr mewn cyd-destun byd-eang”. Creodd yn y Gymraeg y cysyniadau o 'Gyfoeth yr Amrywiaeth' ac ysgrifennodd yn helaeth yn erbyn 'y llwydni llwyd' a'r 'Ddelwedd Fawr'.

Rhwng 1960 a Haf 1968, bu'n ddarlithydd yng Ngholeg y Normal, Bangor, a oedd yn goleg hyfforddi athrawon. Bu'n ddarlithydd hefyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn bennaeth llawn amser cyntaf Gwersyll Glan-llyn ( - Haf 1968) ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Addysg Gwynedd.

Darlith Radio Tynged yr Iaith[golygu | golygu cod]

Yn dilyn y ddarlith radio Tynged yr Iaith, ymatebodd Owain drwy ffurfio Cymdeithas yr iaith Gymraeg, gyda'i bencadlys ym Mangor. Rhoddodd ffurf a siâp i frwydrau Cymdeithas yr Iaith drwy ei ysgrifau a'i lythyrau.

Mae'n awdur i 14 o lyfrau gan gynnwys erthyglau, nofelau, storïau byrion, cerddi ac yn y blaen, megis Y Dydd Olaf, Amryw Ddarnau a Bara Brith; mae dwy o'i gyfrolau wedi eu gosod ar y we fyd-eang ers 2000 ar "owainowain.net". Enillodd ei gyfrol Mical, sef cofiant dychmygol o'r Parchedig M. Roberts, wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1977.

Datblygodd syniadau a themau arloesol megis 'Y Fro Gymraeg': 'Oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir...,' meddai ar y 12 Tachwedd 1964 yn Y Cymro. Flynyddoedd yn ddiweddarach, datblygwyd y syniadau hyn gan bobl megis yr Athro J. R. Jones ac Emyr Llewelyn.

Y gwyddonydd[golygu | golygu cod]

Roedd yn wyddonydd niwclear yn y 50au, a bathodd nifer o dermau gwyddonol megis 'Gwennol y Gofod', a chysyniadau a bathiadau gwleidyddol eraill megis "gwledydd Prydain" yn hytrach na "Phrydain", "Byddin Lloegr" yn hytrach na "Byddin Prydain". Roedd yn golofnydd 'Nodion Gwyddonol' Y Cymro am flynyddoedd gan ysgrifennu'n helaeth yn erbyn gorsafoedd niwclear. Yng Ngorffennaf 1969, fe ysgrifennodd yn Y Cymro: Yn syml, mae'r [cyfrifiadur] yn ei gwneud hi'n bosibl cofnodi'r cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn - o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw ran o'r wybodaeth honno... 'Beth fydd effaith hyn i gyd ar fyd addysg, dyweder yn 2000 O.C.? Yn gyntaf, fe fydd addysgu'r dechneg o ddefnyddio cyfundrefn o gyfrifyddion yn bwysicach - yn llawer pwysicach - na chael plant i gofio rhestri di-bendraw o ffeithiau; y cyfrifiadur, bellach, fydd y "cof". Yn ail, fe welir doethineb y gogwydd diweddaraf i wneud addysg yn rhywbeth sy'n codi o brofiad, gyda'r disgybl, yn hytrach na'r athro yn bwynt canolig. Ac yn drydydd fe fydd athrawon y flwyddyn 2000 yn cael eu dyrchafu o fod yn gyflenwyr ffeithiau i fod yn dywyswyr - yn tywys y disgyblion i gyfeiriad y profiadau gwerthfawr a chyfoethog hynny sy'n gyfystyr a gwir addysg.[4]

Marw[golygu | golygu cod]

Wedi ymddeol fel Dirprwy Gyfarwyddwr Gwynedd, canolbwyntiodd ar godi cylchrediad Y Gwyliedydd, fel golygydd. Cynyddodd y cylchrediad o 300 i 3,000. Bu fawr yn Ysbyty Bryn Seiont, Caernarfon ar 12/12/1993.

Dyfyniadau o'i waith[golygu | golygu cod]

  • Cwrteisi cynhenid y Cymro yw gelyn pennaf yr iaith Gymraeg.[5]
  • Pan fo argyhoeddiadau lleiafrif yn gwrthdaro yn erbyn rhagfarnau mwyafrif, ni ellir gweithredu'n gyfiawn bob amser heb weithredu'n anghyfreithlon hefyd.[6]
  • Enillwn y Fro Gymraeg, ac fe enillir Cymru, ac oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir.[7]
  • Oni achubir y Fro Gymraeg, nid Cymru ond rhyw dalaith orllewinol, Brydeinig a ddaw'n 'rhydd' o grafanc Llundain.[8]
  • Yr amrywiaeth sy'n ein byd yw gwir gyfoeth dynoliaeth; o golli'r amrywiaeth, unffurfiaeth lwyd, nid undod a geir.[9]
  • Mae tystiolaeth ein pobol wedi'i Phrydeinio - gan gofio mai cyfystyron yw "Seisnig" a "Phrydeinig," bellach. Yn gyfrwys, yn graff, yn gwbl fwriadol, Prydeiniwyd tystiolaeth ein pobol.[10]
  • Mae'r Gymraeg mewn argyfwng. Ac mewn byd lle mae amrywiaeth yn diflannu (ond eto heb ddod ag undod yn ei le), y mae colli neilltuolrwydd iaith arbennig - a'r llenyddiaeth a'r diwylliant a'r ffordd o fyw sydd ynghlwm wrth iaith - yn golled i'r byd. Nid undod yw unoliaeth; nid anghydfod yw amrywiaeth.[11]
  • Mor hawdd yw’n cyflyru! I mi, hyd yn oed — un o’r Ychydig dethol sy’n berchen cyfrinach y platinwm — mae’r Uchel Gyfrifydd yn fwy o ddyn nag o beiriant. Mae ganddo ‘bersonoliaeth’, a ‘chnofeydd yn ei grombil’!
Peiriant yn ddyn — a dynion yn beiriannau.[12]
  • fratolish hiang perpetshki[12]

Dyfyniadau amdano[golygu | golygu cod]

  • Roedd hefyd yn un o'r addysgwyr cyntaf i weld pwysigrwydd y cyfrifiadur, a rhagwelai yn niwedd y 60au y byddai'r cyfrifiadur yn ffynhonnell ddihysbydd o wybodaeth yn y dyfodol, ac yn offeryn canolog ym myd addysg, gyda'r athro'n 'dywysydd' a'r plentyn yn gwneud ei ymchwil ei hun.' Hyd at y 2000au, cofio ffeithiau oedd yr offeryn canolog a ddefnyddiwyd ers canrifoedd.[13]
  • "Nid oedd yn ffigwr cyhoeddus ar lwyfannau gwleidyddol oedd un o'r rhai pennaf i osod seiliau Cymdeithas yr Iaith. Cawr o ddyn."[13]
  • "Proffwyd tanbaid y deffroad iaith yng Nghymru." Emyr Llewelyn, Y Faner Newydd, Rhif 35, Rhagfyr 2005.
  • "Daeth yn sbardun ac yn ysgogwr i nghenhedlaeth i, a does dim dwywaith nad oedd yn gyfrifol am osod sylfeini cadarn i'r Gymdeithas... Gwelai Owain frwydr y Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol, a gwelai ein diwylliant fel caleidosgop amryliw gyda'r iaith fel canolbwynt.[14]
  • "Ni welwyd dim byd tebyg i'r llyfr hwn (Y Dydd Olaf) yn ein hiaith o'r blaen, na dim byd hollol debyg mewn unrhyw iaith. Llawenhewn fod y math yma o ddisgleirdeb yn bosibl yn y Gymraeg." Pennar Davies, Broliant 'Y Dydd Olaf' 1976.
  • "... un o'n llenorion mwyaf amryddawn..." Llais Llyfrau 12, (Cyngor Llyfrau Cymru).
  • "Edmygaf yr egnïo rydych yn ei wneud dros yr iaith..." Saunders Lewis, 1963.
  • "Ym Mangor, gan Owen Owen (Owain wedyn, fel yr hysbysodd, wedi Calan 1965) a'i gefnogwyr yr oedd yr unig gangen go-iawn. Wedi magu profiad yn herio'r coleg gwrthnysig, aeth ati fel mudiad ynddo'i hun." 1989, Gwilym Tudur, Wyt ti'n Cofio?, (Gwasg Y Lolfa).
  • "Bathwyd y term 'Y Fro Gymraeg' gan Owain Owain, cadeirydd cangen Bangor o'r Gymdeithas yn rhifyn Ionawr 1964 o Tafod y Ddraig, pan gyhoeddodd fap yn dangos dosbarthiad y siaradwyr Cymraeg ledled Cymru. Mewn sawl erthygl yn y wasg yn yr un flwyddyn pwysleisiodd bwysigrwydd achub yr iaith yn Y Fro Gymraeg: 'enillwn y Fro Gymraeg ac fe enillir Cymru.' (Tudalen 146)... Cydiodd syniad Y Fro Gymraeg yn nychymyg nifer o genedlaetholwyr." Trwy Ddulliau Chwyldro ... ?, Dylan Phillips, 1998.
  • "Arloesol yw'r gair i ddisgrifio Owain. Sylweddolodd rym y pethau bychain, a'u rhoi ar waith. Cyn bod sôn am Gymdeithas yr Iaith galwodd y gyfres o bamffledi yn Tafod y Ddraig..." Maldwyn Lewis, Wir yr!, 2006.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Teitl Cyhoeddwr Dyddiad cyhoeddi Sylwadau
Amryw Ddarnau Cyhoeddiadau Modern 23 Chwefror 1969 Storiau Byrion, Ysgrifau, Erthyglau, Tafod y Ddraig
Bara Brith Cyhoeddiadau Modern Storïau Byrion 31 Awst 1971 Llythyrau J H, Cerddi, Posau, Ysgrifau'r Iaith. Gwobr Goffa Griffith John Williams, Yr Academi Gymreig, Medi 1972
Hei Ho! Dryw (Cyd-bwyllgor Addysg Cymru) 23 Mawrth 1972 Llyfr gwyddonol i blant. Gwobr Gyntaf Cystadleuaeth Llyfrau Pwyllgor Addysg Meirionnydd.
Y Byd A'i Bethau Christopher Davies 28 Rhagfyr 1972 Ad-argraffiad o 'Nodion Gwyddonol' Y Cymro o 23 Ebrill 1969 ymlaen. Oedolion
Y Peiriant Pigmi Gwasg Gomer Awst 1973 Casgliad o Straeon Byrion, rhai wedi bod yn fuddugol mewn cystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Y Byd O'n Cwmpas Cyhoeddiadau'r BBC 1974 – 1976 Llyfrau i ddisgyblion yn cyd-fynd â'r gyfres radio.
Rho Gynnig! Christopher Davies; Cyd-bwyllgor Addysg Cymru Mawrth 1974 Posau gwyddonol / gofod ayb i blant
Yr Ymlusgiaid Cyhoeddiadau Modern; Argraffwyd gan Wasg Corfina, Bwdapest Tachwedd 1974 Llyfr Swoleg i blant. Addasiad o'r llyfr Hwngareg.
Cyfoeth y Creigiau Gwasg Dyfed; Cyd-bwyllgor Addysg Cymru Rhagfyr 1975 Addasiad o'r Saesneg
Bwrw Haul Gwasg Gomer Rhagfyr 1975 Erthyglau ac ysgrifau gwyddonol a gwleidyddol
A-Bi-Ec y Gwyddonydd Yr Urdd (argraffwyd gan y Cambrian News, Aberystwyth) Mehefin 1976 Erthyglau Gwyddonol i blant. Ad-argraffiad o'r gyfres yn Cymru'r Plant.
Mical Gwasg Gomer Tachwedd 1976 Cofiant dychmygus Y Parch M. Roberts, Pwllheli. Gwobr Cyngor Celfyddydau Cymru (300 punt, Ebrill 1977)
Y Dydd Olaf Christopher Davies Rhagfyr, 1976 Nofel ffug-wyddonol i oedolion. Rhagair gan Pennar Davies.
Cerddi Ddoe a Fory Gwasg Gomer Pasg 1977 Casgliad o gerddi i blant

Gwobrau ac anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mynegai Marwolaethau Lloegr a Chymru, Owain Owain, Rhagfyr 1993, Dyddiad Geni: 11 Rhagfyr 1929, Ardal Cofrestru: Caernarfon, Rhif Cofrestr: 40, Rhif Cofnod: 46
  2. Pobol Dafydd Iwan, Gwasg y Lolfa (2015) (tudalen 125)
  3. Gwefan Owain Owain
  4. owainowain.net; adalwyd 14 Rhagfyr 2011.
  5. Barn, Awst, 1963; cyhoeddwyd ar y we ar owainowain.net.
  6. Y Faner 10/09/1964 adalwyd 30 Tachwedd 2020.
  7. cyhoeddwyd yr erthygl 'Oni Enillir y fr Gymraeg' yn Y Cymro, 12 Tachwedd, 1964; ad-argraffwyd yn Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971). Gw. hefyd Y Faner 26.11.1964.
  8. Allan o Yr Iaith - Arf Wleidyddol; ysgrif a gyhoeddwyd yn Y Faner; 12 Tachwedd 1964; adalwyd 30 Tachwedd 2020.
  9. Allan o'r gyfrol Llon Gyfarchion (Ysgol Uwchradd Glan Clwyd), Gwasg Gee, Dinbych 1977 (Llyfr llofnofion i ddathlu penblwydd yr ysgol); adalwyd 30 Tachwedd 2020.
  10. Allan o ysgrif 'Y dystiolaeth brydeinig'; (Cyhoeddwyd yn Y Faner, 21 Hydref, 1965. Dosbarthwyd ar ffurf pamffled, (1,750 o gopïau) ar 26 Hydref, 1965). Ad-argraffwyd yn Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).
  11. owainowain.net; Llythyr Agored at y Cenhedloedd Unedig. Cyhoeddwyd fel rhifyn arbennig (3 iaith; 5,000 o gopiau) o Tafod y Ddraig, Mai, 1964.) 6 Mai 1964 Western Mail; Ad-argraffwyd yn Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).
  12. 12.0 12.1 allan o Y Dydd Olaf (ISBN 9780715402894 (0715402897); cyhoeddwyd Awst 1976 gan Wasg Christopher Davies, Abertawe); atgynhrchwyd ar y we am ddim ar wefan slebog.net.
  13. 13.0 13.1 Dafydd Iwan yn ei gyfrol Pobol Dafydd Iwan, Gwasg y Lolfa (2015) (tudalen 125):
  14. Dafydd Iwan ar wefan O.O

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]