Y Gwyliedydd

Oddi ar Wicipedia
Hen
Rhif 1 (2 Mawrth 1877)
Newydd
Rhif 200 (Ebrill a Mai 2016)
Dau rifyn o'r Gwyliedydd

Cylchgrawn Cristnogol Cymraeg a gyhoeddir gan Eglwys y Methodistiaid Wesleaidd yng Nghymru yw Y Gwyliedydd. Bu Owain Owain ac Angharad Tomos ymysg ei olygyddion.

Ni ddylid ei ddrysu efo'r cylchgrawn Eglwysig o'r un teitl a gyhoeddwyd rhwng 1822 ac 1837 - mae nifer o rifynnau o'r cylchgrawn hwnnw wedi eu gosod ar y we.[1] Sefydlwyd y Gwyliedydd yn 1877 a chasglwyd arian drwy danysgrifiadau er mwyn sefydlu The Gwalia Printing and Publishing Company Limited, cwmni argraffu i'w gyhoeddi, flwyddyn yn gynharach. Yr Eurgrawn Wesleaidd oedd cyn hynny, a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1809. Yn wahanol i'r Eurgrawn a oedd yn canolbwyntio ar bregethau, egluro'r Ysgrythyrau ayb, canolbwyntiai'r Gwyliedydd, yn wythnosol ar newyddion y dydd yn enwedig yn yr eglwysi. Yn 1960 bu'n rhaid newid i fod yn bythefnosolyn ac yn 1962 newidiodd yr Eurgrawn i fod yn chwarterolyn.

Erbyn diwedd a 1980au roedd cylchrediad y Gwyliedydd Newydd wedi disgyn i tua 300 rhifyn y mis ac yn Ionawr 1987 cyhoeddwyd y gwyliedydd (heb y gair 'Newydd' ar fformat llawer mwy modern na chynt gyda llawer o bytiau byr, bachog yn hytrach na thudalennau cyfan ar un pwnc diwynyddol. Roedd ynddo golofn farddol dan ofal Tilsley, posau, cartwnau ac o fewn blwyddyn roedd y gwerthiant wedi cynyddu i 3,000.[2]

Ysgrifennodd Gwilym R. Tilsley englyn i'r Gwyliedydd, a'i dafod yn ei foch:

I'w arddel yn ei urddas - ymrown ni
I'w noddi yn addas,
A rhoer i'r golygydd ras
I daflu popeth diflas.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Gwyliedydd ar "Google books"
  2. Gweler: Y Gwyliedydd, Rhif 200, tud. 7