Y Peiriant Pigmi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Peiriant Pigmi  
Awdur Owain Owain
Artist y clawr Elgan Davies
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg
Pwnc (pynciau) Amrywiol / Bywyd
Cyhoeddwr Gwasg Gomer
Dyddiad cyhoeddi Gorffennaf 1973[1]
Math o gyfrwng Casgliad o storiau byrion
ISBN 0850882095
Argaeledd allan o brint

Casgliad o storiau byrion gan Owain Owain yw'r Peiriant Pigmi. Cyhoeddwyd yn 1973 gan Wasg Gomer ac argraffwyd gan J D Lewis a'i Feibion Cyf, Llandysul. Ysgrifennwyd y gwaith yn ail hanner y 1960au a dechrau'r 70au.

Bu'r stori gynta yn y gyfrol hon yn arobryn yng nghystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor a'r cylch 1971. Yn ôl y beirniad, Kate Roberts, (gweler y broliant): "Alegori ddychanol ragorol wedi'i hysgrifennu mewn Cymraeg graenus... " a dywed yr awdur John Gwilym Jones fod yr awdur "wedi consurio yn hytrach na chofnodi... mae ffresni yn ei fynegiant sy'n ychwanegu at draddodiad y Stori Fer Gymraeg."

Bu'r storiau Lle Mae Clod yn Deilwng, Manglo, Hap a Damwain, Y Dwthwn, Pleserau a Gwerthoedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Pantyfedwen yn 1972.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]