Y Dydd Olaf

Oddi ar Wicipedia
Y Dydd Olaf
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol, nofel apocolyptaidd Edit this on Wikidata
AwdurOwain Owain
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1976, Awst 2021 Edit this on Wikidata
ISBN0715102897
Dechrau/Sefydlu1967 Edit this on Wikidata
GenreNofel ffuglen wyddonol
Lleoliad cyhoeddiAbertawe Edit this on Wikidata
Prif bwncdeallusrwydd artiffisial, robot dynoid, cyflyru llwyr, totalitariaeth, rhyddid meddwl, gwyliadwraeth gorfodol gan y wladwriaeth Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithCymru Edit this on Wikidata
Erthygl am y nofel wyddonias yw hon; am albwm Gwenno Saunders gweler yma.

Nofel wyddonias neu ffug-wyddonol gan Owain Owain yw'r Dydd Olaf a gyhoeddwyd yn 1976 gan Wasg Gomer, Llandysul. Cyfieithwyd y Dydd Olaf i'r Pwyleg a thorfolwyd cyfieithiad i'r Saesneg. Mae ar gael ar ffurf elyfr nid-am-arian a ellir ei lawrlwytho o wefan Y Twll (Carl Morris) a gwefan Slebog.[1] Yn 2020 fe'i cyfieithwyd hefyd i'r Gernyweg gan yr awdur Sam Brown[2], ac yng Ngorffennaf 2021 cafwyd ailargraffiad Cymraeg gan Wasg y Bwthyn, wedi i'r llyfr fod allan o brint ers bron i 50 mlynedd.[3][4]

Clawr Y Dydd Olaf (Gwasg y Bwthyn; 2021)
Clawr y fersiwn Cernyweg An Jydh Finek (Sam Brown; Mehefin 2020)

Mae un o'r prif gymeriadau'n berson du, galluog, sy'n anarferol iawn i lyfr o'r cyfnod hwn.

Dywedodd y beirniad llenyddol Pennar Davies am y nofel (gweler y broliant) Ni welwyd dim byd tebyg i'r llyfr hwn (Y Dydd Olaf) yn ein hiaith o'r blaen, na dim byd hollol debyg mewn unrhyw iaith. Llawenhewn fod y math yma o ddisgleirdeb yn bosibl yn y Gymraeg." [5] Mewn adolygiad o'r gyfrol yn 2014 dywedodd Miriam Elin Jones, 'I ddweud y gwir, mae rhagymadrodd Pennar Davies i’r nofel hon yn dweud y cwbl. Dyma nofel wreiddiol yn y Gymraeg, a nofel fydd yn eich syfrdanu... clasur Cymraeg, heb os.' [6]

Mewn cyfweliad gyda Gwenno Saunders a mab Owain, sef Robin Llwyd ab Owain dywedwyd i'r gwaith gael ei ysgrifennu yn 1967/8 ond na chyhoeddwyd y gwaith tan i'r awdur ddanfon y proflenni at Pennar Davies, wedi methu cael unrhyw wasg i gyhoeddi'r nofel. 9 mlynedd yn ddiweddarach, yn 1976, wedi derbyn broliant Pennar Davies, cyhoeddwyd y nofel.[7]

Plot[golygu | golygu cod]

Murlun o Gwenno Saunders a'r Dydd Olaf; Stryd Womanby, Caerdydd; 2017.

Mae'r stori'n ymdrin a bachgen o'r enw Marc a phytiau o'i ddyddiaduron a llythyrau ato, sy'n nodi gafael y 'Brawd Mawr' arno ef, a llithra bob yn hyn a hyn wedi ei gyflyru i iaith synthetig y Frawdoliaeth: ‘Fratolish Hiang Perpeski'. mae hyn yn brawf o effeithiolrwydd y cyflyru y ceisia ddianc rhagddo - dianc oddi wrth y dyfodol dystopaidd. Ymgais sydd yma gan yr awdur i'n rhybuddio o'r dull tawel mae'r 'Ddelwedd Fawr' yn cyflyru ei dinasyddion, drwy eu moldio'n un corff totalitaraidd, unffurf, neu fel y dywed Owain dro ar ôl tro yn ei gerddi - y 'llwydni llwyd'.

Ceir yma hefyd stori garu rhwng y cymeriadau, gyda rhai'n derbyn pliwtoniwm i wrth-weithio'n erbyn y cyflyru, tra bod eraill yn ymgorffori'n rhan o'r Frawdoliaeth, gan gynnwys y dyn Cwansa, sy'n troi o fod yn lledmerydd dros hawliau lleiafrifoedd i fod yn eu rheoli. Isthema arall yw a ellir cyfiawnhau gweithred niweidiol, negyddol fel aberthu unigolyn er mwyn achub dynoliaeth. Penderfyniad Marc yw peidio a gwneud hynny, a thry'r byd i ddwylo'r Frawdoliaeth.

Ymhen peth amser, daw oes y robotiaid i ben, o bosib oherwydd rhyfel niwclear, ac o'r ychydig rai sy'n weddill, gwelid oes newydd, a'r unig destun neu wybodaeth sydd wedi goroesi yw dyddiaduron a llythyrau Marc, a guddiodd mewn cod mewn iaith fechan (y Gymraeg) nad oedd yr Uchel Gyfrifydd yn ei deall. Gwnaed hyn gyda chymorth rhyw gant o ffrindiau oedd wedi derbyn y pliwtoniwm, ac Alffa-Omega 'pwy bynnag (neu beth bynnag) yw hwnnw'.

Proffwydo[golygu | golygu cod]

Mae'r nofel yn rhagweld nifer o bethau sydd wedi cael eu gwireddu ers 1967-8, gan gynnwys:

  • gwartheg yn cael eu cadw i fewn drwy'r flwyddyn, heb weld yr un glaswelltyn.
  • cynaeafu DNA dyn a'i impio i anifail, robot neu greadur sy'n gyfuniad o'r ddau
  • gwair a choed plastig
  • robotiaid yn cael eu defnyddio i bwrpas rhyw
  • na ellir gwahaniaethu rhwng robot a dyn
  • pobl di-ryw / dirywiaid, di-fronnau nad ydynt yn geni plant
  • cuddio cod cyfriadurol drwy ei roi mewn 'is-is-is ffeil', mewn iaith gyfrin ayb
  • gwladwriaethau'n dileu'r syniad o 'gyfoeth yr amrywiaeth' drwy gyflyru.

Adwaith i'r gyfrol[golygu | golygu cod]

  • Gosododd y Dr Miriam Elin Jones y nofel yn gyntaf o'r holl waith ffugwyddonol a sgwennwyd erioed yn y Gymraeg. Nododd, "Dyma nofel wreiddiol yn y Gymraeg, a nofel fydd yn eich syfrdanu. Clasur Cymraeg, heb os".[8]
  • Yn ôl yr Athro Gareth Ffowc Roberts yn Mae Pawb yn Cyfrif: "Un o ryfeddodau llenyddiaeth Gymraeg yw cyfrol Owain Owain Y Dydd Olaf a ysgrifennwyd 1966-8; llyfr ffug-wyddonol sy'n rhagweld dylanwad cyfrifiaduron ar ein byd a phwysigrwydd dal ein gafael ar y meddwl rhydd annibynnol."
  • Cyhoeddodd Dr Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4, "Does dim un nofel Gymraeg wedi trafod effeithiau cymdeithasol datblygiad technoleg mewn ffordd mor aeddfed a gwreiddiol, a hynny mor bell cyn i'r effeithiau hynny ddechrau ein taro ni."
  • "Mae'n nofel fer, gweddol hawdd ei deall. Byddai disgyblion ysgol yn gallu ei chymharu a The Terminator, Blade Runner neu Westworld er enghraifft." medd Elan Gug Muse; Golwg; 10 Medi 2020.
  • Mewn cyfweliad yn Golwg ac ar wefan WelshNot yn 2014 dywedodd y gantores Gwenno Saunders, "Darllenais lyfr fantastig y llynedd - Y Dydd Olaf gan wyddonydd a drodd yn nofelydd, Owain Owain. Mae am bobl yn troi'n beiriannau rhywdro yn y dyfodol a chofnodir hynny mewn dyddiadur gan y prif gymeriad - yn Gymraeg lle bod y peiriannau'n deall.[9] Rhyddhawyd albwm ganddi hi o'r un enw (Y Dydd Olaf) ar label Peski records, am thema'r nofel.[10][11]
Murlun Caerdydd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Y Twll; Carl Morris; adalwyd 16 Gorffennaf 2017.
  2. Copi am ddim o'r fersiwn Cernyweg
  3. cantamil.com; adalwyd 13 Awst 2021.
  4. golwg.360.cymru; Golwg 360; cyfweliad gan Non Tudur; adalwyd 13 Awst 2021
  5. "The Wayback Machine". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-26. Cyrchwyd 2012-02-26.
  6. [1] Enw'r wefan: GWYDDONIAS; Teitl: ‘TOP 10′ O LYFRAU FFUG-WYDD CYMRAEG GAN MIRIAM ELIN JONES; accessed 16-10-2014
  7. Radio Cymru; 'Sesiynau'r 'Steddfod'.
  8. Miriam Elin Jones sy’n rhestri nofelau ffug-wydd Cymraeg sy’n werth eu darllen.; adalwyd 29 Tachwedd 2020.
  9. Gwefan www.welshnot.com; I read a fantastic book last year called ‘Y Dydd Olaf’ (The Last Day) by a scientist turned novelist called Owain Owain. It’s about people being turned into machines sometime in the future and the main character writes a diary documenting it all in Welsh so the machines can’t understand it. I liked the idea of a language being able to protect you, and the blur of where a human being ends and a machine/computer begins.
  10. http://fiverosespress.net/; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. Taking its cue, and title, from Owain Owain’s 1976 novel about a dystopian future where the robots have taken over and are busily turning the human race into clones through the use of medication, Y DYDD OLAF blends big themes (including patriarchal society, government-funded media propaganda, cultural control, technology, isolation and the importance of, and threat to minority languages), great tunes, and a real sense of revolution to produce a powerful, politically-charged concept album.
  11. Gwefan Gwenno Saunders[dolen marw] adalwyd 8 Medi 2014

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: