Gareth Ffowc Roberts
Gareth Ffowc Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mai 1945 Treffynnon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Swydd | athro emeritws |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Cyfri'n Cewri, Mae Pawb yn Cyfrif |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Mae Gareth Ffowc Roberts (ganwyd 23 Mai 1945) yn awdur ac yn Athro Emeritws mewn Addysg ym Mhrifysgol Bangor ac yn ŵr sydd wedi poblogeiddio mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg ers y 1980au mewn erthyglau a llyfrau ac ar y cyfryngau. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y dulliau newydd o gaffael cysyniadau mathemategol mewn cyd-destunau dwyieithog. Dywed ar ei wefan: "Poblogeiddio mathemateg yw fy nod trwy ddangos fod y pwnc difyr hwn yn cyffwrdd pob un ohonom."[1]
Yn 2010 dyfarnwyd iddo'r Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg gan yr Eisteddfod Genedlaethol[2] a blwyddyn yn ddiweddarach, yn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro yn 2011, fe'i derbyniwyd i wisg wen er anrhydedd, Gorsedd y Beirdd.[2]
Mae'n gosod posau mathemategol dyddiol ar Twitter ers 2012 yn ogystal â phosau wythnosol ar Radio Cymru ers 2012 ac ar gyfer Radio Wales ers 2014.
Magwraeth a gwaith
[golygu | golygu cod]Mae'n hannu o Dreffynnon, Sir y Fflint lle derbyniodd ei addysg gynradd ac uwchradd.
Bu'n Ymgynghorydd Mathemateg gyda Chyngor Sir Gwynedd cyn symud i’r Coleg Normal, Bangor ble daeth yn Brifathro’r coleg ac yna'n Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Bangor ac yna'n Athro Addysg yn y brifysgol honno.[2]
Enillodd ei radd Meistr mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Rhydychen (dosbarth cyntaf dwbl) yn 1967, enillodd ddoethuriaeth mewn Cemeg Ddamcaniaethol o Brifysgol Nottingham yn 1970[2] ac ym Mawrth 2018 ac MEd ym Mhrifysgol Cymru yn 1981. Yn ddiweddarach, fe'i gwnaed yn Gymrodor y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Traddododd ddarlith ar y cyd gyda Dr Rowland Wynne yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 7 Hydref 2015 ar y teitl "Copenhagen a Chymru".[3] Roedd y ddarlith yma'n un o gyfres o ddarlithiau gwyddonol a drefnwyd i gyd-fynd ag arddangosfa "Dirgel Ffyrdd"[4] yn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 7 Gorffennaf 2015 a 9 Ionawr 2016.[5]
Cyflogaeth
[golygu | golygu cod]- 1996-05 Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor
- 1996-04 Pennaeth Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor
- 1994-96 Prifathro Coleg Normal, Bangor
- 1988-93 Prif Ddarlithydd mewn Mathemateg, Coleg Normal, Bangor
- 1982-88 Ymgynghorydd Mathemateg, Awdurdod Addysg Gwynedd
- 1981-82 Uwchddarlithydd, Politechnig Cymru
- 1980-81 Tiwtor Staff, y Brifysgol Agored
- 1971-80 Darlithydd ac Uwch-ddarlithydd Politechnig Cymru
- 1970-71 Cymrawd Ymchwil, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru
O ran ei gyfrifoldebau allanol cyfredol perthnasol: bu'n Gadeirydd panel cystadleuaeth fathemategol flynyddol yn Gymraeg ar gyfer ysgolion uwchradd mewn partneriaeth â’r Urdd (1983-) a bu'n olygydd cyfres Gwyddonwyr Cymru / Scientists of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 2015–).
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]Cychwynnodd ei yrfa gydag ymchwil mewn cemeg ddamcaniaethol cyn newid i addysg mathemateg, gan hefyd gwmpasu datblygiadau cwricwlaidd ac adnoddau, gyda phwyslais ar y cyd-destun Cymraeg ac addysg ddwyieithog. Ym maes cemeg ddamcaniaethol cyhoeddodd nifer o erthyglau arbenigol mewn cylchgronau gwyddonol. Mae'r cyhoeddiadau ym maes addysg ac addysg mathemateg yn cynnwys erthyglau niferus mewn cylchgronau athrawon ac adnoddau dosbarth amrywiol, ynghyd â’r canlynol:
- Roberts, Gareth (2000) Bilingualism and Number in Wales. International Journal of Bilingualism and Bilingual Education 3 (1), 44-56.
- Roberts, Gareth (gol.) (2002) Addysgu dwyieithog mewn cyrsiau HAGA – Bilingual teaching in ITET courses. ESCalate (Education Subject Centre Advancing Learning and Teaching in Education)
- Roberts, Gareth a Cen Williams (goln) (2003) Addysg Gymraeg – Addysg Gymreig. Prifysgol Bangor.
- Roberts, Gareth a W. Gwyn Lewis (goln) Trafodion Addysg – Education Transactions, Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor.
Ers ymddeol mae wedi cyhoeddi ar gyfer cynulleidfa mwy cyffredinol ym maes hanes mathemateg a mathemateg boblogaidd, gan gynnwys:
- Roberts, Gareth (cyd-olygydd) (2012, 2013) Robert Recorde: The Life and Times of a Tudor Mathematician (Gwasg Prifysgol Cymru)
- Roberts, Gareth Ffowc (2012) Mae Pawb yn Cyfrif (Gwasg Gomer)
- Roberts, Gareth Ffowc (2013) Posau Pum Munud (Gwasg Gomer), (2014) Posau Pum Munud 2 (Gwasg Gomer), (2016) Posau Pum Munud 3 (Gwasg Gomer)
- Roberts, Gareth Ffowc (2016) Count Us In (Gwasg Prifysgol Cymru)
- Roberts, Gareth Ffowc a Helen Elis Jones (2018, 2019) Posau Bach – Mini Puzzles (Atebol Cyfyngedig)
- Roberts, Gareth Ffowc (2020, yn y wasg) Cyfri’n Cewri (Gwasg Prifysgol Cymru)
Cyhoeddiadau ar y we
[golygu | golygu cod]- Gareth Ffowc Roberts, Pi-day-2015 William Jones, The Welshman who invented pi The Guardian online 14 Mawrth 2015 https://www.theguardian.com/science/alexs-adventures-in-numberland/2015/mar/14/pi-day-2015-william-jones-the-welshman-who-invented-pi
- Gareth Ffowc Roberts, The Conversation: How a farm boy from Wales gave the world pi 14 Mawrth 2016
https://theconversation.com/how-a-farm-boy-from-wales-gave-the-world-pi-55917
- Gareth Ffowc Roberts, Institute of Mathematics and its Applications, cyfraniad yn Gymraeg a Saesneg i wefan gyrfaeodd mewn mathemateg: Y dihafal Robert Recorde a The unequalled Robert Recorde (2016).[6][7]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae'n briod a Menna ac mae ganddo ddau o blant - Llinos, sy'n feddyg teulu yng Nghaerfyrddin ac sydd wedi ymddangos yn rheolaidd ar deledu (cyfres Doctor Doctor a Prynhawn Da), a Huw Meredydd, sy'n gweithio gyda'r BBC ac yn fwy adnabyddus fel y cerddor Huw M.[8]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Robert Recorde (The Life and Times of a Tudor Mathematician) (Gwasg y Brifysgol; 15 Hyd 2013)[9]
- Mae Pawb yn Cyfrif (Gwasg Gomer 2012) - Trafodaeth ar agweddau cyfoes y Cymry at rifau a rhifo[10]
- Posau Pum Munud (cyfrol 1 a 2) (Gwasg Gomer 2014) - Pigion o bosau dyddiol a drydarwyd ar Twitter[11]
- Count Us In (Gwasg Prifysgol Cymru; 2016) - cyfrol Saesneg am le mathemateg yng Nghymru a Chymru o fewn y byd mathemateg
-
Cyfri'n Cewri; Gwasg Prifysgol Cymru (2020)
-
Addysg Gymraeg, Addysg Gymreig (Ysgol Addysg Prifysgol Cymru Bangor; 20 Mawrth 2003)
-
Mae Pawb yn Cyfrif (Gwasg Gomer; 14 Awst 2012)
Erthyglau o bwys
[golygu | golygu cod]- Meddiannu ein Mathemateg, Taliesin, 140, Gaeaf 2010, tt. 19–24.
- Trafodion Addysg: Ennill Iaith (2002) Cyd-olygydd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gareth Ffowc Roberts; adalwyd 27 Tachwedd 2015
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Gwefan Llenyddiaeth Cymru; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 27 Tachwedd 2015
- ↑ https://www.llgc.org.uk/blog/?p=9976&lang=cy
- ↑ Dirgel Ffyrdd Archifwyd 2016-03-17 yn y Peiriant Wayback Natur Archifwyd 2016-03-17 yn y Peiriant Wayback
- ↑ https://www.llgc.org.uk/blog/?m=201506&lang=cy
- ↑ http://www.mathscareers.org.uk/article/unequalled-robert-recorde/
- ↑ http://www.mathscareers.org.uk/article/y-dihafal-robert-recorde/
- ↑ Beti a'i Phobol
- ↑ 'Robert Recorde Archifwyd 2016-01-06 yn y Peiriant Wayback (The Life and Times of a Tudor Mathematician); Gwasg Prifysgol Cymru; EAN: 9780708326824; Cyhoeddwyd: 15 Hyd 2013
- ↑ Gwefan gwales; adalwyd Tachwedd 2015
- ↑ Cyfri Twitter Gareth Roberts; adalwyd Tachwedd 2015