Cyfri'n Cewri
Enghraifft o: | llyfr |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Gorffennaf 2020 |
Tudalennau | 224 |
Prif bwnc | mathemateg |
Cyfrol am fathemategwyr Cymreig gan yr Athro Gareth Ffowc Roberts yw Cyfri'n Cewri (Hanes Mawrion ein Mathemateg) a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yng Ngorffennaf 2020.[1] Ceir 171 tudalen ac fe'i argraffwyd ar ffurf clawr meddal ac fel elyfr (ISBN 9781786835963). Pris y llyfr yn 2020 oedd £11.99.[2]
Yn ôl y llenor Angharad Tomos, "Gwnaeth [Gareth] i fathemateg Cymru yr hyn a wnaeth Peter Lord i gelf Cymru – cryfhau ein ymwybyddiaeth o gewri ein gwlad, ac ymfalchïo ynddynt." Dywedodd yr hanesydd Dr Elin Jones, "Fe ddylai hwn fod ar silff lyfrau unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes Cymru, oherwydd mae gorchestion ein mathemategwyr yn rhan mor bwysig o'r hanes hwnnw, ac yn allweddol i'n dealltwriaeth o’n byd ni heddiw.'
Yr awdur
[golygu | golygu cod]Mae Gareth (ganwyd 23 Mai 1945) yn awdur ac yn Athro Emeritws mewn Addysg ym Mhrifysgol Bangor ac yn ŵr sydd wedi poblogeiddio mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg ers y 1980au mewn erthyglau a llyfrau ac ar y cyfryngau. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y dulliau newydd o gaffael cysyniadau mathemategol mewn cyd-destunau dwyieithog. Dywed ar ei wefan: "Poblogeiddio mathemateg yw fy nod trwy ddangos fod y pwnc difyr hwn yn cyffwrdd pob un ohonom."[3][4]
Yn 2010 dyfarnwyd iddo'r Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg gan yr Eisteddfod Genedlaethol[4] a blwyddyn yn ddiweddarach, yn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro yn 2011, fe'i derbyniwyd i wisg wen er anrhydedd, Gorsedd y Beirdd[4].
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Mae'r gyfrol yn fywgraffiad 12 o fathemategwyr gyda chysylltiad Cymreig, gan gynnwys:
- Mary Wynne Warner (1932-98) o Gaerfyrddin, a ddatblygodd 'algebra fodern' yn arf i ddadansoddi digwyddiadau amhendant, fel y tywydd a daeargrynfeydd. Arbenigai hefyd mewn mathemateg niwlog (fuzzy mathematics).[5][6]
- George Hartley Bryan (1864-1928) - Mathemategydd cymhwysol Seisnig gyda chysylltiadau Cymreig, a oedd yn awdurdod ar thermodynameg ac awyrenneg. Drwy gydol ei yrfa, bu'n athro mathemateg ym Mhrifysgol Bangor. Ef oedd awdur y gyfrol Stability in Aviation (1911). Yn ei gyfrol, mae Gareth yn cymharu Bryan gyda mathemategydd arall a arbenigodd yn y Gymraeg, sef John Morris-Jones, ac yn nodi y dyrchafwyd J.M.J. i'r entrychion, ond nad oes fawr o sôn am Bryan yn y Coleg nac unrhyw fan arall bron!
- Richard Price (1723-1791), o Langeinwyr ger Maesteg. Roedd yn athronydd radicalaidd ac yn awdur a galwyd ef yn "Gyfaill Dynolryw". Ef a'i fab-yng-nghyfraith William Morgan (1750-1833) o Ben-y-bont ar Ogwr oedd y ddau a osododd seiliau yswiriant.
- William Jones (1674-1749), o Ynys Môn, un o'r mathemategwyr mwyaf adnabyddus yn y gyfrol, yn bennaf am mai ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r symbol π (pai). Yn ôl Gareth, Pai yw draig goch ein mathemateg.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwasg Prifysgol Cymru; adalwyd 12 Medi 2020.
- ↑ www.waterstones.com; adalwyd 12 Medi 2020.
- ↑ Gwefan Gareth Ffowc Roberts; adalwyd 27 Tachwedd 2015
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Gwefan Llenyddiaeth Cymru; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 27 Tachwedd 2015
- ↑ M. W. Warner, "Fuzzy topology with respect to continuous lattices," Fuzzy Sets and Systems 35(1)(1990): 85–91. doi:10.1016/0165-0114(90)90020-7
- ↑ M. W. Warner, "Towards a Mathematical Theory of Fuzzy Topology" in R. Lowen and M. R. Roubens, eds., Fuzzy Logic: State of the Art (Springer 1993): 83–94. ISBN 9789401048903
- Bryan G.H., Stability in Aviation (Macmillan, 1911) Fersiwn Arlein (Y sgan gwreiddiol gan Google Books)