William Morgan (ystadegydd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Portread o William Morgan gan Syr Thomas Lawrence.

Ystadegydd, meddyg a ffisegwr o Gymro oedd William Morgan, FRS (26 Mai 1750 – 4 Mai 1833)[1] oedd yn arloeswr ym maes gwyddor actiwaraidd.

Ganwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac astudiodd feddygaeth yn Llundain. Penodwyd ef i'r Gymdeithas Yswiriant Ecwitïol ar 17 Ebrill 1774, ac yn hwyrach bu'n cynghori Scottish Widows.[2]

Roedd William Morgan hefyd yn ffisegwr. Mae'n bosib taw ef oedd y cyntaf i gynhyrchu pelydrau-X pan basiodd drydan trwy diwb gydag ychydig iawn o awyr ynddo.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. D. L. Thomas, ‘Morgan, William (1750–1833)’, gol. Robin Pearson, Oxford Dictionary of National Biography, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2004; argraffiad ar-lein, Mai 2005 adalwyd 13 Medi 2013.
  2. 2.0 2.1  Morgan, William (1750–1833). Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 13 Medi 2013.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.