Richard Price
- Am y gwleidydd o'r un enw gweler Richard Price (AS Maesyfed)
Richard Price | |
---|---|
Ganwyd | 23 Chwefror 1723 Sir Forgannwg |
Bu farw | 19 Ebrill 1791 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr, Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, actiwari, diwinydd, llenor, mathemategydd |
Tad | Rice Price |
Mam | Catherine Richards |
Priod | Sarah Blundell |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
llofnod | |
Athronydd radicalaidd ac awdur o Gymru oedd Richard Price (23 Chwefror 1723 – 19 Ebrill 1791). Galwyd ef yn "Gyfaill Dynolryw" ac roedd yn ddyn hynod o boblogaidd yn ei amser, ond gan iddo ochri gyda'r Chwyldro Ffrengig, ychydig iawn o sôn amdano fu wedi iddo farw. Yn ôl yr hanesydd John Davies, "Richard Price oedd y meddyliwr mwyaf gwreiddiol a fagodd Cymru erioed".[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni ar ffermdy o'r enw "Tynton" (neu "Tyn-Ton") yn Llangeinwyr tua 5 milltir i'r gogledd o dref Pen-y-bont ar Ogwr. Priododd ei dad Rees Price ddwywaith, yr ail dro gyda mam Richard, Catherine; roedd hi'n ferch i Dr. Richards o Ben-y-bont ar Ogwr.[2] Roedd y teulu'n ddysgedig ag yn eitha cyfoethog. Dau o hoff ddiddordebau Richard oedd cerdded a marchogaeth. Cyfnither Richard Price oedd Ann Thomas (neé Madox) sef "Y Ferch o Gefn Ydfa".
Sentar (neu Anghydffurfiwr) oedd ei dad, gŵr a gredai mewn disgyblaeth lem yn y cartref. Yr adeg yma, gadawai llawer o glerigwyr eu heglwysi gan na fedrant dderbyn y Llyfr Gweddi fel gair Duw ac roedd un o'r rhain, y Parch. Samuel Jones, yn ficer yn Llangynwyd. Roedd yntau'n ŵr dysgedig iawn, a phan adawodd yr eglwys, fe'i dilynwyd gan nifer o deuluoedd yr ardal, gan gynnwys teuluoedd "Tynton" a "Chefn Ydfa". Sefydlodd Samuel goleg yn ei dŷ ym Mrynllywarch, ac un o'i ddisgyblion gloywaf oedd Rees Price, a afaelodd yn yr awenau pan fu farw Samuel Jones. Symudwyd y coleg (neu'r 'Academi' fel y cafodd ei alw) i Tynton a daeth Price yn weinidog. Drwy ei ysbrydoliaeth ef, a'i oruchwyliaeth codwyd dau gapel i gynnal cyfarfodydd anghydffurfiol: yn y Betws ac wrth droed gallt Castell Newydd, Pen-y-bont ar Ogwr. Rhagwelodd Rees y byddai ei fab Richard yn disgleirio mewn busnes, ac i'r perwyl hwnnw, yn bymtheg oed, danfonwyd ef i goleg yn Nhalgarth.
Cafodd ei addysg ym Mhentwyn gan Samuel Jones, yn Chancefield gan Vavasor Griffiths ac yna yn Moorfields gan John Eames.[3]
Pan fu farw ei fam Catherine yn 1740, newidiwyd bywyd Richard; roedd ei dad eisoes wedi marw flwyddyn ynghynt. Yn un deg saith oed, aeth i Lundain ble roedd ewyrth iddo'n byw: y Parch. Samuel Price, myfyriwr arall a elwodd o'r addysg ym Mrynllywarch. Wedi pedair blynedd mewn coleg yn Llundain, ordeiniwyd Richard Price yn gaplan.[4][5]
Gwaith
[golygu | golygu cod]Y diwygiwr cymdeithasol a gwleidyddol
[golygu | golygu cod]Yn fuan, fe'i ystyriwyd yn bregethwr medrus ac ymddiddorai mewn rhyddid gwledydd a phobl. Bu'n weinidog yn Newington a Hackney. Yn 35 mlwydd oed cyhoeddodd Review of the Principal Questions in Morals (1758) gyda'i syniadau ar foeseg felly'n rhagflaenu rhai Immanuel Kant.
Ar wahân i'w bwysigrwydd fel athronydd moeseg, ac ym myd actiwariaeth, dylanwadodd ar y Chwyldro Americanaidd, gan gysylltu yn aml gyda Benjamin Franklin, Adams a Thomas Jefferson. Dylanwadodd hefyd ar Gyfansoddiad America. Roedd yn gryf ei syniadau dros hawliau merched a dylanwadodd ar y ffeminist Mary Wollstonecraft, a ddatblygodd ei syniadau ef ar 'egalitariaeth' Ffrengig.
Y mathemategydd
[golygu | golygu cod]Cyhoeddodd lawer ym myd ystadegau ac arian hefyd a chafodd ei dderbyn gan Y Gymdeithas Frenhinol oherwydd y cyfraniadau hyn. Roedd yn ffrind i'r mathemategydd Thomas Bayes. Golygodd ei waith enwocaf, sef "Essay towards solving a problem in the doctrine of chances" sy'n cynnwys Theorem Bayes-Price[6], gan ei addasu gryn dipyn, yn un o theoriau pwysicaf a sgwennwyd ar debygolrwydd mewn unrhyw iaith. Roedd ei gyflwyniad i'r gyfrol yn cynnwys rhan o gonglfeini'r theori hwn ar ystadegau Bayesaidd. Gweithiodd ar y gwaith am ddwy flynedd cyn ei ddanfon at aelod o'r Y Gymdeithas Frenhinol, lle darllenwyd y gwaith ar 23 Rhagfyr 1763.[7] Yn 1765 cyhoeddodd waith a oedd yn datblygu ar hyn, ac erbyn Rahgfyr y flwyddyn honno roedd fe'i etholwyd yn FRS.
Yr hyn a wnaeth Bayes oedd edrych sut i gyfrifo'r tebygolrwydd i rywbeth ddigwydd, o edrych yn ôl ar yr amlder hanesyddol. Cymhwysodd Price hyn i fynd yswiriant - pa mor debygol yw hi i berson fyw i ryw oed arbennig yn ddibynol ar eu gwaith, neu er enghraifft, sut i ragweld y tywydd, o wybod sut dywydd a gafwyd yn ystod y dyddiau diwethaf. Ef, felly, a sylfaenodd egwyddorion yswiriant ac actiwariaeth
America
[golygu | golygu cod]Pan ddechreuodd Rhyfel Annibyniaeth America ar 9fed Ebrill 1775, daeth ei awr fawr, a daeth i boblogrwydd byd-eang. Cyhoeddodd Observations on the Nature of Civil Liberty, the Principles of Government, and the Justice and Policy of the War with America yn 1776 a gwerthwyd 60,000 o gopiau o fewn dyddiau. Ailgyhoeddwyd rhifyn rhatach a gwerthwyd dros ddwywaith cymaint.[8] Roedd y pamffled yn condemnio cynnig Shelburne a deddfau dros goloneiddio America.[9] Fe'i beirniadwyd yn hallt, fodd bynnag, gan Adam Ferguson,[10] yr Esgob William Markham, John Wesley, ac Edmund Burke. Rhoddwyd iddo "Ryddid Dinas Llundain" a chredir i'w bamffled ddylanwadu ar Ddatganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau.[8] Yng ngwanwyn 1777 cyhoeddodd ail bamffled am ddyledion Prydain i America a'r rhyfel yno.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Review of the Principal Questions in Morals (1757)
- Appeal to the Public on the Subject of the National Debt (1772)
- Observations on Civil Liberty and the Justice and Policy of the War with America (1776)
- Essay on the Population of England
- Observations on the importance of the American Revolution and the means of rendering it a benefit to the World (1784)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Mary Wollstonecraft, ffemenist cynnar ac awdur A Vindication of the Rights of Woman (1792)
- Darlith gan yr Athro E. Wyn James, ‘Watford: man cyfarfod radicaliaethau rhyngwladol’: https://www.youtube.com/watch?v=o398HGiOwtU&t=184s
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gareth Ffowc Roberts, Cyfri'n Cewri (Gwasg Prifysgol Cymru, 2020), t.36
- ↑ D.H. Harries; adalwyd Tachwedd 2015
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein; gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd Tachwedd 2015.
- ↑ (Saesneg) Thomas, D. O. "Price, Richard". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/22761.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ Lee, Sidney, gol. (1896). . Dictionary of National Biography. 46. Llundain: Smith, Elder & Co.
- ↑ Cyfri'n Cewri gan Gareth Ffowc Roberts (Gwasg Prifysgol Cymru; 2020); tud 40.
- ↑ Cyfri'n Cewri gan Gareth Ffowc Roberts (Gwasg Prifysgol Cymru; 2020); tud 39.
- ↑ 8.0 8.1 J. H. Plumb, England in the Eighteenth Century, (Middlesex: Penguin Books Ltd, 1950)
- ↑ Jack P. Greene; J. R. Pole (15 April 2008). A Companion to the American Revolution. John Wiley & Sons. t. 250. ISBN 978-0-470-75644-7. Cyrchwyd 18 Mehefin 2013.
- ↑ Fitzpatrick, Martin (2006). Knud Haakonssen (gol.). Enlightenment and Religion: Rational Dissent in Eighteenth-Century Britain. Cambridge University Press. t. 70. ISBN 0521029872.