E. Wyn James
E. Wyn James | |
---|---|
Ganwyd | Troed-y-rhiw |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | academydd, darlithydd, athro cadeiriol |
Priod | Christine James |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Ysgolhaig sy’n arbenigo yn llenyddiaeth a diwylliant Cymraeg y cyfnod modern yw’r Athro E. Wyn James (ganed Medi 1950).
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Mae’n frodor o Droed-y-rhiw ger Merthyr Tudful. Aeth i Ysgol Ramadeg Mynwent y Crynwyr (1962-67) ac Ysgol Uwchradd Afon Taf (1967-69). Graddiodd yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1972. Bu wedyn yn fyfyriwr ymchwil yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Aberystwyth, ac yna’n Swyddog Ymchwil yn yr Adran Addysg yno, yn gweithio ar brosiect ar ddatblygiad ieithyddol a chysyniadol plant 3–7 oed yn ysgolion Cymru. Bu hefyd yn Is-Warden Neuadd Ceredigion pan oedd honno’n neuadd breswyl Gymraeg i fyfyrwyr gwrywaidd, ac yna’n Ddirprwy Warden cyntaf Neuadd Pantycelyn wedi i honno ddod yn neuadd breswyl Gymraeg yn 1974[1].
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn 1977 symudodd i weithio i Fudiad Efengylaidd Cymru yn swyddfa’r Mudiad ym Mryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, lle y bu’n Gyfarwyddwr Gwasg Efengylaidd Cymru ac yn Llyfrgellydd Llyfrgell Efengylaidd Cymru nes iddo gael ei benodi’n Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg Fodern yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn 1994. Arhosodd yno hyd ei ymddeoliad yn 2015. Enillodd ddoethuriaeth yn 1998 am ei olygiad o emynau Ann Griffiths. Dyfarnwyd cadair bersonol iddo gan y Brifysgol yn 2013. Bu hefyd rhwng 2002 a’i ymddeoliad yn gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymry America Prifysgol Caerdydd.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae'n byw yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, gyda'i wraig, y cyn-Archdderwydd a Chofiadur yr Orsedd, Christine James. Mae ganddynt dri o blant a phump o wyrion.
Cydnabyddiaeth
[golygu | golygu cod]Etholwyd yr Athro James yn Gymrawd Cymdeithas Emynau Cymru yn 2011, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2013 ac yn Gymrawd y Comisiwn Baledi Rhyngwladol (KfV) yn 2021. Bu’n Gymrawd ar Ymweliad ym Mhrifysgol Caergrawnt (2004), yn Ysgolor Fulbright a Chymrawd ar Ymweliad ym Mhrifysgol Harvard (2012), ac yn Gymrawd Sefydliad Gilder Lehrman ar gyfer Astudio Hanes America, Efrog Newydd (2012-13).
Fe’i hurddwyd yn aelod o Orsedd y Beirdd (Gwisg Wen) yn 2008. Bu’n Gadeirydd Cymdeithas Bob Owen (2004-07) ac yn Gadeirydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru (2006-09; ac eto o fis Medi 2021 ymlaen), ac ef yw Cadeirydd Adran Ethnoleg ac Astudiaethau Gwerin Cymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Cymru er 2005.
Cyhoeddiadau a diddordebau ymchwil
[golygu | golygu cod]Mae’r Athro James wedi cyhoeddi'n helaeth ar wahanol agweddau ar lên a diwylliant Cymru yn y cyfnod modern, o'r 16eg ganrif hyd heddiw. Mae ei waith ymchwil wedi canolbwyntio'n arbennig ar feysydd yn ymwneud â chrefydd, hunaniaeth, diwylliant gwerin a hanes y llyfr, gyda sylw arbennig i'r emyn, y faled a chanu gwerin. Mae hefyd wedi cyhoeddi'n helaeth ar ddiwylliant Cymraeg de-ddwyrain Cymru ac ar awduron benywaidd. Yng nghyd-destun astudiaethau Cymry America y mae wedi ymchwilio’n arbennig i’r mudiad i ddiddymu caethwasiaeth ac i hanes y Cymry yn y Wladfa ym Mhatagonia.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Ceir rhestr o'i gyhoeddiadau oddi ar y flwyddyn 2000, a fersiynau electronig o nifer ohonynt, ar wefan ORCA Prifysgol Caerdydd:
https://orca.cardiff.ac.uk/view/allcardiffauthors/A034143A.html
Ceir fersiynau electronig o nifer o'i erthyglau ym maes y faled a chanu gwerin yn yr adran 'Baledi Cymraeg' ar wefan Casgliadau Arbennig ac Archifau Llyfrgell Prifysgol Caerdydd:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/special-collections/subject-guides/welsh-ballads
Ef yw golygydd y wefan arloesol 'Gwefan Ann Griffiths':
http://anngriffiths.cardiff.ac.uk/
Ceir fersiynau electronig o erthyglau ganddo ar y Gymraeg a'i diwylliant yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ar wefan Y Dinesydd:
http://dinesydd.cymru/teithiau/
Mae nifer o eitemau ganddo ar y sianel YouTube hon:
https://www.youtube.com/channel/UCHcqY6cjDz8otpqcG3YaghQ
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ James, E. Wyn (25 Mehefin 2020). "Y Llyfrau yn Fy Mywyd". Golwg. t. 19.