Castell Newydd, Pen-y-bont ar Ogwr
| Math | castell |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Pen y Bont |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 48.4 metr |
| Cyfesurynnau | 51.508861°N 3.583252°W |
| Rheolir gan | Cadw |
| Etholaeth y Senedd | Pen-y-bont Bro Morgannwg |
![]() | |
| Perchnogaeth | Cadw |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | GM063 |
Castell Normanaidd a chymuned yn ne Cymru yw'r Castell Newydd, a godwyd ar fryncyn uwchlaw tref Pen-y-bont ar Ogwr. I'r Gogledd-orllewin, roedd arglwyddiaeth Gymreig Afan ac un o'r rhesymau dros godi'r castell oedd gwarchod y ffin a cheisio rheoli arglwyddi Afan. Adeilion sydd yno, bellach.

Hanes
[golygu | golygu cod]Codwyd y castell yn 1106 gan y barwn Normanaidd Robert Fitzhamon ar ran William de Londres a'r castell hwn yw'r fan mwyaf gorllewinol yn ei ymgais i oresgyn De Cymru. Mae'n un o dri chastell yn yr ardal yr adeg hon ynghyd â Chastel Coety a Chastell Ogwr. Yn 1189 trosglwyddwyd perchnogaeth y castell i Morgan ap Caradog ac yna yn c1208, i'w fab Lleison.[1] Ar farwolaeth Lleision (tua 1214) trosglwyddwyd y castell i feddiant Isabel, gwraig cyntaf Brenin Ioan o Loegr.[2] Yn 1217 aeth i ddwylo Gilbert Fitz Richard ac yn yr un flwyddyn fe'i trosgwyddwyd i Gilbert de Turberville.
Dros y canrifoedd, bu perchnogaeth y castell yn nwylo'r teuluoedd Berkerolle, Gamage ac yna fe'i prynnwyd gan Samuel Edwin o "Lanmihangel Place" ac yna'n rhan o Ystâd Dunraven.
Mae'r castell yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Morgan ap Caradog ap Iestyn". llgc.org.uk. Cyrchwyd 27 Hydref 2012.
- ↑ Salter (2002), tud.88
