Castell Ogwr
Gwedd
| Math | castell |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Cymuned Saint-y-brid |
| Sir | Pen-y-bont ar Ogwr |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 8.5 metr |
| Cyfesurynnau | 51.4806°N 3.61149°W |
| Rheolir gan | Cadw |
![]() | |
| Perchnogaeth | Cadw |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | GM037 |
Saif Castell Ogwr ar bwys pentref Ogwr, i'r de o Ben-y-bont ar Ogwr ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Adeiladwyd y castell yn fuan ar ôl 1100 gan William de Londres pan oresgynodd y Normaniaid y rhan hon o dde Cymru.
Mae hwn yn un o sawl castell yn yr ardal a adeiladwyd yn y cyfnod hwnnw gan y Normaniaid, yn cynnwys Castell Coety, Castell Candleston a Chastell Newydd.
Lleolir y castell i'r de o Afon Ewenni, cyn iddi ymuno ag Afon Ogwr.
Defnyddiwyd y castell hyd at y 19eg ganrif at sawl pwrpas, gan cynnwys Llys Ynadon a charchar. Mae cerrig llamu poblogaidd ar gyfer croesi'r afon ger y castell a cheir llwybr sy'n arwain at bentref cyfagos Merthyr Mawr.


