Castell Candleston

Oddi ar Wicipedia
Castell Candleston
Mathcastell, maenordy wedi'i amddiffyn, maenordy Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadMerthyr Mawr Edit this on Wikidata
SirPen-y-bont ar Ogwr
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr22.9 metr, 23.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4829°N 3.62677°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwGM095 Edit this on Wikidata

Lleolir Castell Candleston ger pentref Merthyr Mawr ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a glannau Môr Hafren.

Er gwaethaf ei enw, maenordy castellog ydyw yn hytrach na chastell fel y cyfryw, a adeiladwyd ar ddiwedd y 14g. Cafodd ei adeiladwaith ei newid sawl gwaith rhwng y cyfnod hwnnw a dechrau'r 19eg ganrif pan roddwyd y gorau i'w ddefnyddio fel preswylfa. Mae llawer o dir yr hen faenor wedi cael ei lyncu gan dywod y tywynni mawr a geir yma.

Tybir fod yr enw "Candleston" yn llurguniad o'r enw "Cantilupeston", a bod y castell yn eiddo i'r teulu de Cantilupe Cambro-Normanaidd (gweler Walter de Cantilupe).

Ceir nifer o gestyll Normanaidd eraill yn yr ardal, yn cynnwys Castell Ogwr.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato