Tebygolrwydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Melanie Weisner yng nghystadleuaeth Poker yr EPT ym Marselona.
Traeth Aberdaron. Mae cwmniau yswiriant yn defnyddio tebygolrwydd i gyfrifo maint y risg o wahanol ffactorau, gan gynnwys crafangau'r môr.

Tebygolrwydd yw'r dull o fesur y posiblirwydd o rywbeth i ddigwydd;[1] er enghraift, mae'r posiblirwydd fod yr haul am godi fory'r bore'n eithaf uchel a byddai mathemategwr yn mesur hyn drwy ganran fel 99.99%. Ar y llaw arall, mae'r posibilrwydd o daflu ceiniog a'r 'gynffon' (neu'r 'pen') yn glanio ar ei hwyneb yn 50% neu'n 50-50.

Defnyddir tebygolrwydd yn aml i fesur neu i ateb gosodiad sy'n cael ei wneud ble mae'r ateb yn ansicr.[2] Fel arfer, mae'r gosodiad yn cael ei roi yn y dull hwn: "Pa bryd ma'n debyg o ddigwydd?" neu "Pa mor bendant ydym ei fod am ddigwydd?" Ac mae'r ateb yn cael ei roi mewn rhif, rhwng 0 ac 1 - gyda 0 yn golygu "dim o gwbwl", .5 yn golygu un allan o ddau (neu 50-50) ac 1 yn golygu "yn bendant".[3]

Felly, po uchaf yw'r tebygolrwydd i rywbeth ddigwydd, y mwyaf pendant ydym y gwnaiff ddigwydd.

Ffurfiolwyd y cysyniadau hyn o fewn gwirebau mathemategol yn yr hyn a elwir yn 'ddamcaniaeth tebygolrwydd' a 'gwirebau tebygolrwydd (probability axioms) a chânt eu defnyddio'n helaeth o fewn y meysydd astudio: mathemateg, ystadegau, cyllid, arian, gamblo, gwyddoniaeth (yn enwedig Ffiseg), gwyddoniaeth gyfrifiadurol, roboteg ac athroniaeth. Fe'u defnyddir er mwyn cyfrifo amlder y digwyddiad neu i ddisgrifio mecaneg gwaelodol system cymhleth, arbennig.[4]

Tebygolrwydd amodol[golygu | golygu cod y dudalen]

Tebygolrwydd amodol (neu conditional probability) yw lle y bydd ymddygiad targed yn digwydd o dan amgylchiadau penodol. Mae'n cael ei gyfrifo drwy fesur: cyfrannedd achlysuron ymddygiad a oedd wedi eu rhagflaenu gan ragflaenydd newidiol, a chyfrannedd achlysuron ymddygiad problemus a oedd wedi eu dilyn gan ganlyniad penodol. Mae tebygolrwydd amodol yn amredeg rhwng 0 a 1; po agosed at 1.0 yw'r tebygolrwydd amodol, y cryfaf yw'r berthynas rhwng yr ymddygiad targed a'r canlyniad.

Tebygolrwydd gwrthdro[golygu | golygu cod y dudalen]

O fewn damcaniaeth tebygolrwydd, a'i chymhwysiad, mae 'rheolau Bayes' yn nodi pa mor berthnasol yw'r tebygolrwydd (neu'r 'odds') i'r digwyddiad ei hun cyn ac wedi digwyddiad .

Mae'r berthynas rhwng i ddigwyddiad yn syml - sef y gyfranedd o debygolrwydd y ddau ddigwyddiad.

Crynodeb[golygu | golygu cod y dudalen]

Crynodeb o Debygolrwydd
Digwyddiad Tebygolrwydd
A
nid A
A neu B
A a B
A given B

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Probability". Webster's Revised Unabridged Dictionary. G & C Merriam, 1913
  2. "Kendall's Advanced Theory of Statistics, Volume 1: Distribution Theory", Alan Stuart and Keith Ord, 6th Ed, (2009), ISBN 9780534243128
  3. William Feller, "An Introduction to Probability Theory and Its Applications", (Vol 1), 3rd Ed, (1968),Wiley ,ISBN 0-471-25708-7
  4. Probability Theory The Britannica website