Arbrawf

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Disgyblion Ysgol Rhuthun, Sir Ddinbych yn arbrofi gyda mwynau gwahanol, a'u heffaith ar liw fflam llosgydd Bunsen; Mawrth 2012.

Astudiaeth wyddonol, a chymhariaeth deg rhwng dwy set o ffeithiau, dwy ffactor neu ddau gyflwr yw arbrawf, sy'n ddull o weithredu a reolir yn ofalus er mwyn cadarnhau, gwrthbrofi neu ddilysu rhyw ddamcaniaeth.

Mewn arbrawf, cofnodir un cyflwr (ee pwysau darn o bapur), ac yna newidir un peth (a elwir yn "newidyn annibynnol") a chofnodir yr ail ddigwyddiad (ee pwysau'r lludw wedi i'r papur gael ei losgi), gan sylwi'n ofalus ar effaith y newid hwn rhwng y newidyn dibynnol (pwysau'r papur) a'r newidyn annibynnol (pwysau'r lludw). Pwrpas yr arbrawf, felly yw canfod neu gadarnhau'r berthynas achos-effaith rhwng y newidynnau. Mewn geiriau eraill, mewn arbrawf, teflir golau newydd ar achos-ac-effaith drwy arddangos pa ganlyniad (yr effaith) all ddigwydd pan newidir un ffactor.

Cysylltir yr arbrawf gyda maes eang gwyddoniaeth, ond mae'n digwydd yn aml yn y byd real, e.e. gall cogydd gynnal arbrawf i weld am ba hyd sydd angen coginio darn o gaws, cyn iddo grimpio, neu fe all ffermwr edrych ar effaith tyfu hadau newydd, gwahanol ar ddarn o'i dir, a'u cymharu gyda maint ac ansawdd y planhigion o'r hadau a ddefnyddiodd y flwyddyn cynt. Mae arbrofion yn amrywio'n fawr o ran nod a maint, ond maent bob amser yn dibynnu ar weithdrefn (neu 'ddull o weithredu') ailadroddus a dadansoddiad rhesymegol o'r canlyniadau. I fabi, mae arbrofi'n rhan o dyfu fyny, a dim ond drwy arbrofi y gall ddeall rhai pethau, er enghraifft fod fflam y gannwyll yn achosi poen, o'i gyffwrdd! Mae arbrofi gyda disgyrchiant (plat yn disgyn) yn rhan anhepgor o'i fagwraeth. Ar yr un gwynt, mae profion neu weithagareddau ymarferol yn help i fyfyrwyr ddeall a chofio ffeithiau. Gall rhai arbrofion gymryd blynyddoedd i'w gwneud, fel y wybodaeth newydd a ddaw drwy astudio gronynnau isatomig yn CERN.

Dull gwyddonol[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Dull gwyddonol

Amrywiaeth o dechnegau a ddefnyddir i ymchwilio i fewn i ryw ffenomena yw'r 'dull gwyddonol', er mwyn casglu neu gywiro gwybodaeth am y Ddaear, bywyd ar y ddaear neu'r gofod. Fel arfer mae'r dull gwyddonol yn cynnwys: gosod y broblem (neu'r hypothesis), rhagfynegi, cynllunio arbrafwf, mynd ati'n deg gan newid un peth ar y tro (y newidyn), arsylwi, casglu'r data wrth wneud yr arbrawf drwy ei gofnodi a dod i ganlyniad, ac yn olaf: ei gyhoeddi.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Y person cyntaf y ceir cofnod ohono'n cynnal arbrawf (yn yr ystyr fodern o'r gair) yw'r mathemategydd Ibn al-Haytham. Cynhaliodd lawer o arbrofion o fewn y maes opteg drwy reoli ei arbrofion gan wiro ei ganlyniadau, cymharu ei ganlyniadau, cofnodi a hunan-farnu'r canlyniadau. Ymddangosodd y gair "arbrawf" yn y Gymraeg yn 1909; cyn hynny defnyddid y gair "prawf", sy'n tarddu o "roi <un>prawf ar ddamcaniaeth arbennig".

Termau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • arbrawf dall: blind experiment
  • ffug arbrawf: simulated experiment
  • lled-arbrawf (lledarbrofion): quasi-experiment
  • rheolydd arbrawfeb: experimental control
  • newidyn dibynnol: dependent variable
  • newidyn annibynnol: independent variable

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]