Bywyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
HumanNewborn.JPG
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolnodwedd Edit this on Wikidata
Mathbodolaeth, ffenomen naturiol, ffenomen, lyfe, proses fiolegol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebmarwolaeth Edit this on Wikidata
Rhan oorganeb byw, y Ddaear Edit this on Wikidata
Yn cynnwysproses fiolegol, organeb byw, marwolaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Bywyd yw'r hyn sy'n galluogi organeb fyw i gymhwyso deunydd heb fywyd o'i hamgylchedd a'i ddefnyddio i dyfu mewn maint a chymhlethder, i adnewyddu ei deunydd biolegol ei hun ac i atgynhyrchu organebau eraill annibynnol sydd hefyd yn meddu ar nodweddion bywyd.

Credir fod bywyd ar y Ddaear wedi dechrau tua 4,500,000,000 o flynyddoedd yn ôl (mae amcangyfrifon mwy ceidwadol yn ei dyddio i o gwmpas 3,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Y pryd hynny roedd yr awyr wedi'i chyfansoddi o nwyon methan, hydrogen, amonia a stêm dŵr. Credir i organebau moleciwlaidd syml gael eu ffurfio mewn canlyniad i'r grym a ollyngid gan belydrau'r haul, mellt a ffrwydriadau llosgfynyddoedd. Organebau ungellog oeddynt.

Mae'n dra thebygol mai yn y môr y datblygodd yr organebau cyntefig hyn i gynnwys enseimau (enzymes) a datblygu'n organebau amlgellog a gynhyrchai RNA a DNA. Gyda threigliad maith iawn amser - tua 1,500,000,000 neu ragor o flynyddoedd - arweiniodd hyn at y planhigion cyntefig cyntaf oedd yn gallu dal grym y goleuni a datblygu ffotosynthesis.

Y canlyniad oedd i ocsigen gael ei rhyddhau i'r awyr ar raddfa cynyddol, proses a ddechreuodd tua 2,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Erbyn tua 400 miliwn roedd yr haen oson yn yr awyrgylch yn ddigon trwchus i gysgodi'r tir rhag ymbelydredd uwchfioled gan ei gwneud yn haws o lawer i blanhigion mwy cymhleth a'r anifeiliad cyntefig cyntaf oroesi. Daeth y rhan fwyaf o bethau byw i ddefnyddio anadlu aerobig a dechreuodd bywyd amlhau ar wyneb y ddaear.

Priodoleddau bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Saith priodoledd bywyd yw symud, ysgarthu, anadlu, teimlo, atgenhedlu, tyfu ac ymborthi.

  • Mae'n rhaid i bopeth byw fedru symud.
  • Rhaid cael maeth.
  • Mae popeth byw yn dangos sensitifedd.
  • Mae popeth byw yn ysgarthu.
  • Maent i gyd yn anadlu.
  • Mae popeth byw yn tyfu.
  • Mae popeth byw yn atgenhedlu.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Butterfly template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am bywyd
yn Wiciadur.