Dull gwyddonol

Oddi ar Wicipedia
Disgyblion ysgol yn arbrofi, gan lynnu'n glos at y dull gwyddonol.

Amrywiaeth o dechnegau i ymchwilio i fewn i ryw ffenomena yw'r dull gwyddonol, er mwyn casglu neu gywiro gwybodaeth am y Ddaear, bywyd ar y ddaear neu'r gofod.

Ceir set o reolau rhesymegol y mae'n rhaid cadw atynt yn ystod yr ymchwiliad gwyddonol hwn, er enghraifft y gellir mesur y canlyniad mewn rhyw ddull neu'i gilydd a'i bod hi'n bosibl ail-wneud yr arbrawf.

Fel arfer mae'r dull gwyddonol yn cynnwys: gosod y broblem (neu'r hypothesis), rhagfynegi, cynllunio arbrafwf, mynd ati'n deg gan newid un peth ar y tro (y newidyn), arsylwi, casglu'r data wrth wneud yr arbrawf drwy ei gofnodi a dod i ganlyniad, ac yn olaf: ei gyhoeddi. Mae'n bwysig gwneud hyn yn gwbwl gwrthrychol, heb fias, fel y gall eraill archwilio'r canlyniadau er mwyn ei brofi neu ei wrthbrofi.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]