Casino

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Monte Carlo Casino.jpg
Data cyffredinol
Mathadeilad masnachol Edit this on Wikidata
Mae Strip Las Vegas yn enwog am y canran uchel o gasinos a geir yno

Yn ei ystyr fodern, cyfeiria casino at adeilad lle gellir mathau arbennig o hapchwarae. Gan amlaf, cânt eu hadeiladu ger neu'n rhan o westai, bwytai, canolfannau siopa, llongau gwyliau ac atyniadau twristaidd eraill. Mae rhai casinos yn enwog am gynnal adloniant byw, megis digrifwyr, cyngherddau a chystadlaethau chwaraeon.

Hanes y term "Casino"[golygu | golygu cod y dudalen]

Casino da Póvoa, casino Portiwgeaidd a agorodd ar ddechrau'r 1930au

Yn wreiddiol, arferai'r term casino gyfeirio at fila bychan, tŷ haf neu bafiliwn a adeiladwyd am bleser, gan amlaf ar dir fila neu palazzo Eidalaidd mwy o faint. Ceir enghreifftiau o gasinos yn Villa Giulia a Villa Farnese.

Gwelir yr enghraifft gyntaf o'r gair yn cael ei ddefnyddio yn Fenis tua 1638. Yn ystod y 19g, dechreuodd y term "casino" gynnwys adeiladau cyhoeddus eraill lle'r oedd gweithgareddau pleserus, gan gynnwys gamblo a chwaraeon yn digwydd. Enghraifft o'r math yma o adeilad oedd Casino Newport yn Rhode Island.

Ni ddefnyddiwyd pob casino ar gyfer hapchwarae, Roedd Casino Copenhagen yn theatr, a oedd yn adnabyddus am y cyfarfodydd enfawr a gynhaliwyd yno yn ystod Chwyldro 1848 a arweiniodd at Denmarc yn dod yn frenhiniaeth cyfasoddiadol. Tan 1937, roedd yn theatr Danaidd enwog.