Perl mewn Adfyd

Oddi ar Wicipedia

Llyfr gan Huw Lewys (1562–1634) yw Perl mewn Adfyd a gyhoeddwyd yn Llundain yn 1595. Cyfieithiad ydyw o waith Saesneg ac mae olion dysg Lladin yn amlwg ynddo.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Cyfieithiad i'r Gymraeg ydyw o lyfr y Protestant Seisnig Miles Coverdale, sef A Spyrytuall and most Precious Pearle. Roedd hwnnw yn ei dro yn gyfieithiad o'r traethawd Almaeneg Kleinot gan Otto Werdmüller (bu farw 1551).[1]

Ceir cywydd "I'r Iesu" gan Huw ar ddiwedd y Perl mewn Adfyd, sy'n dangos ei fod yn cyfansoddi cerddi caeth yn ogystal ag ysgrifennu rhyddiaith.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Perl mewn Adfyd (Llundain, 1595)
    • Perl mewn Adfyd, adargraffiad gyda rhagymadrodd gan W. J. Gruffydd (Caerdydd, 1929)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru. Rhyddiaith o 1540 hyd 1660 (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1926).
Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.