Robot

Oddi ar Wicipedia
Robot
Mathpeiriant, endid deallusrwydd artiffisial Edit this on Wikidata
Yn cynnwysactifadydd, ffynhonnell ynni, cyfrifiadur, synhwyrydd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Robot hiwmanoid o'r enw Asimo.
Golygfa allan o'r ddrama R.U.R. (Rossum's Universal Robots) gan Karel Čapek.
Y BigDog: robot a rhagflaenydd System-gefnogi Bedair Coes (LS3)

Peiriant rhithwir neu fecanyddol ydy robot fel arfer, sydd wedi'i raglennu i wneud tasg neu dasgau arbennig a hynny ar ei ben ei hun. Mae'r robotiaid mwyaf clyfar yn ymddangos fel pe bai ganddynt nodweddiol dynol ac yn gallu meddwl drosto'i hun. Gellir didoli robotiaid i'r dosbarthiadau canlynol: robot dynoid dwy goes, robotiaid â rhagor o goesau e.e. System-gefnogi Bedair Coes, robotiaid ar olwynion neu robotiaid ehedog e.e. drôns. Gellir hefyd eu dosbarth yn ôl maint e.e. y nano-robotiaid meicrosgopig, neu yn ôl eu gwaith.[1] Mae'r car diyrrwr hefyd yn cynnwys elfennau o robotiaeth.

Yn y dechreuad...[golygu | golygu cod]

Ers cychwyn gwareiddiad bu gan fodau dynol ddiddordeb i greu offer neu gyfarpar a allai ei gynorthwyo ac ysgafnhau ei faich. Aeth i'r pegwn eithaf pan geisiodd drefnu caethweision i wneud gwaith llafurus drosto, fel arfer y gwaith butraf ac anoddaf. Roedd creu peiriant megis olwyn ddŵr neu'r pwmp yn ei alluogi i wneud y gwaith ailadroddus hwn yn gynt a chynt ac yn fwy effeithiol. Wrth i dechnoleg ddatblygu daeth y peiriannau hyn yn fwy cymhleth ac yn fwy effeithiol fyth. Ar gyfer un dasg yn unig y crewyd y rhan fwyaf o'r peiriannau, ond dychmygai rhai beiriant tebyg i ddyn a allai droi ei law at unrhyw dasg dan haul.

Ymhlith y meddylwyr mawr yn y maes hwn mae: Leonardo Da Vinci yn yr 1490au a Jacques de Vaucanson yn 1739; cynlluniwyd nifer o beiriannau aml-dasg gan y ddau yma. Cynlluniwyd torpido wedi'i reoli gan donfeydd radio gan Nikola Tesla yn 1898 a rhoddodd Makoto Nishimura (yn 1929) nodweddion dynol megis dagrau i'r pen mecanyddol a alwodd yn "Gakutensoku".

Yr enw[golygu | golygu cod]

Daw'r gair "robot" allan o ddrama o'r enw R.U.R. (Rossum's Universal Robots) a sgwennwyd gan Karel Čapek o Tsiecoslofacia yn 1920. "Llafurwr" oedd y gair gwreiddiol ganddo ond awgrymodd ei frawd Josef derm newydd: 'robot'.

Yn 1942 ysgrifennodd Isaac Asimov ffuglen-wyddonol a gynhwysodd "Tair Deddf Robotiaeth"; defnyddiwyd y rhain drachefn yn y ffilm I Robot yn 2004.

Llenyddiaeth Gymraeg[golygu | golygu cod]

Yn groes i'r arfer o roi nodweddion dynol ar robot, sgwennodd Owain Owain nofel Gymraeg o'r enw Y Dydd Olaf a roddodd nodweddion robotaidd ar bobl wedi'u cyflyru gan awdurdodau totalitaraidd.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Four-legged Robot, 'Cheetah,' Sets New Speed Record". Reuters. 2012-03-06.
  2. [https://web.archive.org/web/20150317014937/http://www.ameliasmagazine.com/music/y-dydd-olaf-the-last-day-by-gwenno-saunders-an-interview/2014/11/03/ Archifwyd 2015-03-17 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Saesneg www.ameliasmagazine.com; cyfweliad gyda Gwenno Saunders] adalwyd 16 Mawrth 2015