Barcelona

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r erthygl yma am ddinas Barcelona. Am y tîm pel-droed, gweler FC Barcelona.

Barcelona
Barcelona collage.JPG
Localització de Barcelona.png
Lleoliad o fewn Sbaen
Gwlad Sbaen
Ardal Cymuned Barcelona
Llywodraeth
Maer Ada Colau
Daearyddiaeth
Arwynebedd 101.9 km²
Uchder 39 troedfedd (12 medr) m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 1620943 (Cyfrifiad 2011)
Dwysedd Poblogaeth 15991 /km2
Metro 5375774
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser CET (UTC+1),

haf: CEST (UTC+2)

Cod Post 080xx
Gwefan http://www.barcelona.cat/en (eicon en)

Dinas Barcelona (dyweder "Barselona") yw prifddinas cymuned ymreolaethol Catalwnia a thalaith Barcelona yng ngogledd-ddwyrain Sbaen, Saif ar lan Môr y Canoldir, rhyw 120 km o'r ffin a Ffrainc. Mae wedi'i leoli rhwng aberoedd afonydd Llobregat a Besòs, a'i ffin orllewinol yw mynyddoedd Serra de Collserola sydd a'i gopa uchaf yn 512 metr (1,680 tr.) o uchter.

Gyda phoblogaeth o 1,593,075, Barcelona yw'r ail ddinas fwyaf yn Sbaen o ran maint, a'r ddegfed o ran maint yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae poblogaeth Ardal Ddinesig Barcelona yn 4.7 miliwn.[1]

Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau o bwysigrwydd rhyngwladol yn Barcelona, yn cynnwys Arddangosfeydd Rhyngwladol yn 1888 a 1929, y Chwaraeon Olympaidd yn 1992 a Fórum 2004 yn 2004. Mae hefyd yn ganolfan ffasiwn, addysg a masnach.[2]<

Mae gan Barcelona ddiwylliant cyfoethog ac amrywiol, a chaiff ei hystyried yn un o brif ganolfannau diwylliant ac yn un o gyrchfanau mwyaf poblogaidd Ewrop i ymwelwyr. Yma y ceir rhai o weithiau pensaerniol gorau'r byd, gan gynnwys gwaith y ddau bensaer Antoni Gaudí a Lluís Domènech i Montaner, a ddynodwyd gan UNESCO yn Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Escut de Barcelona

Mae gweddillion o ddiwedd y cyfnod Neolithig wedi eu darganod, ond yr hanes cyntaf am Barcelona yw fel sefydliad Iberaidd. Cipiwyd y ddinas gan y cadfridog Carthaginaidd Hamilcar Barca, tad Hannibal. Yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig cipiwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid a'i henwi yn Julia Augusta Paterna Faventia Barcino yn y flwyddyn 218 C.C.

Yn y 5g daeth yn brifddinas teyrnas y Visigothiaid yn Sbaen, ac yn yr 8g daeth dan reolaeth Islamaidd wedi ei chipio gan Al-Hurr. Ail-gipiwyd y ddinas gan y Cristionogion yn 801, ond parhaodd ymosodiadau Islamaidd, a dinistriwyd llawer o'r ddinas yn 985 gan filwyr Almanzor. Daeth y ddinas yn llewyrchus iawn yn y 13g, ond o'r 15g bu dirywiad. Tua diwedd y 18g dechreuodd diwydiant dyfu yma, a bu deffroad economaidd a diwylliannol yn y 19g.

Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen yr oedd y ddinas ar ochr y Gweriniaethwyr, ond yn y diwedd fe'i cipiwyd gan fyddin Franco yn 1939. Wedi marwolaeth Franco, bu datblygiadau economaidd a diwylliannol pellach yn y ddinas, yn enwedig o ganlyniad i gynnal y Chwaraeon Olympaidd yno yn 1992.

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir yr enghraifft cynharaf o'r enw ar ddarn arian, ac fe'i sgwennwyd mewn ysgrifen Iberaidd hynafol fel Barkeno (Barkeno in Levantine Iberian script),[3] ac mewn llawysgrifau Groegaidd fel Βαρκινών, Barkinṓn;[4][5] ac mewn Lladin fel Barcino,[6] Barcilonum[7] a Barcenona.[8][9][10]

Mannau o ddiddordeb[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae dau Safle Treftadaeth y Byd ym Marcelona:

  • Gweithiau Antoni Gaudí (Park Güell a Palau Güell, Casa Milá, Casa Batlló, casa Vicens a'r Sagrada Família).
  • Y Palau de la Música Catalana a'r Hospital de Sant Pau.

Ymfudiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Y grwpiau mwyaf o ymfudwyr yn Barcelona[11]
Cenedligrwydd Poblogaeth (2016)
 Yr Eidal 26,676
 Pacistan 19,160
 Gweriniaeth Pobl Tsieina 18,434
 Ffrainc 13,506
 Moroco 12,537
 Bolifia 9,291
 Y Philipinau 8,682
 Ecwador 8,109
 Periw 7,944
 Colombia 7,904

Yn 2016 ganwyd 59% o drigolion y ddinas yng Nghatalwnia a 18.5% o weddill y wlad (cyfanswm o 77.5%). Ar ben hyn, daeth 22.5% o boblogaeth y ddinas o'r tu allan i Sbaen - dwbwl yr hyn ydoedd yn 2001 a 4 gwaith cymaint a 1996.[12]

O Ewrop y daw'r rhan fwyaf o ymfudwyr,: yr Eidal (26,676) a Ffrainc (13,506) ac yna gwledydd America Ladin: Bolifia, Ecwador a Colombia. Ym maestrefi gogleddol y ddinas y sefydlodd llawer o'r rhai hyn.[13]

Ceir hefyd cymuned eitha mawr o Bacistan: oddeutu 20,000, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn ddynion.[14]

Pobl o Farcelona[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]