Colombia
| Gweriniaeth Colombia República de Colombia (Sbaeneg) | |
| Arwyddair | Rhyddid a Threfn |
|---|---|
| Math | gwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwladwriaeth seciwlar, gwlad |
| Enwyd ar ôl | Christopher Columbus |
| Prifddinas | Bogotá |
| Poblogaeth | 52,321,152 |
| Sefydlwyd | 20 Gorffennaf 1810 (Datganiad o Annibyniaeth (oddi wrth Sbaen) |
| Anthem | Himno Nacional de la República de Colombia |
| Pennaeth llywodraeth | Gustavo Petro |
| Cylchfa amser | UTC−05:00, America/Bogota |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | America Ladin, De America, Ibero-America |
| Gwlad | Colombia |
| Arwynebedd | 1,141,748 ±1 km² |
| Uwch y môr | 223 metr |
| Yn ffinio gyda | Ecwador, Panamâ, Periw, Feneswela, Brasil, Nicaragwa |
| Cyfesurynnau | 4°N 73.25°W |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Colombia |
| Corff deddfwriaethol | Cynghres Colombia |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Colombia |
| Pennaeth y wladwriaeth | Gustavo Petro |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Colombia |
| Pennaeth y Llywodraeth | Gustavo Petro |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | $318,512 million, $343,939 million |
| Arian | peso |
| Canran y diwaith | 9.4 canran |
| Cyfartaledd plant | 1.94 |
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.752 |
Gwlad yng ngogledd-orllewin De America yw Gweriniaeth Colombia neu Colombia (Sbaeneg: República de Colombia, /re'puβ̞lika ð̞e ko'lombja/). Mae'n ffinio â Feneswela a Brasil i'r dwyrain, Ecwador a Pheriw i'r de, y Cefnfor Iwerydd i'r gogledd (trwy Fôr y Caribî), a Phanama a'r Cefnfor Tawel i'r gorllewin. Colombia yw'r unig wlad yn Ne America gydag arfordiroedd â'r Cefnforoedd Iwerydd a Thawel.
Colombia yw'r wlad fwyaf ond tri yn Ne America yn nhermau arwynebedd (yn dilyn Brasil, yr Ariannin a Pheriw), a'r mwyaf ond un yn nhermau poblogaeth (yn dilyn Brasil). Mae'r mwyafrif o Golombiaid yn byw yng ngorllewin mynyddig y wlad, lle lleolir y brifddinas Bogotá a'r rhan fwyaf o ddinasoedd eraill. Mae daearyddiaeth amrywiol gan Golombia, o gopaon eiraog yr Andes i wastatiroedd twym, llaith Afon Amazonas.
Am y pedair degawd diwethaf, dioddefa Colombia gwrthdaro arfog ar raddfa fechan sy'n cynnwys mudiadau gwrthryfelwyr herwfilwrol, milisiâu, a masnachu cyffuriau. Dechreuodd y gwrthdaro tua 1964-1966, pan sefydlwyd yr FARC a'r ELN a dechreuont eu hymgyrchoedd gwrthryfelgar herwfilwrol yn erbyn y llywodraethau olynol. Ers etholiad Álvaro Uribe fel Arlywydd Colombia, mae sefyllfa diogelwch y wlad wedi gwella rhywfaint.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Hanes
[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Diwylliant
[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Economi
[golygu | golygu cod]Mae'r wlad yn enwog fel un o'r cynhyrchwyr coffi mwyaf yn y byd. Mae tyfu coca yn ddiwydiant traddodiadol hefyd.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Sbaeneg) Gwefan swyddogol Arlywydd Colombia
- (Sbaeneg) Gwefan swyddogol Senedd Colombia
| |||||||||||

