Prifddinas Gweriniaeth San Marino yw Dinas San Marino (Eidaleg: Città di San Marino). Fe'i lleolir yng nghanol gorynys yr Eidal, ger Môr Adria. Mae ganddi boblogaeth o 4,493. Gorwedd ar lethrau gorllewinol Monte Titano, pwynt uchaf San Marino.
Gyda Monte Titano, mae'n Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO sy'n denu miloedd o dwristiaid.