Prifddinas Slofacia (ers 1993) yw Bratislava (Pozsony yn Hwngareg). Mae'n sefyll ar lannau Afon Donaw. Yn 2015 roedd ganddi 422,932 o drigolion. Hyd at 1919, roedd y ddinas yn cael ei hadnabod yn Saesneg yn bennaf gan ei henw Almaeneg, Pressburg.
Mae Bratislava wedi'i leoli yn ne-orllewin Slofacia, yn Rhanbarth Bratislava. Mae ei leoliad ar y ffiniau ag Awstria a Hwngari yn ei gwneud yr unig brifddinas genedlaethol sy'n ffinio rhwng dwy wlad.