Trenčín
Jump to navigation
Jump to search
Dinas yng ngorllewin Slofacia yw Trenčín (Almaeneg: Trentschin; Hwngareg: Trencsén), a leolir yng nghanol dyffryn Afon Váh ger y ffin â'r Weriniaeth Tsiec, tua 120 km (75 milltir) o Bratislava. Gyda phoblogaeth o 56,000, dyma'r nawfed ddinas yn y wlad sy'n ganolfan weinyddol Rhanbarth Trenčín a Dosbarth Trenčín. Dominyddir y ddinas gan gastell canoesol sy'n sefyll ar graig uchel.