Môr Adria
Gwedd
Math | môr, basn draenio |
---|---|
Enwyd ar ôl | Adria |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Môr Canoldir |
Gwlad | yr Eidal, Slofenia, Croatia, Montenegro, Albania, Bosnia a Hertsegofina |
Arwynebedd | 138,595 km² |
Yn ffinio gyda | yr Eidal, Balcanau |
Cyfesurynnau | 42.77583°N 15.42611°E |
Braich neu gilfach o'r Môr Canoldir yw Môr Adria[1] neu'r Môr Adriatig. Mae'n ymestyn rhwng arfordir dwyreiniol Yr Eidal a de-ddwyrain Ewrop (Slofenia, Croatia, Montenegro, Albania) yng nghanolbarth gogledd y Môr Canoldir. Ceir cyferbyniaeth drawiadol rhwng y ddau arfordir: isel a thywodlyd yw arfordir yr Eidal tra fod yr arfordir dwyreiniol yn greigiog gyda nifer o ynysoedd mawr a bach. Yn ei ben eithaf mae'r môr yn gorffen yn Gwlff Fenis. Ei hyd yw tua 750 km (466 milltir).
Mae'r prif ddinasoedd ar ei lannau yn cynnwys Brindisi, Bari, Fenis, Trieste, Dubrovnik, Split a Rijeka.
Dominyddir ei lannau dwyreiniol gan gadwyn mynyddoedd yr Alpau Dinarig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 50.