Dubrovnik

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Stradun, stryd fawr Dubrovnik
Yr Hen Dref o'r awyr
Yr hen ddinas

Mae Dubrovnik (Nodyn:IPA-hrAbout this soundNodyn:IPA-hr;[1] hanesyddol Lladin: Ragusa) yn ddinas Croataidd ar arfordir y Mor Adriatig.  Mae'n un o brif atyniadau i dwristiaid ar For y Canoldir, gyda phorthladd a chanolbarth canolfan Dubrovnik-Neretva County. Cyfanswm ei phoblogaeth fel dinas yw 42,615 (cyfrifiad). Yn 1979, ymunodd dinas Dubrovnik a rhestr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth Byd-eang,

Roedd ffyniant y ddinas yn seiliedig yn hanesyddol ar fasnach morwrol; fel prifddinas hen Weriniaeth Ragusa. datblygodd yn sylweddol, yn arbennig yn ystod y 15fed a 16g, wrth iddi ddod yn fwy nodedig am ei chyfoeth a'i diplomyddiaeth fedrus.

Yn 1991, yn dilyn hollti'r hen Iwgoslafia, daeth Dubrovnik dan warchae milwyr Serbaidd a Montenegrin Byddin y Bobl Iwgoslafaidd (JNA) am saith mis a dioddefodd ddifrod sylweddol o ganlyniad i'w bombardio.[2][3][4][5][6][7][8][9] Ar ol gwaith atgyweirio ac adnewyddu yn y 1990au a'r 2000au cynnar, daeth Dubrovnik unwaith eto yn un o'r prif gyrchfannau twristaidd Mor y Canoldir.[10][11][12][13]

Enwau[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'r enwau DubrovnikRagusa yn cyd-fodoli am ganrifoedd lawer. Ragusa, enw a gofnodwyd mewn gwahanol ffurfiau ers y 10g, oedd enw swyddogol Gweriniaeth Ragusa tan 1808, ac enw'r ddinas of fewn i Deyrnas Dalmatia tan 1918, tra bod Dubrovnik, a oedd wedi'i gofnodi gyntaf fel enw ar ddiwedd y 12g, yn cael ei ddefnyddio yn eang erbyn diwedd y 16eg a dechrau'r 17g.[14]

Mae'r enw Dubrovnik ar gyfer y ddinas Adriatig wedi'i gofnodi gyntaf yn Siarter Ban Kulin (1189).[15] Ei darddiad mwyaf tebygol yw'r gair "dubron", enw Celtaidd ar gyfer dwr (Galeg dubron, Gwyddeleg dobar, Cymraeg dwr/dwfr, Cernyweg dofer), tebyg i'r toponymau Douvres, Dover, a Tauber.[16]


Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Dùbrōvnīk" (yn Croatian). Hrvatski jezični portal. http://hjp.znanje.hr/index.php?show=search_by_id&id=fF9vXRI%3D. Adalwyd 6 March 2017.
  2. Wood, Paul (2 March 2001). "Charges over Dubrovnik bombing". bbc.co.uk. http://news.bbc.co.uk/2/hi/europe/1196879.stm. Adalwyd 1 March 2017.
  3. "Anniversary Of Attack On Dubrovnik – Just Dubrovnik". justdubrovnik.com. 1 October 2013. http://www.justdubrovnik.com/2013/10/anniversary-of-attack-on-dubrovnik/5624/.
  4. B.Anzulovic: Heavenly Serbia: From Myth to Genocide, NYU Press, 1999
  5. K. Morrison: Montenegro: A Modern History, I. B. Tauris, 2009
  6. Dr. Katheleen Wilkes devoted her life to the victory of Croatia http://www.croatianhistory.net/etf/wilkes.html
  7. "Business – Serbs Retreat, Release Their Grip On Dubrovnik – But Sarajevo Attack Continues; 20 Killed – Seattle Times Newspaper". nwsource.com. http://community.seattletimes.nwsource.com/archive/?date=19920527&slug=1493982.
  8. New York Times, November 1991, Serbia's Spiteful War, https://www.nytimes.com/1991/11/06/opinion/serbia-s-spiteful-war.html
  9. New York Times, November 1992, As Siege Ends, Croats Return to Ruined City, https://www.nytimes.com/1992/11/03/world/as-siege-ends-croats-return-to-ruined-city.html
  10. "Dubrovnik voted second best cruise destination in the Mediterranean – Dubrovnik VIDI Travel Guide". http://vidiworld.com/dubrovnik/dubrovnik-voted-second-best-cruise-destination-in-the-mediterranean/.
  11. "The Most Visited Tourist Destination in Croatia in 2015 is…". http://www.croatiaweek.com/the-most-visited-tourist-destination-in-croatia-in-2015-is/.
  12. "Top 10 Mediterranean Destinations". http://www.placestoseeinyourlifetime.com/top-10-mediterranean-destinations-9656/.
  13. "Dubrovnik and around Guide – Croatia Travel". https://www.roughguides.com/destinations/europe/croatia/dubrovnik-around/.
  14. Oleh Havrylyshyn, Nora Srzentiæ, Institutions Always 'Mattered': Explaining Prosperity in Mediaeval Ragusa (Dubrovnik), Palgrave Macmillan, 10 Dec 2014, p. 59
  15. "Bosna" (yn hr). Leksikon Marina Držića. Miroslav Krleža Institute of Lexicography and House of Marin Drzic. 2017. http://leksikon.muzej-marindrzic.eu/bosna/. Adalwyd 2 March 2017.
  16. Whitley Stokes; Adalbert Bezzenberger (1894), August Fick, ed., Vergleichendes Wörterbuch der indogermanischen Sprachen: Wortschatz der Keltischen Spracheinheit, 2 (4th ed.), Vandenhoeck & Ruprecht, pp. 153–154, https://archive.org/details/vergleichendeswr02fick