Galeg

Oddi ar Wicipedia

Galeg oedd iaith y Celtiaid yng ngorllewin a chanolbarth Ewrop, yn bennaf yn y rhanbarth a adnabyddir fel Gâl (Lladin: Gallia). Roedd yr Aleg yn iaith Geltaidd yn y gangen o'r teulu hwnnw a elwir yn Gelteg y Cyfandir. Tybir ei bod yn agos iawn i'r Frythoneg a Galateg. Mae hi'n iaith farw ers tua 1500 o flynyddoedd ac rydym yn dibynnu ar dystiolaeth enwau a geiriau yng ngwaith awduron Rhufeinig, arysgrifau ac enwau lleoedd am ein gwybodaeth amdani.

Yr arysgrifau niferus yw'r ffynhonnell bwysicaf. Fe'u hysgrifennir mewn tair gwyddor wahanol. Yn Etrwria a'r cyffiniau ceir rhai arysgrifau Galeg yn yr wyddor Etrwsgeg sy'n dyddio o'r ail ganrif CC. Yn ne Ffrainc ceir tua 60 o arysgrifau yn yr wyddor Ïoneg, gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n dyddio o'r ganrif 1af OC, e.e. o ardal Marseille. Yn olaf mae 'na ddosbarth o arysgrifau yn yr wyddor Lladin yng Ngâl ei hun, tua chant ohonyn nhw, sy'n dyddio o'r cyfnod Rhufeinig (y pedair canrif cyntaf OC). Y pwysicaf o'r rhain yw Calendr Coligny, tabledi plwm o Charmalières a Larzac, a graffiti ar grochenwaith o La Graufesenque.

Geiriau a fenthyciwyd o'r Galeg drwy'r Lladin i'r Saesneg[golygu | golygu cod]

Benthyciwyd:[1]

Galeg Lladin Saesneg
ambactos
(cymh. Cym. amaeth)
ambactus embassy
beccos
(cymh. Cym. bach)
beccus beak ‘pig, gylfin’
bolgā
(cymh. Cym. bol(a))
bulga bulge, bilge (gwaelod cwch), budget
bragos
(cymh. Gwydd. C. breagha)
drwy'r Ocsitaneg brau brave
brennos
(cymh. Cym. braen)
drwy'r Ffrangeg 'bren' bran ‘eisin sil’
glanos
(cymh. Cym. dichlyn(u))
glennare glean ‘lloffa’
karros
(cymh. Cym. carr)
carrum, carrus car
crāmum
(cymh. Cym. cramen)
drwy'r Ffrangeg cresme cream
kambion cambīre ‘cyfnewid’ change
trougos ‘tru’
(cymh. Cym. truan)
truant truant
vassos
(cymh. Cym. gwas)
vassus, vassallus vassal ‘deiliad’
vorēdos
(cymh. Cym. gorwydd)
verēdus / paraverēdus ‘ceffyl gweili’ palfrey ‘crynfarch’

Rhai geiriau Galeg[golygu | golygu cod]

Rhan o dabled Calendr Coligny
  • Aballo - afal
  • Aedos - aelwyd
  • Bena - benyw / menyw
  • Berros - byr
  • Biccos - bychan
  • Brogos - bro
  • Caleto - caled
  • Damos - dafad
  • Dragenos - draen / draenen
  • Durnos - dwrn
  • Gamon - gaeaf
  • Garbos - garw
  • Iaros - iâr
  • Lavenos - llawen
  • Litanos - llydan
  • Louernos - llwynog
  • Maros - mawr
  • Natir - neidr
  • Parios - pair
  • Rix - rhi (brenin)
  • Senod - hen
  • Taranos - taran
  • Tractos - traeth
  • Vagena - gwaun (corsdir)
  • Varina - gwerin (yn yr hen ystyr 'llu' / 'rhyfelwyr')
  • Vivero - gwiwer
  • Vlago - gwlyb

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Rhannwyd fideo ym mis Mai 2023 ar sianel Youtube Ecolinguist lle ceir person yn llefaru brawddegau byrion o'r iaith Galeg gyda siaradwyr Cymraeg, Llydaweg a Manaweg yn ceisio dyfalu ystyr y brawddegau hynny. Gwelir bod sawl gair sy'n gytras ac wedi esbylygu o'r Galeg yn y Gymraeg a'r Llydaweg yn arebennig, ond llai yn y Fanaweg (fel sy'n ddisgwyladwy).[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. www.eupedia.com; adalwyd 19 Ionawr 2015
  2. "Gaulish Language, Can Welsh, Manx and Breton speakers understand it?". Sianel Youtube Ecolinguist. 25 Mai 2023.