Sevilla

Oddi ar Wicipedia
Sevilla
Mathbwrdeistref Sbaen Edit this on Wikidata
PrifddinasSeville city Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlwybr Ewropeaidd E1 Edit this on Wikidata
Poblogaeth684,025 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJuan Espadas Cejas Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantFernando III, brenin Castilia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolnotary district of Seville, Q107553430, Comarca Metropolitana de Sevilla Edit this on Wikidata
LleoliadComarca Metropolitana de Sevilla Edit this on Wikidata
SirTalaith Sevilla, Kingdom of Seville Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd140.8 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr12 metr Edit this on Wikidata
GerllawCanal de Alfonso XIII, Afon Guadalquivir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAlcalá de Guadaíra, La Algaba, Camas, Carmona, Dos Hermanas, Gelves, La Rinconada, Salteras, San Juan de Aznalfarache, Santiponce, Tomares, Palomares del Río Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.3833°N 5.9833°W Edit this on Wikidata
Cod post41000–41099 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Seville Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJuan Espadas Cejas Edit this on Wikidata
Map
Sevilla - rhan o'r hen ddinas

Prif ddinas artistaidd, diwyllianol ac ariannol de Sbaen yw Sevilla (neu Seville). Saif ar lannau Afon Guadalquivir. Mae'n brifddinas cymuned ymreolaethol Andalucía a Sevilla. Gelwir dinesyddion y ddinas yn Sevillanos (benywaidd: Sevillanas). Mae gan yr ardal ddinesig boblogaeth o 704,154 (amcanfyfrif 2005), neu 1,043,000 yn cynnwys ei bwrdeistrefi mewnol (amcangyfrif 2000), neu 1,317,098 am yr ardal fetropolitaidd gyfan (amcangyfrif 2005), sy'n ei gwneud yr ardal fetropolitaidd bedwaredd yn Sbaen. Mae ganddi borthladd eithaf pwysig ar y Guadalquivir sy'n agored i longau cefnfor.

Bu'n ddinas bwysig yn nhalaith Rufeinig Hispania Baetica a daeth yn ganolfan ddiwylliannol flodeuog yng nghyfnod teyrnas Mwraidd Al-Andalus (7111248). Un o'i llenorion enwocaf yn y cyfnod hwnnw oedd y bardd Ibn Sahl. Erbyn yr 16g roedd Sevilla yn un o borthladdoedd pwysicaf Sbaen gyda monopoli ar y fasnach rhwng y wlad honno a'r Indies Gorllewinol. Ganwyd y peintwyr Velázquez a Murillo yno.

Mae gan y ddinas brifysgol, a sefydlwyd yn 1502, ac un o'r eglwysi cadeiriol mwyaf yn y byd (1401 - 1591). Un o uchafbwyntiau calendr diwyllianol y ddinas yw'r Ŵyl Basg enwog. Mae Eglwys Gadeiriol Sevilla, yr Alcázar a'r Archivo de Indias yn Safle Treftadaeth y Byd.

Pobl enwog o Sevilla[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato