Neidio i'r cynnwys

Cymunedau ymreolaethol Sbaen

Oddi ar Wicipedia
Cymunedau ymreolaethol Sbaen
Mathendid gweinyddol Sbaen, endid tiriogaethol gwleidyddol, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, cymuned ymreolaethol, endidau tiriogaethol rheolaethol, NUTS 2 statistical territorial entity Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1979 Edit this on Wikidata
GwladwriaethSbaen Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0fb5g edit this on wikidata
QuoraSpanish-autonomous-communities edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhennir Sbaen yn sawl Cymuned Ymreolaethol (Sbaeneg: comunidad autónoma), sef yr haen gyntaf o raniadau gwleidyddol, yn unol â Chyfansoddiad Sbaen, 1978. Mae'r haen yma'n rhoi hawliau cyfyngedig i ranbarthau a chenhedloedd Sbaen.[1][2][3] Mae'r gair "ymreolaethol" yn cyfeirio hawl y cymunedau i reoli eu hunain.

Nid ffederasiwn yw Sbaen, eithr gwladwriaeth unedol sydd wedi datganoli llawer o'i phwerau.[1][4] Derbynia cenhedloedd y byd fod Sbaen, yn ei chyfanrwydd, yn genedl sofran ac yn cael ei chynrychioli yn ei llywodraeth ganolog. Ond mae pwerau'r llywodraeth, i raddau, wedi'u datganoli i'r cymunedau, fel a nodir yn y Cyfansoddiad. Nododd sawl ysgolhaig fod y system hon yn un 'Ffederal' ym mhob ffordd, oddigerth i'r enw, neu "federation without federalism".[5]

Ceir 17 cymuned ymreolaethol a dwy ddinas ymreolaethol, a adnabyddir fel a ganlyn:

Sbaeneg: autonomías
Basgeg: autonomien
Catalaneg: autonomies
Galisieg: autonomías

Mae gan y ddwy ddinas ymreolaethol yr hawl i gael eu hystyried yn gymunedau ymreolaethol, ond hyd yma, nid yw'r naill na'r llall wedi ymgymryd â'r hawl hwnnw.[5]


Baner Cymunedau
ymreolaethol
Prifddinas Arwynebedd
(km2)
Poblogaeth
(2016)
GDP y pen
(ewros)
Andalucía Sevilla 87,268 8,388,107 16,960
Aragón Zaragoza 47,719 1,308,563 25,540
Asturias Oviedo 10,604 1,042,608 21,035
Cantabria Santander 5,321 582,206 22,341
Castilla-La Mancha Toledo 79,463 2,041,631 17,698
Castilla y León Valladolid
94,223 2,447,519 22,289
Catalwnia Barcelona 32,114 7,522,596 27,248
Extremadura Mérida 41,634 1,087,778 15,394
Galisia Santiago de Compostela 29,574 2,718,525 20,723
Gwlad y Basg Vitoria-Gasteiz 7,234 2,189,534 30,829
Madrid Madrid 8,028 6,466,996 29,385
Murcia Murcia 11,313 1,464,847 18,520
Navarra Pamplona 10,391 640,647 29,071
La Rioja Logroño 5,045 315,794 25,508
Valencia Valencia 23,255 4,959,968 19,964
Ynysoedd Balearig Palma de Mallorca 4,992 1,107,220 24,393
Yr Ynysoedd Dedwydd Santa Cruz de Tenerife a
Las Palmas de Gran Canaria
7,447 2,101,924 19,568

Dinasoedd ymreolaethol

[golygu | golygu cod]
Arfbais Dinas ymreolaethol Arwynebedd
(km2)
Poblogaeth
(2016)
GDP y pen
(euros)
Ceuta 18.5 84,519 19,335
Melilla 12.3 86,026 16,981

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Organización territorial. El Estado de las Autonomías" (PDF). Recursos Educativos. Instituto Nacional de Tecnologías Educativas y de Formación del Profesorado. Ministerio de Eduación, Cultura y Deporte. Cyrchwyd 19 Hydref 2012.
  2. Article 2. Cortes Generales (Llywodraeth Sbaen) (1978). "Título Preliminar". Spanish Constitution of 1978. Cyrchwyd 29 Medi 2012.
  3. Article 143. Cortes Generales (Llywodraeth Sbaen) (1978). "Título VIII. De la Organización Territorial del Estado". Spanish Constitution of 1978. Cyrchwyd 29 Medi 2012.
  4. Bacigalupo Sagesse, Mariano (Mehefin 2005). "Sinópsis artículo 145". Constitución española (con sinópsis). Constitución española. Cyrchwyd 28 Ionawr 2012.
  5. 5.0 5.1 The Ways of Federalism in Western Countries and the Horizons of Territorial Autonomy in Spain, cyfrol 2, gol. Alberto López-Eguren a Leire Escajedo San Epifanio (Berlin: Springer, 2013), t.375