Carles Puigdemont
Carles Puigdemont Casamajó | |
---|---|
![]() | |
Arlywydd Catalwnia | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 10 Ionawr 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Artur Mas i Gavarró |
Maer Girona | |
Yn ei swydd 1af Gorff. 2011 – 11 Ionawr 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Anna Pagans i Gruartmoner |
Dilynwyd gan | Isabel Muradàs i Vázquez |
Aelod o Lywodraeth Catalwnia | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 10th Tachwedd 2006 | |
Etholaeth | Girona |
Llywydd Associació de Municipis per la Independència | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 17eg Gorff. 2015 | |
Rhagflaenwyd gan | Josep Maria Vila d'Abadal |
Manylion personol | |
Ganwyd | Amer, Catalwnia | 29 Rhagfyr 1962
Cenedligrwydd | ![]() |
Plaid wleidyddol | Convergència Democràtica de Catalunya |
Priod | Marcela Topor |
Plant | Magalí Maria |
Alma mater | Prifysgol Girona |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Gwleidydd a newyddiadurwr o Gatalwnia yw Carles Puigdemont i Casamajó (g. Amer, Girona, 29 Rhagfyr 1962). Rhwng 10 Ionawr 2016 a 28 Hydref 2017 ef oedd Arlywydd Catalwnia, yn dilyn cytundeb rhwng Junts pel Sí ('Ie dros Gatalwnia!') a Candidatura d'Unitat Popular, CUP, dwy blaid sy'n hybu annibyniaeth i'r genedl.[1][2] Ei ragflaenydd oedd Artur Mas i Gavarró. AR 28 Hydref 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Catalwnia Ddatganiad o Annibyniaeth a sefydlu Gweriniaeth Catalwnia. Oherwydd Erthygl 155 yng Nghyfansodiad Sbaen, erlidiwyd aelodau'r Llywodraeth a ffodd Puigdemont i Frwsel.
Bu'n aelod o Lywodraeth Catalwnia ac yn gyn-arweinydd y Llywodraeth honno (cyn iddo gael ei benodi'n Arlywydd) ac mae'n gyn-faer Girona.[3]
Magwraeth a gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]
Fe'i ganed yn un o wyth o blant yn nhref Amer, (Talaith Girona) ar 29 Rhagfyr 1962,[4] ac mae'n byw yn Girona gyda'i wraig Marcela Topor a dwy ferch: Magalí a Maria.[5].[6] Treuliodd beth amser ym Mhrifysgol Girona'n astudio athroniaeth, ond nid arhosodd yno i orffen ei radd. Bu'n brif olygydd El Punt, ac yn gyfarwyddwr Agència Catalana de Notícies, a'r papur newydd Saesneg ei iaith Catalonia Today. Mae'n aelod o Gymdeithas Newyddiadurwyr Catalwnia ac yn awdur nifer o lyfrau fel Cata… què? Catalunya vista per la premsa internacional [Catalonia drwy lygad y wasg dramor] (1994) yn ogystal ag erthyglau ar dechnolegau newydd.
2017[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn dilyn camau Sbaen ar 28 Hydref 2017, nid yw'n cael ei gyflogi fel Arlywydd Catalwnia.[7]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017
- Refferendwm Catalwnia 2014
- Rhestr Arlywyddion Catalunia
- Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Junts pel Sí i la CUP tanquen un acord per a dur endavant la legislatura". VilaWeb.cat (yn Catalaneg). 9 Ionawr 2016. Cyrchwyd 9 Ionawr 2016.
- ↑ "Acord entre Junts pel Sí i la CUP amb Carles Puigdemont de president i sense Mas". 324.cat (yn Catalaneg). 9 Ionawr 2016. Cyrchwyd 9 Ionawr 2016.
- ↑ "Carles Puigdemont personal blog - About me".
- ↑ "Carles Puigdemont i Casamajó". www.enciclopedia.cat. Grup Enciclopèdia Catalana. Cyrchwyd 9 Ionawr 2016.
- ↑ “Si sabem oferir un producte genuí, la marca Barcelona és una oportunitat”; El Punt Avui; adalwyd 15 Ionawr 2016
- ↑ Vilà, Dani (5 Mawrth 2014). "Si sabem oferir un producte genuí, la marca Barcelona és una oportunitat". El Punt Avui (yn catalan). Cyrchwyd 9 Ionawr 2016.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Carles Puigdemont yn galw am ymateb heddychlon yng Nghatalwnia". Unknown parameter
|gwefan=
ignored (help); Unknown parameter|adalwyd=
ignored (help)
Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]