Artur Mas i Gavarró

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Artur Mas i Gavarró
Artur Mas - Fotografia oficial.jpg
Arlywydd Catalunya
Arlywydd ''Generalitat'' Catalwnia
Yn ei swydd
27 Rhagfyr 2010 – 9 Ionawr 2016
Vice President Joana Ortega i Alemany
Rhagflaenwyd gan José Montilla i Aguilera
Dilynwyd gan Carles Puigdemont, Maer Girona
Rhestr o Arlywyddion Catalwnia
Yn ei swydd
19 Ionawr 2001 – 20 Rhagfyr 2003
Arlywydd Jordi Pujol i Soley
Rhagflaenwyd gan dim
Dilynwyd gan Josep-Lluís Carod-Rovira
Arweinydd yr Wrthblaid yn Llywodraeth Catalwnia
Yn ei swydd
27 Mai 2004 – 23 Rhagfyr 2010
Rhagflaenwyd gan Pasqual Maragall i Mira
(Daeth y swydd i ben rhwng 17 Rhagfyr 2003 a 27 Mai 2004)
Dilynwyd gan Joaquim Nadal i Farreras
Y Gweinidog dros Economi ac Arian y Generalitat de Catalunya
Yn ei swydd
30 Gorffennaf 1997 – 17 Ionawr 2001
Arlywydd Jordi Pujol i Soley
Rhagflaenwyd gan Macià Alavedra i Moner
Dilynwyd gan Francesc Homs i Ferret
Y Gweinidog dros Tref a Gwlad
Yn ei swydd
15 Mehefin 1995 – 30 Gorffennaf 1997
Arlywydd Jordi Pujol i Soley
Rhagflaenwyd gan Jaume Roma i Rodríguez
Dilynwyd gan Pere Macias
Manylion personol
Ganwyd Artur Mas i Gavarró
31 Ionawr 1956
Barcelona, Catalonia, Spain
Plaid wleidyddol Convergència i Unió (Y Blaid Ddemocrataidd dros Gydgyfeirio Barcelona
Convergència Democràtica de Catalunya (CDC))
Priod Helena Rakosnik
Plant Patricia
Albert
Artur
Alma mater Prifysgol Barcelona
Galwedigaeth Economegydd
Llofnod

Gwleidydd yw Artur Mas i Gavarró (ganwyd 31 Ionawr 1956 ym Marcelona, Catalwnia) oedd yn Arlywydd Catalunya rhwng 27 Rhagfyr 2010 a 9 Ionawr 2015. Mas oedd y 129fed Arlywydd y Generalitat; ef hefyd yw arweinydd y blaid ryddfrydol, genedlaetholgar 'y Blaid Ddemocrataidd dros Gydgyfeirio Barcelona' a chadeirydd y glymblaid Convergència i Unió.[1] Fe'i olynwyd fel Arlywydd gan Carles Puigdemont.[2]

Economegydd yw Mas a raddiodd ym Mhrifysgol Barcelona; mae'n rhugl mewn Catalaneg, Sbaeneg, Ffrangeg a Saesneg. Ystyrir ei eidioleg wleidyddol yn rhyddfrydol, o safbwynt economeg ac mae'n Ewropead cryf iawn; mae hefyd yn credu'n gryf yn annibyniaeth ei wlad. Mae gweddill ei agenda'n un eithaf cymedrol e.e. hawliau hoywon ac erthylu.[3]

Yn 2010, am y tro cyntaf, cyhoeddodd y byddai'n pleidleisio mewn unrhyw refferendwm dros annibyniaeth a daeth y thema hon o sofraniaeth yn flaenllaw iawn yn ei waith.[4][5]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Mas ym Marcelona yn un o bedwar plentyn: dau fachgen a dwy ferch; roedd ei rieni o deuluoedd diwydiannol ariannog, gyda theulu ei fam yn y byd tecstiliau'n hanu o Sabadell a'i dad mewn diwydiannau metaleg o Poblenou. Astudiodd yn ysgol uwchradd Lycée Français de Barcelone ym Marcelona, gyda'r Ffrangeg yn gyfrwng y dysgu ac yn yr 'Ysgol Ewropeaidd' leol. Yn 1982, wedi cyfnod ym Mhrifysgol y brifddinas yn astudio economeg a busnes, priododd Helena Rakòsnik ac mae ganddynt dri o blant: Patricia, Albert ac Arthur.[6]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Barcelona reporter, “ARTUR MAS, Party Leader: Convergència i Unió
  2. golwg360.cymru/; adalwyd 10 Ionawr 2016
  3. http://www.tv3.cat/videos/1564629
  4. http://www.lavozlibre.com/noticias/ampliar/146082/artur-mas-votaria-si-en-un-referendum-sobre-la-independencia-de-cataluna
  5. New York Times, October 5, 2012, Catalan Leader Boldly Grasps a Separatist Lever
  6. "Artur Mas". CiU.cat (yn Catalaneg).

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: