Catalwnia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Catalonia)
Neidio i: llywio, chwilio
Mae'r erthygl yma yn trafod y gymuned ymreolaethol bresennol. Am y dywysogaeth hanesyddol, gweler Tywysogaeth Catalwnia.
Catalwnia
Catalunya Catalaneg
Catalonha Ocsitaneg
Cymuned ymreolaethol
Senyera
Baner
Arfbais Catalwnia
Arfbais
Anthem: Els Segadors
"Y Cynaeafwyr"
Map o Gatalonia
Leoliad Catalwnia o fewn Penrhyn Iberia
Cyfesurynnau: 41°49′N 1°28′E / 41.817°N 1.467°E / 41.817; 1.467Cyfesurynnau: 41°49′N 1°28′E / 41.817°N 1.467°E / 41.817; 1.467
Gwlad sofran Sbaen
Hanes Catalwnia 988 (de facto)
1137 (Undeb gydag Aragon)
1716 (Nova Planta)
Ystatud Ymreolaethol 9 Medi 1932
18 Medi 1979
9 Awst 2006 (cyfredol)
Prifddinas Barcelona
41°23′N 2°11′E / 41.383°N 2.183°E / 41.383; 2.183
Taleithiau Barcelona, Girona, Lleida, Tarragona
Llywodraeth
 • Math Llywodraeth ddatganoledig o fewn brenhiniaeth gyfansoddiadol
 • Corff Generalitat de Catalunya
 • Arlywydd Carles Puigdemont i Casamajó (JxSí)
 • Deddfwrfa Llywodraeth
Arwynebedd[1]
 • Cyfanswm 32,108 km2 (12,397 mi sg)
Poblogaeth (2012)
 • Cyfanswm 7,565,603
 • Safle Ail (16% o Sbaen)
CMC (nominal)
 • Cyfanswm $255.204 biliwn (2012)
 • Y pen $33,580 (2012)[2]
Cylchfa amser CET (UTC+1)
 • Haf (DST) CEST (UTC+2)

Mae Cymuned Ymreolaethol Catalwnia (Catalaneg: Catalunya, Araneg: Catalonha Sbaeneg: Cataluña) yn un o gymunedau ymreolaethol Sbaen, ond hefyd yn cael ei chyfrif fel gwlad ar wahân gan ei thrigolion. Mae Catalwnia yng ngogledd-ddwyrain Iberia, yn ffinio â Ffrainc ac Andorra i'r gogledd, â Môr y Canoldir yn y dwyrain, â chymuned ymreolaethol Aragón yn y gorllewin. Mae Ynysoedd Medas hefyd yn rhan o Gatalwnia.

Rhennir Catalwnia yn bedair talaith:

Enwyd y taleithiau hyn ar ôl y dinasoedd: Barcelona, Girona, Lleida a Tarragona.

Yn Nhachwedd 2014 cynhaliodd Llywodraeth Catalwnia Refferendwm Catalwnia 2014, yn groes i orchymyn gan Lywodraeth Sbaen; pleidleisiodd dros 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynol, gyda dros dwy filiwn o bobl wedi bwrw'u pleidlais. Ar 27 Medi 2015, cynhaliwyd Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015, ble gwelwyd y pleidiau a oedd o blaid annibyniaeth yn uno gyda'i gilydd. Ar 1 Hydref 2017 cynhaliwyd Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 a gynhaliwyd gan Gyngor Arbennig Catalwnia (yr Consell Executiu), er i Lywodraeth Sbaen fynegi fod cynnal y refferendwm yn anhyfreithiol. Oherwydd hyn, symudwyd rhai miloedd o heddlu Sbaen i Gatalwnia i geisio atal y broses.

Cynhelir diwrnod Catalwnia, sef La Diada flynyddol ar 11 Medi,[3] a gwnaed hynny ers 'Y Cyrch ar Farcelona' yn 1714. Mae'n ddiwrnod o ddathiad bodolaeth y gymuned ymreolaethol, ond hefyd yn atgoffa pobl i'r y gymuned ymreolaethol golli eu system ddeddfau wedi'r cyrch hwnnw.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1164, casglodd Alfonso II, brenin Aragón deyrnas Aragón, Tywysogaeth Catalwnia, Terynas Mallorca, Teyrnas Valencia, Teyrnas Sicilia, Corsica a thiriogaethau eraill dan un goron. Yn 1289 yn y Corts de Monçó enwyd y tiriogaethau fel Corona d'Aragó i de Catalunya, a dalfyrrwyd yn ddiweddarach i Corona d'Aragó, Coron Aragón.

Baneri[golygu | golygu cod y dudalen]

Y faner swyddogol yw'r La Senyera, a chaiff ei ddefnyddio hefyd ar faner Aragón, yr Ynysoedd Balearig, Valencia a dinas Alghero yn Sardinia; fe'i ceir hefyd ar arfbais y Pyrénées-Orientales, Provence-Alpes-Côte d'Azur, baner Roussillon, Capcir, Vallespir, Provence yn Ffrainc ac ar arfbais Andorra. Ar un cyfnod, deuai'r mannau hyn i gyd o dan reolaeth Coron Aragón a Iarll Barcelona a heddiw mae'r Gatalaneg wedi goroesi yma a gelwir hwy yn Països Catalans (gwledydd Catalan).

Dywedir i'r faner gael ei chreu ar ddechrau brwydr yn erbyn y Mwriaid dan eu harweinydd Lobo ibn Mohammed, pan anafwyd Carles el Calb yn ddifrifol. Gwlychodd Iarll Barcelona, Guifré el Pilós, ei fysedd yng ngwaed Carles, a'u llusgo ar hyd ei darian felen. Cododd y darian yn uchel ac arweiniodd fyddin y Catalwniaid i fuddugoliaeth. Ers hynny, caiff ei hadnabod fel Els Quatre Dits de Sang, y pedwar byd gwaedlyd.

Addasiad o'r faner yw'r Estelada (enw llawn: Senyera Estelada), sef y faner serenog. Fel arfer, ceir seren wen ar gefndir glas ac weithiau ceir seren goch ar gefndir melyn. Fe'i defnyddir gan gefnodgwyr y mudiad dros annibyniaeth Catalwnia oddi wrth Sbaen. Fe'i hysbrydolwyd gan y sêr ar faner Cwba a {Puerto Rico]], a'u brwydr hwy dros annibyniaeth oddi wrth Sbaen yn 1902 ac 1898. Fe'i lluniwyd gan Vicenç Albert Ballester, ac fe'i defnyddiwyd hi gyntaf mewn pamffled a gyhoeddwyd ar ddiwrnod cenedlaethol y genedl, sef y Diada, yn 1918.

Annibyniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Nhachwedd 2014 cynhaliwyd Refferendwm Catalwnia 2014, a phleidleisiodd dros 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynol, gyda dros dwy filiwn o bobl wedi bwrw'u pleidlais. Ar 15 Ionawr cyhoeddodd Llywydd y wlad, Artur Mas, ei fod yn galw etholiad ar 27 Medi 2015.[4] Canlyniad y bleidlais oedd i dros 68 o'r seddi allan o gyfanswm o 135 gael eu llenwi gan gynrychiolwyr a oedd o blaid annibyniaeth.[5]

Ar 1 Hydref 2017 cynhaliwyd Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 a gynhaliwyd gan Gyngor Arbennig Catalwnia (yr Consell Executiu), er i Lywodraeth Sbaen fynegi fod cynnal y refferendwm yn anhyfreithiol. Oherwydd hyn, symudwyd rhai miloedd o heddlu Sbaen i Gatalwnia i geisio atal y broses.

Ieithoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir tair iaith swyddogol yng Nghatalwnia: Catalaneg, Sbaeneg ac Araneg, a siaredir yn Val d'Aran yn y gogledd-orllewin. Mae canran uchel ym medru Catalaneg:

Catalaneg
Yn medru Nifer Canran
Deall 5.872.202 94,5%
Siarad 4.630.640 74,5%
Darllen 4.621.404 74,4%
Ysgrifennu 3.093.223 49,8%
Cyfanswm 6.215.281 100%

Un o awduron mwyaf nodedig y Gatalaneg yw Joan Oliver i Sallarès, dramodydd a bardd.

Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Er bod gan y wlad ei thîm pêl-droed cenedlaethol, nid oes gan Catalwnia statws fel gwlad bêl-droed gydnabyddiaedig yng ngolwg UEFA na FIFA. Serch hynny ceir ymgyrch i ennill statws swyddogol i'r tîm, a thrwy hynny i'r wlad.

Astudiaeth feirniadol o dair gwlad - Québec, Catalunya a Chymru gan Paul W. Birt; 1997

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Flag of Spain.svg
Cymunedau ymreolaethol Sbaen
Cymunedau Ymreolaethol AndalucíaAragónAsturiasYnysoedd BalearigCantabriaCastilla-La ManchaCastilla y LeónCataloniaComunidad ValencianaCymuned Ymreolaethol Gwlad y BasgExtremaduraGaliciaComunidad de MadridMurciaNavarraLa RiojaYr Ynysoedd Dedwydd
Dinasoedd ymreolaethol CeutaMelilla