Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Heddwas o Sbaen yn taro sifiliaid ar ddiwrnod y Refferendwm.
Ydych chi'n dymuno gweld Catalwnia'n genedl annibynol ar ffurf gweriniaeth? (Ydw/Nac ydw).
Flag of Catalonia.svg
Baner Catalwnia
Dyddiad 2017; 0 blynedd yn ôl (2017)
Lleoliad Catalwnia
Ydw
  
91.9%
Nac ydw
  
8.04%
Gwefan
ref1oct.eu

Refferendwm ar ddyfodol Catalwnia, a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2017 oedd y Refferendwm ar Annibyniaeth Catalwnia 2017. Fe'i trefnwyd gan Lywodraeth Catalwnia (neu'r Generalitat de Catalunya). Ar hyn o bryd mae Sbaen yn ystyried y wlad yn un o'i 'Chymunedau Ymreolaethol'.[1] Cyhoeddodd Llywodraeth Catalonia eu bwriad o gynnal refferndwm ar 6 Medi 2017, a'r diwrnod wedyn, fe'i gwnaed yn anghyfreithiol gan Lys Cyfansoddiad Sbaen, gan y byddai refferendwm yn eu barn nhw yn groes i Gyfansoddiad y Wlad (sef y Constitución española de 1978). Yn dilyn y refferendwm, ar 27 Hydref 2017 cyhoeddwyd sefydlu Gweriniaeth Catalwnia (2017).

Fel rhan o'u hymgyrch Operación Anubis, ceisiodd heddlu Sbaen atal y broses ddemocrataidd o bleidleisio, gan anafu 844 o Gataloniaid.[2] Er hyn, pleidleisiodd 2.3 miliwn.[3] Cyhoeddodd Zeid Ra'ad Al, Uwchgomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Sbaen yn ymchwilio'n drylwyr i'r trais a achoswyd gan eu heddlu ar ddiwrnod yr etholiad.[4][5]

Y bwriad oedd cynnal refferendwm ddi-droi'n-ôl a fyddai'n cael ei wireddu, er y byddai hyn yn anghyfreithiol [6][7] yn llygad Llywodraeth Sbaen.

Unig gwestiwn y papur pleidleisio oedd: "Ydych chi'n dymuno gweld Catalwnia'n genedl annibynol ar ffurf gweriniaeth?" gyda dau ddewis yn ateb: "Ydw" neu "Nac ydw". Pleidleisiodd 2,044,038 (92.01%) "Ydw" a 177,547 (7.99%) "Nac ydw", gyda 43.03% o bobl cymwys wedi bwrw eu pleidlais. Amcangyfrifodd y Llywodaeth fod 770,000 o bobl wedi methu pleidleisio gan fod heddlu Sbaen wedi eu hatal.[8][9]

Y diwrnod wedi'r cyhoeddiad, sef y 7fed o Fedi, cyhoeddodd Llys Cyfansoddiad Sbaen waharddiad ar gynnal refferendwm o'i fath ond mynegodd Llywodraeth Catalownia nad oedd gorchymyn y llys yn ddilys yng Nghatalwnia ac aethant ati'n ddiymdroi i gasglu cefnogaeth i'r dymuniad o gael refferendwm gan 688 allan o 948 cyngor bwrdeisdrefol.[10][11]

Mae Llywodraeth Sbaen yn gwrthwynebu'r 'hawl' i'r Catalwniaid reoli eu hunain ac i gynnal refferendwm[12] gan ddal nad yw Cyfansoddiad Sbaen, 1978 yn caniatau i unrhyw ranbarth o Sbaen gynnal pleidlais ynghylch annibyniaeth.[13][14]

Barn Llywodraeth Catalwnia yw fod gan drigolion y wlad yr hawl i benderfynu drostynt eu hunain, a bod y refferendwm felly'n foesol gywir a theg. Ymateb Cyngor Ewrop oedd y dylai unrhyw refferendwm fod yn ddarostyngedig i'r cyfansoddiad ("in full compliance with the constitution").[15] Ychydig iawn o gefnogaeth gan wledydd Ewrop mae'r ymgyrch dros gynnal y refferendwm wedi'i gael hyd yma[15] gan y byddai, o bosib, yn agor y drws i wledydd eraill ddilyn eu hesiampl.

Rhai digwyddiadau o bwys[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 12 Medi: Atafaelwyd bocsys balot gan heddlu Sbaen.
  • 13 Medi: Tynnwyd gwefan y refferendwm i lawr ar orchymyn Llywodraeth Sbaen.
  • 13 Medi: Gwyswyd 700 o faeri i lysoedd gan Brif Erlynydd Sbaen am gefnogi'r refferendwm.[16]
  • 20 Medi: symudodd heddlu Sbaen i 7 Adran o Lywodraeth Catalwnia gan arestio 12 o swyddogion y Llywodraeth a chymeryd papurau a chyfrifiaduron. Gwnaed cwyn swyddogol gan y Generalitat. Amddiffynwyd y weithred gan Farnwr o Sbaen a ddywedodd nad oedd unrhyw beth 'gwleidyddol' am y cyrch.
  • 1 Hydref: cynhaliwyd y refferendwm
  • 16 Hydref: carcharwyd dau o'r trefnwyr, Jordi Sànchez i Picanyol a Jordi Cuixart i Navarro, am greu cynnwrf yn erbyn y wladwriaeth er mwyn i'r awdurdodau chwilio am brawf o'u troseddau honedig.
  • 27 Hydref: er gwaethaf bygythiadau gan Sbaen, pleidleisiodd Llywodraeth Catalwnia dros wneud datganiad o annibyniaeth a sefydlwyd Gweriniaeth Catalwnia. O fewn hanner awr, cyhoeddodd Sbaen y byddent yn gwneud popeth i gesio 'dychwelyd' Catalwnia yn ôl i'w corlan, fel cymuned ymreolaethol, a dechreuwyd gweithredu cymal 155 o Gyfansoddiad Sbaen.
  • 28 Ffodd Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, gyda 5 o'i Weinidogion i Wlad Belg; ar 5 Tachwedd, gwrthododd Llys yng Ngwlad Belg y gwŷs Ewropeaidd gan Sbaen i'w hestraddodi.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Datganiad o Sofraniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 23 Ionawr 2013 cymeradwyodd Llywodraeth Catalwnia (gydag 85 pleidlais o blaid a 41 yn erbyn a dwy yn atal) "Ddatganiad o Sofraniaeth a'r Hawl i Bobl Catalwnia Benderfynnu". Dyma ran ohono:

Yn unol ag ewyllys mwyafrif pobol Catalwnia, sydd wedi'i fynegi mewn modd democrataidd, mae nawr yn fwriad gan Lywodraeth Catalwnia i gychwyn y broses o hyrwyddo hawl dinasyddion Catalwnia i benderfynu gyda'i gilydd eu dyfodol gwleidyddol.[17]

Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2014[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2014

Cynhaliwyd Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2014 ar 9 Tachwedd 2014 lle gwelwyd 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynol. Yn y misoedd a oedd yn arwain at Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015, tyngodd pob plaid a oedd dros annibyniaeth y byddant yn cynnal refferedwm ynghylch annibyniaeth cyn 17 Medi 2017.

Ar 14 Hydref, cynigiodd Artur Mas i Gavarró, Arlywydd y wlad, 'broses i'w ddinasyddion gymryd rhan yn nyfodol y wlad', yn hytrach na refferendwm.[18] Mynegodd Llywodraeth Catalwnia eu bwriad i apelio yn erbyn Llywodraeth Sbaen yn y Llys Cyfansoddiadol, a phenderfynodd y Llys (ar 4 o Dachwedd) i ohirio'r bleidlais. Cyhoeddodd Llywodraeth Catalwnia y bydden nhw'n bwrw ymlaen gyda'r bleidlais, er gwaethaf penderfyniad Llys Cyfansoddiadol Sbaen.[19]

Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015

Sensoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ychydig cyn Refferendwm 2017, ac yn dilyn gorchymyn gan Lywodraeth Saben, caewyd 24 o wefannau a oedd yn hyrwyddo'r Refferendwm ac ymosodwyd ar swyddfeydd y parth-enw .cat gan yr heddlu. Cafwyd DNS tampering hefyd ar wefannau eilradd (mirror websites)[20] Aeth Amazon ati i dynnu i lawr y system ganolog a oedd i ddilysu ac adnabod pwy-oedd-pwy ac yn dilyn pwysau gan Sbaen caeodd Google yr ap a oedd yn rhannu gwybodaeth ynghylch lleoliad y canolfannau pleidleisio.

Oherwydd hyn, honnwyd fod rhai pobl wedi pleidleisio ddwywaith ac nad oedd pleidleisiau rhai tramorwyr wedi'u cynnwys yn y cyfrifiad. Dywedodd Llywodraeth Sbaen hefyd fod rheolau'r refferendwm wedi newid 45 munud cyn dechrau'r bleidlais; ee rhoddwyd yr hawl i unrhyw ddinesydd bleidleisio mewn unrhyw ganolfan, hyd yn oed os nad oedd yr un a roddwyd. Hefyd, derbyniwyd pleidlais a phleidleisiau cartref an-swyddogol heb unrhyw amlen.[angen ffynhonnell]

Adwaith i'r refferendwm[golygu | golygu cod y dudalen]

Unigolion[golygu | golygu cod y dudalen]

Mynegodd cyn Gadeirydd Cyngor Ewrop, Walter Schwimmer, Jimmy Wales, y colofnydd Katie Hopkins ac eraill eu anniddigrwydd fod heddlu Sbaen wedi bod mor dreisgar yn erbyn sifiliaid a oedd yn ceisio pleidleisio.

Y cyfryngau[golygu | golygu cod y dudalen]

Rajoy's subsequent choice to employ physical force to impose his will on civilians exercising a basic democratic right carried a chill echo of Spain's past and a dire warning for the future. That is dictatorship. Surely no one believes the cause of Catalan independence will fade away after Sunday's bloody confrontations that left hundreds injured. Rajoy's actions may have ensured, on the contrary, that the campaign enters a new, more radical phase, potentially giving rise to ongoing clashes, reciprocal violence, and copycat protests elsewhere, for example among the left-behind population of economically deprived Galicia. In Spain's Basque country, where Eta separatists waged a decades-long terror campaign that killed more than 800 people and injured thousands, the dream of independence is on ice – but not forgotten. The danger is that a new generation of younger Basques who feel ignored by Madrid, and repelled by what happened in Barcelona, may be tempted to revisit Eta's unilateral 2010 ceasefire and its subsequent disarmament.[21]
  • Gofynnodd James Landale o'r BBC:
How could an EU that opposed independence for, say, the Kurds or Crimea suddenly decide to welcome it for the Catalans? The EU would find it hard to back a vote for self-determination that had been so clearly ruled illegal by a country's constitutional court.[22]
In European sovereignty, not in more national flags, lies the bright future of every European of good will.[23]
  • Disgrifiodd CNN drais yr heddlu fel "dychrynllyd":
...but it can and should be a lesson for the world about the importance of upholding the spirit of democracy and the protection of human rights. But the United Nations at large can do more. Through official means, it should send a message to any actors who instigate, dictate, justify and/or perpetrate violations of fundamental rights. It should also advise that all concerned parties put human rights, accountability and the protection of civilians at the center of political negotiations and peace processes. Let's hope our institutions -- national, regional and global -- pass the test of protecting democratic values in Catalonia."[24]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jones, Sam (9 Mehefin 2017). "Catalonia calls independence referendum for October" (yn en-GB). The Guardian. ISSN 0261-3077. https://www.theguardian.com/world/2017/jun/09/catalonia-calls-independence-referendum-for-october-spain.
  2. euronews.com; adalwyd 10 Hydref 2017.
  3. nytimes.com; adalwyd 10 Hydref 2017.
  4. "UN human rights chief urges probe into violence during referendum in Catalonia". UN News Center. 2 Hydref 2017. http://www.un.org/apps/news/story.asp?NewsID=57785#.WdNvstFm3WU. Adalwyd 3 Hydref 2017.
  5. "The Latest: UN chief hopes sides will solve Catalan crisis". 2 Hydref 2017. https://www.cnbc.com/2017/10/02/the-associated-press-the-latest-un-chief-hopes-sides-will-solve-catalan-crisis.html.
  6. Catalans to celebrate their national day with independence protests; cyhoeddwyd 10 Medi 2017; adalwyd 11 Medi 2017.
  7. Duarte, Esteban (11 Medi 2017). "Catalan Separatists Plot Show of Force in Battle With Madrid" (yn en). Bloomberg. https://www.bloomberg.com/news/articles/2017-09-10/catalan-separatists-plot-show-of-strength-in-battle-with-madrid.
  8. "El Govern anuncia un 90% de 'síes' entre las 2.262.424 papeletas contadas y asegura haber escrutado el 100,88% de votos" (yn Spanish). El Mundo. 2 October 2017. http://www.elmundo.es/cataluna/2017/10/02/59d1725fca4741da328b458d.html. Adalwyd 3 October 2017.
  9. Erickson, Amanda (30 Medi 2017). "Catalonia independence vote: What you need to know". Washington Post. https://www.washingtonpost.com/news/worldviews/wp/2017/09/30/catalonia-independence-referendum-spain/. Adalwyd 2 Hydref 2017.
  10. https://www.reuters.com/article/us-spain-politics-catalonia/catalan-independence-vote-divides-regions-mayors-idUSKCN1BK0E2 www.reuters.com
  11. http://www.municipisindependencia.cat/2017/09/el-60-dels-ajuntaments-catalans-ja-donen-suport-al-referendum-de-l1-doctubre/ www.municipisindependencia.cat
  12. "Spanish Government rejects Puigdemont’s proposal to hold a binding referendum". Catalan News Agency. 30 Medi 2016. http://www.catalannewsagency.com/politics/item/spain-rejects-puigdemont-s-proposal-to-hold-a-binding-referendum. Adalwyd 2 Hydref 2016.
  13. Redacción y Agencias (1 Chwefror 2017). "El Gobierno no descarta medidas coercitivas para impedir el referéndum" (yn Sbaeneg). La Vanguardia (Madrid). http://www.lavanguardia.com/politica/20170201/413901214977/gobierno-constitucion-referendum-ilegal.html.
  14. Agencia EFE (26 March 2017). "Rajoy ofrece diálogo, pero no admitirá ni el referéndum ni pactos para "violar la ley"" (yn Spanish). Expansión. http://www.expansion.com/economia/politica/2017/03/26/58d79fe8ca4741966e8b45a7.html.
  15. 15.0 15.1 "Catalonia plans to hold an independence vote whether Spain lets it or not". 12 Gorffennaf 2017. https://www.economist.com/news/europe/21724960-prime-minister-mariano-rajoy-says-vote-illegal-and-vows-block-it-catalonia-plans-hold?fsrc=scn/tw/te/bl/ed/. Adalwyd 12 Gorffennaf 2017.
  16. Gwefan www.bbc.co.uk; adalwyd 14 Medi 2017.
  17. Marco (22 Ionawr 2013). "The declaration of sovereignty starts off in Parliament" (yn ca). Ara. http://www.ara.cat/politica/declaracio-sobirania-Parlament-CiU-ERC-ICV_0_851914901.html.
  18. ""Citizen participation" proposed for cancelled Catalonia referendum". 14 Hydref 2014. http://www.mathrubhumi.com/english/news/latest-news/citizen-participation-proposed-for-cancelled-catalonia-referendum-153129.html.
  19. "Catalonia maintains November vote despite new suspension of process". 4 Tachwedd 2014. http://elpais.com/elpais/2014/11/04/inenglish/1415114922_224066.html.
  20. torproject.org; OONI data shows that these mirrors were blocked by means of DNS tampering and through block pages served by HTTP transparent proxies. Daniel Morales, a freedom of expression activist who worked on the scripts to mirror the blocked sites, was called to appear in court on 22nd September and accused of being supported by Russian hackers by El Pais, one of Spain’s largest media outlets. France Telecom Espanya (AS12479) and Euskaltel (AS12338) blocked access to sites by means of DNS tampering, while Telefonica de Espanya (AS3352) served block pages through the use of HTTP transparent proxies. It’s worth noting that France Telecom Espanya (AS12479) and Euskaltel (AS12338) didn’t block certain .cat domains (referendum.cat and ref1oct.cat), likely because those sites had already been seized. Telefonica de Espanya (AS3352), on the other hand, reinforced the censorship by serving block pages for seized domains as well.; adalwyd 10 Hydref 2017.
  21. https://www.theguardian.com/world/2017/oct/02/ripples-from-catalan-referendum-could-extend-beyond-spain
  22. http://www.bbc.com/news/world-europe-41464712
  23. https://www.nytimes.com/2017/10/03/opinion/catalonia-spain-referendum.html
  24. http://edition.cnn.com/2017/10/04/opinions/catalonia-independence-opinion-vinolas/index.html