Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pob un o'r 135 sedd yn Senedd Catalwnia 68 sedd sydd angen i gael mwyafrif | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofrestrwyd | 5,553,983 0.8%[1] | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Nifer a bleidleisiodd | 4,388,074 (79.0%) 4.1 pp = | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Canlyniad | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cynhaliwyd Etholiad Catalwnia, 2017 ar 21 Rhagfyr 2017, sef 12fed Llywodraeth y wlad, gan ddilyn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015. Enillodd y tair plaid dros-annibyniaeth fwyafrif y seddau: 70 allan o 135 sedd.
Yn wahanol i'r etholiadau o'i blaen, galwyd yr etholiad gan Lywodraeth Sbaen, wedi iddynt ddiddymu Llywodraeth Catalwnia ar 27 Hydref 2017, yn dilyn Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 pan bleidleisiodd 91.9% dros annibyniaeth. Galwyd yr etholiad gan Sbaen. Credai Brif Weinidog Sbaen Mariano Rajoy Breyy byddai'r mwyafrif o'r etholwyr yn pleidleisio dros bleidiau a oedd yn gwrthwynebu annibyniaeth, ond nid felly y bu, ac roedd y canlyniad yn embaras mawr iddo. Collodd plaid Rajoy 7 sedd, gan ddal eu gafael ar ddim ond tair sedd.
Ar ddiwrnod yr etholiad, a'r cyfnod a oedd yn arwain ato, roedd nifer o'r ymgeiswyr dros-annibyniaeth naill ai ar ffo yng Ngwlad Belg neu wedi eu carcharu gan Brif Lys Sbaen. Carcharwyd wyth o'r arweinyddion, gan gynnwys y cyn Is-Lywydd (ac arweinydd yr ERC), Oriol Junqueras heb fechniaeth; roedd Gwarant Ewropeaidd i Arestio nifer o arweinyddion a oedd wedi ffoi hefyd wedi'u cyhoeddi gan Sbaen, gyda Puigdemont a phedwar o'i Gabined yn ymgyrchu naill ai o garchar neu o wlad arall.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Wedi i Lywodraeth Catalwnia, ar 27 Hydref 2017, gyhoeddi eu bod yn sefydlu Gweriniaeth Catalwnia, ymatebodd Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, ei fod yn diddymu'r Llywodraeth ac yn galw Etholiad Cyffredinol - gyda'r bwriad o ethol rhagor o ASau a oedd o blaid cadw Catalwnia o fewn ffiniau presennol Sbaen. Cyhoeddodd Sbaen hefyd y byddent yn gwneud popeth i gesio 'dychwelyd' Catalwnia yn ôl i'w corlan, fel cymuned ymreolaethol, a dechreuwyd gweithredu cymal 155 o Gyfansoddiad Sbaen a roddai'r hawl iddynt wneud 'unrhyw beth sydd ei angen' i uno Sbaen.
Pleidiau
[golygu | golygu cod]Trafododd pleidiau Catalwnia a ddylent gymryd rhan yn yr etholiad neu ei anwybyddu.[2][3][4]
Ar 5 Tachwedd 2017 etholodd Plaid Democratiaeth Ewropeaidd Catalwnia (PDeCAT) mai cyn-Lywydd y wlad, Carles Puigdemont, fyddai eu hymgeisydd, o Wlad Belg, ble roedd yn alltud - a hynny dan y faner 'Junts per Catalunya'.[5][6] Ymunodd PDeCAT gyda nifer o ASau Annibynnol i ffurfio plaid newydd o'r enw JuntsxCat (Gyda'n Gilydd Dros Catalwnia) gan alw ar amnest ar gyfer y "carcharorion gwleidyddol", sef prif swyddogion Llywodraeth Catalwnia a garcharwyd gan Sbaen.[7]
Penderfynodd Chwith Weriniaethol Catalwnia neu'r ERC dros beidio ag adnewyddu'r clymblaid Junts pel Sí.[8] Cyhoeddodd y Candidatura d'Unitat Popular, (CUP) fod yr etholiad yn "anghyfreithiol" ac na fydai'n ymladd am seddau.
Unodd pedair plaid o dan yr enw Gweriniaeth Chwith Catalwnia (neu ERC–CatSí).
Safbwynt ynglŷn ag annibyniaeth
[golygu | golygu cod]Cytuno gydag annibyniaeth |
Plaid / Clymblaid | Cytuno gyda Refferendwm | Meddylfryd unochrog (Unilateralism) | Cytuno gyda rheolaeth uniongyrchol o Fadrid | Cyfeiriadaeth |
---|---|---|---|---|---|
Ydy | Junts per Catalunya (JuntsxCat) | [9] | |||
Gweriniaeth Chwith Catalwnia-Catalwnia Ie (ERC–CatSí) | [10] | ||||
Candidatura d'Unitat Popular–Crida Constituent (CUP) | [11] | ||||
Na | Ciudadanos (Cs) | [12] | |||
Sosialwyr Catalwnia (PSC–PSOE) | [13] | ||||
Plaid y Bobl (PP) | [14] | ||||
Niwtral | Catalunya en Comú–Podem (CatComú–Podem) | [15][16] |
Pleidiau a chlymbleidiau | Cyfuniad | Ideoleg | Ymgeisydd | |
---|---|---|---|---|
Junts per Catalunya (JuntsxCat) | Annibyniaeth | Carles Puigdemont | ||
Ciudadanos (Cs) | Rhyddfrydiaeth | Inés Arrimadas | ||
Gweriniaeth Chwith Catalwnia (ERC–CatSí) | Asgell chwith annibynnol | Oriol Junqueras | ||
Sosialwyr Catalwnia (PSC–PSOE) | Cymdeithas Ddemocrataidd | Miquel Iceta | ||
Catalunya en Comú (CatComú–Podem) | Eco-sosialaeth | Xavier Domènech | ||
Partit Popular de Catalunya (PP) | Rhyddfrydiaeth-geidwadol | Xavier García Albiol | ||
Candidatura d'Unitat Popular–Crida Constituent (CUP) | Gwrth-gyfalafiaeth/Catalwnia Annibynnol | Carles Riera |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Esquerra Republicana de Catalunya: y blaid weriniaethol
- Cenedlaetholdeb Catalanaidd
- Països Catalans: y tiriogaethau lle siaredir y Gatalaneg gryfaf
- Carme Forcadell i Lluís: Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia
- Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2014
- Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "En las elecciones al Parlamento de Cataluña podrán votar 5.553.983 electores" (PDF).
- ↑ Gisbert, Josep (30 Hydref 2017). "El independentismo asume que debe presentarse a las elecciones". La Vanguardia (yn Spanish). Barcelona. Cyrchwyd 30 Hydref 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Noger, Miquel (30 Hydref 2017). "Los partidos secesionistas se inclinan por ir a las elecciones". El País (yn Spanish). Barcelona. Cyrchwyd 30 Hydref 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Tomàs, Neus (30 Hydref 2017). "Los partidos independentistas sopesan ya cómo presentarse al 21-D". eldiario.es (yn Spanish). Cyrchwyd 30 Hydref 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Sixto Baqueiro, Camilo (5 Tachwedd 2017). "Carles Puigdemont será el candidato del PDeCAT en las elecciones del 21-D". El País (yn Spanish). Barcelona. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Puigdemont: "Estoy dispuesto a ser candidato; incluso desde el extranjero"". La Vanguardia (yn Spanish). Barcelona. 3 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Puente, Arturo (3 Tachwedd 2017). "El PDeCAT apuesta por una lista conjunta contra el 155 y por la amnistía". eldiario.es (yn Spanish). Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Barrena, Xabi (4 Tachwedd 2017). "ERC rechaza una candidatura conjunta solo con el PDECat". El Periódico de Catalunya (yn Spanish). Barcelona. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Romero, Nazaret. "Puigdemont to head 'Together for Catalonia'". www.catalannews.com.
- ↑ Medina Ortega, Manuel (2017). "The Political Rights of EU Citizens and the Right of Secession". In Closa, Carlos (gol.). Secession from a Member State and Withdrawal from the European Union: Troubled Membership. Cambridge University Press. t. 142. ISBN 1107172195. Cyrchwyd 28 Hydref 2017.
- ↑ "Crida Constituent pretén "fer engrunes el sistema"".
- ↑ "Albert Rivera, a los que le llaman facha: "En Cataluña, lo más progresista es facha"".
- ↑ Burgen, Stephen; Jones, Sam (21 December 2017). "All you need to know about the Catalonia election" – drwy www.theguardian.com.
- ↑ "El PP se presenta como el único partido 'unionista' de Cataluña frente a la autodeterminación anunciada por Mas".
- ↑ "Programa electoral – Catalunya en Comú – Podemos". catalunyaencomupodem.cat.
- ↑ "Catalunya en Comú: la maldición de ser decisivo". Cadena SER. 4 Rhagfyr 2017.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017 Archifwyd 2017-12-15 yn y Peiriant Wayback Cyhoeddiad y Generalitat de Catalunya (Catalaneg)
- Refferendwm Catalunya: Argraffiadau gohebydd y BBC - roedd y Refferendwm a gynhaliwyd yn Hydref 2017 yn 'anghyfreithlon' medd Llywodraeth Sbaen; a hyn oedd y rheswm pam y bu iddynt alw Etholiad Catalwnia 2017.
Andalucía ·
Aragón ·
Asturias ·
Cantabria ·
Castilla-La Mancha ·
Castilla y León ·
Catalwnia ·
Extremadura ·
Galisia ·
Gwlad y Basg ·
Madrid ·
Murcia ·
Navarra ·
La Rioja ·
Valenciana ·
Ynysoedd Balearig ·
Yr Ynysoedd Dedwydd ·
Dinasoedd ymreolaethol
Ceuta ·
Melilla