Demòcrates de Catalunya

Oddi ar Wicipedia
Democratiaid Catalwnia
Demòcrates de Catalunya
ArweinyddAntoni Castellà i Clavé
Núria de Gispert i Català
Joan Rigol i Roig
Sefydlwyd12 Gorffennaf 2015
Holltwyd oddi wrthUnió Democràtica de Catalunya (UDC)
PencadlysBarcelona
Rhestr o idiolegauDemocratiaeth Cristnogol
Annibyniaeth
Sbectrwm gwleidyddolCanol-dde
Llywodraeth Catalonia
3 / 135
Rhanbarthau Catalonia (Cynghorwyr)
118 / 9,077
Gwefan
www.democrates.cat

Plaid democrataidd, Crstnogol sydd dros annibyniaeth i Gatalwnia yw Demòcrates de Catalunya (neu'n fyr: DC; Cymraeg: Democratiaid Catalwnia. Fe'i ffurfiwyd yng Ngorffennaf 2015 gan Antoni Castellà i Clavé, Núria de Gispert i Català a Joan Rigol i Roig - cyn-aelodau o'r d'Unió Democràtica de Catalunya oherwydd eu bod yn dymuno polisiau ac ymlyniad cryfach tuag at Annibyniaeth i Gatalwnia.[1] Mae'r blaid newydd hon wedi ymuno gyda chlymblaid y Junts pel Sí ('Annibyniaeth Gyda'n Gilydd') sydd hefyd yn credu mewn annibyniaeth oddi wrth Sbaen.

Un o'r ffactorau wrth wraidd ei ffurfio oedd pleidlais o tua 80% annibyniaeth yn Refferendwm Catalwnia 2014 ac y bydd canlyniad Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015 yn cael ei ystyried yn bleidlais de facto dros neu yn erbyn annibyniaeth i'r wlad.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]