Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2014

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
a) Ydych chi'n dymuno i Gatalwnia fod yn Wladwriaeth? (Ydw/Nac ydw);
Os bydd yr ateb yn gadarnhaol yna:
b) a ydych chi'n dymuno i'r Wladriaeth fod yn annibynol? (Ydw/Nac ydw).
Catalan self-determination referendum, 2014.svg
Canlyniadau. Cryfder y lliw = cryfder y bleidlais. Gwyrdd = Ydw / ydw.
Dyddiad 2014; 4 blynedd yn ôl (2014)
Lleoliad Catalwnia
Ydw - Ydw
  
80.76%
Ydw - Nac ydw
  
10.07%
Ydw - blanc
  
0.97%
Nac ydw
  
4.54%
blanc
  
0.56%
Gwefan
www.participa2014.cat

Refferendwm ar ddyfodol Catalwnia a gynhaliwyd gan Generalitat de Catalunya (Arlywydd Catalwnia) oedd Refferendwm Catalwnia 2014, a ddiffiniwyd gan y Llywodraeth fel 'Dinasyddion yn cymryd rhan mewn proses sy'n ymwneud â dyfodol y wlad'[1] Fe'i galwyd hefyd yn Refferendwm Annibyniaeth Catalwnia.[2][3][4][5] a defnyddir y term 'y broses o gymryd rhan' gan y Llywodraeth wedi i Lys Cyfansoddiadol Sbaen ganslo "ymgynghoriad poblogaidd di-refferendwm" a oedd i'w gynnal ar yr un dyddiad (9 Tachwedd). Pleidleisiodd dros 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynol, gyda dros dwy filiwn o bobl wedi bwrw'u pleidlais.[6]

Gofynwyd dau gwestiwn: "Ydych chi'n dymuno i Gatalwnia fod yn Wladwriaeth?" a hefyd "Os bydd yr ateb yn gadarnhaol yna, a ydych chi'n dymuno i'r Wladriaeth fod yn annibynol?"[7][8]

Ar 19 Medi 2014, rhoddodd Llywodraeth Catalwnia (Esquerra Republicana de Catalunya) sêl eu bendith ar alwad am refferendwm ar annibyniaeth.[9] Roedd pleidlais i'w chynnal ar 9 Tachwedd.[10] Ar yr un diwrnod cyhoeddodd Llywodraeth Sbaen y byddent yn atal hyn drwy apelio yn Llys Cyfansoddiadol Sbaen.[11] Ar 29 Medi clywyd yr achos a gohiriwyd y bleidlais a oedd i'w chynnal.[12] Yn dilyn hyn cyhoeddodd Llywodraeth Catalwnia eu bod wedi 'gohirio dros dro' y bleidlais.[13]

Ar 14 Hydref, cynigiodd Artur Mas i Gavarró, Arlywydd y wlad 'broses i'w dinasyddion gymryd rhan yn nyfodol y wlad', yn hytrach na refferendwm.[14] Mynegodd Llywodraeth Catalwnia eu bwriad i apelio yn erbyn Llywodraeth Sbaen yn y Llys Cyfansoddiadol, a phenderfynodd y Llys (ar 4 Tachwedd) i ohirio'r bleidlais. Cyhoeddodd Llywodraeth Catalwnia y bydden nhw'n bwrw ymlaen gyda'r bleidlais, er gwaethaf penderfyniad Llys Cyfansoddiadol Sbaen.[15]

Bydd hawl gan dinasyddion dros 16 oed i bleidleisio.

Sbaen yn bygwth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gorchmynodd Eduardo Torres-Dulce ddiwrnod cyn y bleidlais i Heddlu Sifil Catalwnia (sef y Mossos d’Esquadra) i ddarganfod pwy oedd yn gweithio yn y canolfannau pleidleisio, a phwy oedd yn eu hagor. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Catalwnia na fyddai'r Mossos yn gwneud hynny. Ymatebodd Mas drwy ddweud, "Os ydy Llywodraeth Sbaen isio gwybod pwy sy'n gyfrifol am agor yr ysgolion, gallan nhw edrych arna i. Fi a fy Llywodraeth." [16]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhwng 2009 a 2011 cynhaliwyd sawl refferendwm answyddogol ar annibyniaeth y wlad. Cynhaliwyd y cyntaf yn Arenys de Munt ar 13 Medi 2009, ac yna Sant Jaume de Frontanyà ar 12 Rhagfyr ac mewn 166 rhanbarth y diwrnod wedyn a Barcelona gyfan yn Ebrill 2011.[17]

Datganiad o Sofraniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 23 Ionawr 2013 cymeradwyodd Llywodraeth Catalwnia (gydag 85 pleidlais o blaid a 41 yn erbyn a dwy yn atal) "Ddatganiad o Sofraniaeth a'r Hawl i Bobl Catalwnia Benderfynnu". Dyma ran ohono:

Canlyniadau'r bleidlais dros Ddatganiad o Sofraniaeth yn Llywodraeth Catalunia; 23 Ionawr 2013

Yn unol ag ewyllys mwyafrif pobol Catalwnia, sydd wedi'i fynegi mewn modd democrataidd, mae nawr yn fwriad gan Lywodraeth Catalwnia i gychwyn y broses o hyrwyddo hawl dinasyddion Catalwnia i benderfynu gyda'i gilydd eu dyfodol gwleidyddol.[18]

Ar 8 Mai 2013 gohiriodd Llys Cyfansoddiadol, Sbaen y datganiad hwn, 'dros dro'.[19][20]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "9N/2014". Llywodraeth Catalwnia. http://www.9nconsulta2014.cat/. Adalwyd 28 Hydref 2014.
  2. "Catalonia president signs independence referendum decree". http://www.bbc.com/news/world-europe-29390774. Adalwyd 27 Medi 2014.
  3. "Catalan Leader Signs Decree for Independence Referendum". http://online.wsj.com/articles/catalan-leader-signs-decree-for-independence-referendum-1411809286. Adalwyd 27 Medi 2014.
  4. "Catalonian leader orders referendum on independence from Spain". http://www.reuters.com/article/2014/09/27/us-spain-Catalwnia-idUSKCN0HM09120140927. Adalwyd 27 Medi 2014.
  5. "Catalonia president orders independence referendum on Nov. 9". http://rt.com/news/191164-catalonia-independence-referendum-november/. Adalwyd 27 Medi 2014.
  6. Gwefan Saesneg y BBC; adalwyd 10 Tachwedd 2014
  7. Catalan President Mas: "The country's good sense has made it possible to come to a consensus and agree on an inclusive, clear question, which enjoys broad support", Llywodraeth Catalwnia.
  8. Political parties announce date for vote on Catalonia independence, CNN.
  9. "Catalan parliament approves independence vote". BBC. 19 Medi 2014. http://www.bbc.com/news/world-europe-29274849. Adalwyd 21 Medi 2014.
  10. "Catalonia president signs independence referendum decree". BBC. 27 SeMedi 2014. http://www.bbc.com/news/world-europe-29390774.
  11. Manetto, Francesco (27 Medi 2014). "Sáenz de Santamaría: “Lamentamos profundamente el error de Mas”". El País. http://politica.elpais.com/politica/2014/09/27/actualidad/1411813956_264152.html. Adalwyd 28 SMedi 2014.
  12. "Spain higher court suspends Catalonia vote". 29 September 2014. http://www.aljazeera.com/news/europe/2014/09/spain-files-challenge-catalonia-referendum-2014929131040786306.html. Adalwyd 29 September 2014.
  13. "Spain's Constitutional Court suspends Catalan independence referendum". 4 Hydref 2014. http://www.wsws.org/en/articles/2014/10/04/cata-o04.html.
  14. ""Citizen participation" proposed for cancelled Catalonia referendum". 14 Hydref 2014. http://www.mathrubhumi.com/english/news/latest-news/citizen-participation-proposed-for-cancelled-catalonia-referendum-153129.html.
  15. "Catalonia maintains November vote despite new suspension of process". 4 November 2014. http://elpais.com/elpais/2014/11/04/inenglish/1415114922_224066.html.
  16. Gwefan www.bloomberg.com; adalwyd 09 Tachwedd 2014
  17. New York Times Catalans Vote In "Referendum" on Independence
  18. Marco (22 Ionawr 2013). "The declaration of sovereignty starts off in Parliament" (yn ca). Ara. http://www.ara.cat/politica/declaracio-sobirania-Parlament-CiU-ERC-ICV_0_851914901.html.
  19. "El Tribunal Constitucional suspende la declaración soberanista de Parlamento de Cataluña". abc.es. http://www.abc.es/espana/20130508/abci-constitucional-declaracion-catalana-201305081352.html. Adalwyd 8 Mai 2013.
  20. "El Constitucional suspèn la declaració de sobirania" (yn ca). ara.cat. http://www.ara.cat/politica/declaracio_de_sobirania-Parlament-Catalunya-Tribunal_Constitucional-TC_0_915508532.html. Adalwyd 8 Mai 2013.