Gogledd Catalwnia
Gwedd
| Math | endid tiriogaethol dynol-ddaearyddol, ardal ddiwylliannol |
|---|---|
| Prifddinas | Perpignan |
| Poblogaeth | 483,380 |
| Pennaeth llywodraeth | Hermeline Malherbe-Laurent |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ffrainc, Països Catalans |
| Sir | Pyrénées-Orientales |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 4,116 km² |
| Cyfesurynnau | 42.63°N 2.67°E |
| Pennaeth y Llywodraeth | Hermeline Malherbe-Laurent |
![]() | |

Gogledd Catalwnia (Catalaneg: Catalunya Nord) yw'r term a ddefnyddir yng Nghatalwnia am y tiriogaethau yn awr yn département Pyrénées-Orientales yn Ffrainc lle siaredir Catalaneg. Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o Pyrénées-Orientales, heblaw am ddarn yn y gogledd. Gelwir yr ardal yn Roussillon yn Ffrangeg fel rheol.
Trosglwyddwyd y diriogaeth yma o Sbaen i Ffrainc gan Gytundeb y Pyreneau yn 1659. Y ddinas fwyaf yw Perpignan (Catalaneg: Perpinyà), lle ceir traean o boblogaeth yr ardal. Amcangyfrifir fod tua chwarter y boblogaeth yn siarad Catalaneg, gyda chanran uwch yn ei deall. Yn Rhagfyr 2007, derbyniodd llywodraeth Pyrénées-Orientales yr iaith Gatalaneg fel un o ieithoedd swyddogol y département, gyda Ffrangeg ac Occitaneg.
