Partit dels Socialistes de Catalunya

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Partit dels Socialistes de Catalunya
Sbaeneg Partido de los Socialistas de Cataluña
Cymraeg Plaid Sosialaidd Catalwnia
Llywydd Ángel Ros
Ysgrifennydd cyffredinol Miquel Iceta
Sefydlwyd 16 Gorffennaf 1978 (1978-07-16)
Unwyd gyda Plaid Sosialaidd Catalwnia (Cyngres) • Plaid Sosialaidd Catalwnia (Atgynulliad) • Ffederasiwn Catalan y PSOE
Pencadlys c/ Nicaragua, 75–77
08029 Barcelona
Papur Endavant Digital
Asgell yr ifanc Ieuenctid Sosialaidd Catalwnia
Rhestr o idiolegau Democratiaeth Sosialaidd
Sbectrwm gwleidyddol Canol-chwith
Partner Rhyngwladol Partido Socialista Obrero Español Plaid Sosialaidd Gweithwyr Sbaen

Plaid gyda'i hegwyddorion yn ddwfn mewn democratiaeth sosialaidd yw Partit dels Socialistes de Catalunya (Sbaeneg: Partido de los Socialistas de Cataluña, Cymraeg: Plaid Sosialaidd Catalwnia acronym swyddogol: PSC-PSOE ). Mae'n ganlyniad i uno tair plaid yn 1978: Partit Socialista de Catalunya-Reagrupament PSC–R, y Partit Socialista de Catalunya–Congrés, PSC–C a'r Federació Catalana del PSOE, FSC, sef y fersiwn Catalonaidd o Blaid Sosialaidd Gweithwyr Sbaen a'i gangen Val d'Aran ("Dyffryn Aran").

Mae llawer o bolisiau'r 'PSC-PSOE' yn cyd-fynd gydag annibyniaeth i Gatalwnia ar ffurf ffederal a chyda polisiau cenedlaetholgar. Yr ardaloedd cryfaf o ran aelodaeth yw ardaloedd dinesig Tarragonès, Montsià, a Val d'Aran. Yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017 cipiodd y blaid 16 sedd: 605,844 o bleidleisiau (12.7%).

O 1979 ymlaen roedd yn un o bleidiau cryfaf Catalwnia yn yr etholiadau sirol, rhanbarthol, Ewropeaidd a Chyffredinol, ond yn llai llwyddiannus yn Etholiadau Senedd Catalwnia.

Yn 1999 roedd ganddi 52 o seddi ond collwyd llawer yn y blyndyddoedd dilynnol, a chafwyd cryn anghytundeb ynghylch faint o annibyniaeth y dylent ymgyrchu drosto gyda rhai yn mynnu creu Llywodraeth Ffederal ac eraill yn credu mewn annibyniaeth lwyr.

Coch: yr ardaloedd ble roedd y 'PSC-PSOE' gryfaf yn 2010; glas = ardaloedd lleiaf eu cefnogaeth.

Arweinyddion[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifenyddion[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Joan Reventós (1978–1983)
  2. Raimon Obiols i Germà (1983–1996)
  3. Narcís Serra i Serra (1996–2000)
  4. José Montilla (2000 – 17 Rhagfyr 2011)
  5. Pere Navarro i Morera (ers 17 Rhagfyr 2011)
  6. Miquel Iceta (ers 13 Gorffennaf 2014)

Llywydion[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Joan Reventós (1983–1996)
  2. Raimon Obiols i Germà (1996–2000)
  3. Pasqual Maragall i Mira (2000–2007)
  4. José Montilla (2007–2008) (Dros dro)
  5. Isidre Molas i Batllori (2008-2011)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]