CUP – Plaid Wleidyddol Gatalanaidd

Oddi ar Wicipedia
CUP (Candidatura d'Unitat Popular)
Logo CUP
Ideoleg Asgell-chwith
Gwrth-gyfalafol
Annibyniaeth
Ffeministaidd
Amgylcheddol
Rhynwladoldeb
Sefydlwyd 1986
Gwefan http://www.cup.cat/

Mae CUP - Candidatura d'Unitat Popular(Ymgeiswyr Undod y Bobl) yn blaid wleidyddol Catalanaidd asgell chwith, ffeministaidd, amgylcheddol yn gefnogol i annibyniaeth i’r Països Catalans (Y Gwledydd Catalanaidd)[1].

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o bleidiau gwleidyddol, mae eu holl benderfyniadau yn cael eu cymryd gan yr aelodau mewn cynulliadau ac nid gan yr arweinwyr yn unig. Maent hefyd yn cyhoeddi ar eu gwefan faint o arian mae’r eu seneddwyr yn ennill a faint maen nhw’n cyfrannu i’r Blaid.[2][3]

Mae’r CUP wedi ennill seddi ar nifer o gynghorau lleol trwy Catalunya a Valencià ac ers 2012 maent wedi sefyll ar gyfer etholiadau Senedd Catalunya gan ennill 3 sedd.

Roedd David Fernández yn aelod seneddol CUP rhwyg 2012-2015

Mae CUP yn cynnwys amrywiaeth eang o syniadaeth o fewn yr Esquerra Independentista (Chwith dros Annibyniaeth) yn cynnwys rhwydwaith fawr o ganolfannau cymdeithasol yn bennaf ar gyfer bobl ifanc.[4]

Er i CUP fod yn feirniadol o brif bleidiau Catalanaidd, yn dilyn dadlau brwd ymhlith yr aelodaeth, penderfynwyd cyd-weithio gyda’r pleidiau eraill sydd yn gefnogol i annibyniaeth a phleidleisiodd seneddwyr CUP gyda’r glymblaid Junts pel Sí (Gyda’n gilydd dros Ie) i gynnal refferendwm ar ddyfodol Catalunya a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2017.

Senedd Catalunya[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Pleidlisiau % Seddi +/-
2012 126.219 3,48% (#7) 3 increase +3
2015 337.794 8,21% (#6) 10 increase +7
2017 192.795 4,45% (#6) 4 Decrease -6

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://cup.cat/que-es-la-cup
  2. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-12-21. Cyrchwyd 2018-01-24.
  3. http://cup.cat/comptes-clars
  4. http://www.elperiodico.com/es/politica/20170902/quien-es-quien-esquerra-independentista-6244832