Vitoria-Gasteiz
![]() | |
![]() | |
Math |
bwrdeistref Sbaen, dinas, dinas fawr ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
253,996 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Gorka Urtaran ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+01:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg ![]() |
Lleoliad |
Gwlad y Basg ![]() |
Sir |
Cuadrilla de Vitoria ![]() |
Gwlad |
Sbaen ![]() |
Arwynebedd |
276.81 km² ![]() |
Uwch y môr |
525 ±1 metr ![]() |
Gerllaw |
Zadorra ![]() |
Yn ffinio gyda |
Arrazua-Ubarrundia, Elburgo/Burgelu, Barrundia, Iruraiz-Gauna, Bernedo, Iruña de Oca/Iruña Oka, Kuartango, Zuia, Zigoitia, Condado de Treviño, La Puebla de Arganzón ![]() |
Cyfesurynnau |
42.8467°N 2.6731°W ![]() |
Cod post |
01001–01015 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
maer Vitoria ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Gorka Urtaran ![]() |
![]() | |
Vitoria-Gasteiz yw prifddinas Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg a phrifddinas talaith Álava. Yr enw Sbaeneg yw Vitoria a'r enw Basgeg yw Gasteiz; "Vitoria-Gasteiz" yw'r ffurf swyddogol.Daw'r enw Gasteiz o enw'r sefydliad gwreiddiol ar y safle; nid yw'n enw Basgeg ar y ddinas fel y credir gan rai. Roedd y boblogaeth yn 230,585 yn 2005.
Sefydlwyd Vitoria yn 1181 gan Sancho VI, brenin Navarra, fel Nueva Victoria. Yn 1200 daeth yn rhan o Deyrnas Castillia pan gipiwyd y dref gan Alfonso VIII, brenin Castilla. Yn 1431 cafodd yr hawl i'w galw ei hun yn ddinas.
Ymladdwyd Brwydr Vitoria ar 21 Mehefin 1813, pan orchfygwyd byddin o Ffrancwyr gan fyddin dan Ddug Wellington, brwydr a roddodd ddiwedd ar yr ymladd yn Sbaen i bob pwrpas.
Ar 20 Mai 1980, cyhoeddwyd Vitoria yn brifddinas Gwlad y Basg. Mae'r boblogaeth wedi cynyddu yn sylweddol iawn yn y blynyddoedd diwethaf.
|