Pamplona
![]() | |
![]() | |
Math |
bwrdeistref Sbaen, dinas, dinas fawr ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
203,944 ![]() |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth |
Joseba Asirón ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+01:00 ![]() |
Gefeilldref/i |
Paderborn, Yamaguchi, Baiona, Toruń, Pamplona ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Sbaeneg, Basgeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Iruñerria ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
23.55 km² ![]() |
Uwch y môr |
446 ±1 metr ![]() |
Gerllaw |
Arga ![]() |
Yn ffinio gyda |
Ansoáin, Ezcabarte, Burlada, Villava – Atarrabia, Egüés, Aranguren, Galar, Cizur, Zizur Mayor, Barañáin, Olza, Orcoyen, Berrioplano – Berriobeiti, Berriozar ![]() |
Cyfesurynnau |
42.8167°N 1.65°W ![]() |
Cod post |
31001–31016 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
mayor of Pamplona ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Joseba Asirón ![]() |
![]() | |
Pamplona (Basgeg: Iruña neu Iruñea) yw brifddinas cymuned ymreolaethol Navarra yn Sbaen. Yn hanesyddol, ystyrir Pamplona gan y mwyafrif [angen ffynhonnell] fel prifddinas Gwlad y Basg (Euskal Herria).
Saif ar Afon Arga, ac yn 2006 roedd y boblogaeth yn 195,769. Yn y cyfnod Rhufeinig, tyfodd pentref Iruñea i fod yn ddinas Rufeinig "Pompaelo", wedi ei henwi ar ôl Pompeius Magnus, a'i sefydlodd yn 74 CC.. Cafodd ei chipio gan y Mwslimiaid yn yr 8g, ac yn 778 dinistriwyd y muriau gan Siarlymaen ychydig cyn Brwydr Ronsyfal. Yn ail hanner y 9g ffurfiwyd Teyrnas Pamplona.
Mae Pamplona yn enwog am y Sanfermines, gŵyl sy'n cael ei chynnal rhwng 6 ac 14 Gorffennaf i anrhydeddu Sant Fermín, nawdd-sant Navarra. Y rhan enwocaf o'r ŵyl yw'r "rhedeg gyda'r teirw".
Y ddinas yw diwedd ail ran y Camino de Santiago o Roncesvalles i Santiago de Compostela.