Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg
| Enghraifft o: | plaid wleidyddol yng Ngwlad y Basg, plaid wleidyddol |
|---|---|
| Cyllideb | Cenedlaetholdeb Basgaidd, regionalism, pro-Europeanism, Democratiaeth Gristnogol, Linguistic nationalism, Cenedlaetholdeb sifig, liberal conservatism |
| Dechrau/Sefydlu | 1895 |
| Pennaeth y sefydliad | President of the Basque Nationalist Party |
| Sylfaenydd | Sabino Arana |
| Aelod o'r canlynol | Pays Unis, European Democratic Party |
| Pencadlys | Sabin Etxea |
| Gwladwriaeth | Sbaen, Ffrainc |
| Gwefan | http://www.eaj-pnv.eus |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01_1k3 |

Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg (Basgeg: Euzko Alderdi Jeltzalea' (EAJ), Sbaeneg: Partido Nacionalista Vasco' (PNV) yw'r blaid genedlaethol Fasgaidd fwyaf, a'r blaid fwyaf yng Ngwlad y Basg. Ei henw swyddogol yn Sbaen yw Euzko Alderdi Jeltzalea-Partido Nacionalista Vasco (EAJ-PNV), ac yn Ffrainc Euzko Alderdi Jeltzalea- Parti Nationaliste Basque (EAJ-PNB).
Sefydlwyd y blaid yn 1895 gan Sabino Arana Goiri; hi yw'r ail-hynaf o bleidiau gwleidyddol Sbaen ar ôl y PSOE. Mae'r enw Basgeg, "Euzko Alderdi Jeltzalea", yn golygu "Plaid Fasgaidd cefnogwyr y J.E.L.", lle mae "J.E.L." yn dod o Jaungoikoa Eta Lagizarrak ("Duw a'r Hen Ddeddfau"), yn cyfeirio ar ddechreuadau'r blaid fel plaid Gatholig i amddiffyn traddodiadau Basgaidd.
Heddiw mae'n ei diffinio ei hun fel plaid Fasgaidd ddemocrataidd ac anenwadol, yn y canol neu canol-chwith ar y sbectrwm chwith-de, ac yn anelu at annibyniaeth i Wlad y Basg. Mae'n ymgyrchu nid yn unig yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg ond yn Navarra ac yn y tiriogaethau Basgaidd yn Ffrainc. Mae ganddi 28 o'r 75 sedd yn y senedd Fasgaidd. Mae wedi bod yn brif blaid llywodraethol Senedd Euskadi ers sefydlu'r Senedd yn dilyn y refferendwm dros Stadud Ymreolaeth Gwlad y Basg yn 1979.