Iparralde
Gwedd
| Math | ardal ddiwylliannol |
|---|---|
| Poblogaeth | 301,389 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Gwlad y Basg, Pyrénées-Atlantiques |
| Sir | Pyrénées-Atlantiques |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 2,956 km² |
| Cyfesurynnau | 43.321619°N 1.349944°W |
![]() | |


Iparralde (Basgeg: Iparralde, Ffrangeg Pays basque français) yw'r rhan honno o ogledd ddwyrain Gwlad y Basg sydd o fewn Ffrainc. Ystyr "Iparralde" yw "yr ochr ogleddol"; gelwir y rhan o Wlad y Basg sydd yn Sbaen yn Hegoalde, "yr ochr ddeheuol". Mae'n ffurfio rhan orllewinol département Pyrénées-Atlantiques.
Mae'n cynnwys tair talaith:
- Nafarroa Isaf (Nafarroa Beherea mewn Basgeg, Basse-Navarre yn Ffrangeg), 1,284 km².
- Lapurdi (Labourd mewn Ffrangeg), 800 km².
- Zuberoa (Soule mewn Ffrangeg), 785 km².
Yn ôl ymholiad yn 2001, roedd 24.7% o'r boblogaeth yn siarad Basgeg, a 11.5% arall yn ei deall.
