Neidio i'r cynnwys

Afon Guadalquivir

Oddi ar Wicipedia
Afon Guadalquivir
Mathafon, gold river, y brif ffrwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Jaén, Talaith Sevilla, Talaith Córdoba, Talaith Huelva, Talaith Cádiz Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Cyfesurynnau36.7913°N 6.3567°W Edit this on Wikidata
TarddiadSierra de Cazorla Edit this on Wikidata
AberGwlff Cadiz Edit this on Wikidata
LlednentyddGenil, Guadiamar, Pudio, Guadalbullón, Jandulilla, Cuadros, Rivera de Huelva, Afon Borosa, Afon Cerezuelo, Guadiato, Guadalmellato, Rivera de Huesna, Retortillo, Arroyo de Guadalín, Arroyo de Cantarranas, Corbones, Arroyo de Corcomé, Arenoso, Arroyo de Azanaque, Arroyo del Cañetejo, Guadiel, Guadiana Menor, Guadajoz, Guadaíra, Guadalimar, Afon Jándula, Bembézar, Afon Viar, Afon Torres, Cañamares Edit this on Wikidata
Dalgylch56,978 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd657 ±1 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad164.3 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Afon fawr yn Andalucía yn ne Sbaen yw Afon Guadalquivir. Mae'n rhedeg i gyfeiriad y de-orllewin yn gyffredinol o'i tharddle ym mynyddoedd Sierra de Cazorla i aberu yn y Cefnfor Iwerydd yng Ngwlff Cadiz. Gyda hyd o 560 km (348 milltir) hi yw'r afon fwyaf yn ne Sbaen.

Daw'r enw o'r Arabeg al-wād al-kabīr (الوادي الكبير), 'Yr Afon Fawr'. Ei hen enw oedd Betis (neu Baetis), o'r cyfnod cyn-Rufeinig hyd at gyfnod yr Al-Andalus Islamaidd, a roddodd ei henw i'r dalaith Rufeinig Hispania Baetica.

Mae'r dinasoedd ar ei glannau'n cynnwys Andújar, Córdoba, Sevilla a Jerez de la Frontera.

Credir fod dinas hynafol Tartessos wedi'i lleoli wrth aber yr afon, ond hyd yn hyn mae ei hunion safle'n aros yn ddirgelwch.