Parc Cenedlaethol Doñana
Delwedd:Vista de las marismas del Parque Doñana.jpg, Cormoranes.jpg | |
Math | national park, site of community importance, Ardal Gadwraeth Arbennig, Special Protection Area, European Diploma of Protected Areas, biosphere reserve, Ramsar site ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ana Gómez de Silva y de Mendoza ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Network of National Parks of Spain, Natura 2000, Natura 2000 in Spain ![]() |
Lleoliad | Talaith Huelva, Talaith Seville, Talaith Cádiz ![]() |
Sir | Andalucía ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,224.87 km², 128,267.85 ha ![]() |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Afon Guadalquivir ![]() |
Cyfesurynnau | 37.02°N 6.44°W ![]() |
Rheolir gan | Spanish Ministry of the Environment ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Ramsar site, Red List of Endangered Heritage item, Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
Saif Parc Cenedlaethol Doñana (Sbaeneg:Parque nacional de Doñana) yn ne-orllewin Sbaen, yng nghymuned ymreolaethol Andalucia, gerllaw aber Afon Guadalquivir. Mae'r rhan fwyaf yn nhalaith Huelva, ac ychydig o'r parc yn nhalaith Sevilla. Mae arwynebedd y parc yn 53,709 hectar. Yn 1994 fe'i cyhoeddwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Ystyrir y parc yn un o warchodfeydd natur pwysicaf Ewrop. Yn y gaeaf, mae tua 200,000 o adar dŵr ar y gwlybdiroedd sy'n rhan helaeth o'r parc. Ymhlith yr amrywiaeth o fywyd gwyllt mae 20 rhywogaeth o bysgodyn, 37 rhywogaeth o famal a 360 rhywogaeth o aderyn, gyda 127 ohonynt yn nythu yno.
Credir fod enw'r parc yn dod o "Doña Ana", sef Doña Ana de Mendoza y Silva, gwraig seithfed Dug Medina Sidonia, Don Alonso Pérez de Guzmán, oedd yn berchennog y tiroedd yma.