Sagrada Família

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

41°24′13″N 2°10′28″E / 41.40361°N 2.17444°E / 41.40361; 2.17444

Sagrada Família
Basílica i Temple Expiatori de la Sagrada Família
Basilica ac Eglwys y Teulu Sanctaidd

Sagrada Família
Gwybodaeth gyffredinol
Arddull Pensaerniol Gothig / Art Nouveau
Tref neu Ddinas Barselona
Gwlad Catalwnia
Cychwynwyd y gwaith 1882; 135 blynedd yn ôl (1882)
Gorffenwyd 2026 (amc.)
Manylion technegol
System strwythurol Carreg
Cynllunio ac adeiladwaith
Cleient Yr Eglwys Gatholig
Pensaer Antoni Gaudí

Eglwys Gatholig enfawr ydy Basílica i Temple Expiatori de la Sagrada Família (Cymraeg: Eglwys Basilica y Teulu Sanctaidd), sydd wedi'i lleoli ym Marcelona, Catalwnia, ac a gynlluniwyd gan y Catalan Antoni Gaudí (1852–1926). Er nad yw wedi'i gorffen, dynodwyd yr eglwys yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd gan UNESCO,[1]. Yn Nhachwedd 2010, cysegrwyd yr eglwys gan y Pab Bened XVI gan ei alw'n "Basilica"[2][3][4] yn hytrach nag yn Gadeirlan (neu'n 'Eglwys Gadeiriol') gan nad oes yma esgob.

Cychwynwyd y gwaith adeiladu yn 1882 a daeth Gaudí i'r adwy y flwyddyn wedyn,[5] gan ailwampio'r cyfan yn ei ddull dihafal ei hun a oedd yn cyfuno'r arddulliau Gothic ac Art Nouveau. Rhoddodd ei flynyddoedd diwethaf yn llwyr i'r prosiect hwn, a phan oedd yn 73 yn 1926, roedd llai na chwarter y prosiect wedi'i orffen.[6] Roedd y gwaith yn araf, gan fod y cyfraniadau ariannol hefyd yn araf yn dod i'r coffrau, ac ataliwyd y gwaith yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen ac nid ailgychwynwyd y gwaith go iawn tan y 1950au. Yn 1910 roedd hanner y gwaith wedi'i orffen. Erbyn 2014 roedd yr eglwys yn dennu dros 2.5 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn.[7] Gobeithir gorffen y gwaith ar ganmlwyddiant marwolaeth Gaudí yn 2026.

Rhannwyd trigolion Barselona dros y blynyddoedd gan y Sagrada Família; credai rhai ei fod yn mynd i gystadlu gyda'r Eglwys Gadeiriol, sef y Santa Eulalia. Roedd cynlluniau chwyldroadol Gaudí hefyd yn asgwrn sawl cynnen, a'r cweryl diweddar ynghylch twnel yn cludo rheilffordd tanddaearol gerllaw.[8]

Dywedodd y beirniad celf Rainer Zerbst, "O archwilio holl waith celf y byd dros y canrifoedd, mae'n gwbwl amhosibl darganfod unrhyw waith tebyg i hwn."[9] a galwyd yr adeilad gan Paul Goldberger yn "The most extraordinary personal interpretation of Gothic architecture since the Middle Ages."[10]

Statws Treftadaeth y Byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dynodwyd clwstwr o 7 adeilad gan Gaudí yn Barselona (gan gynnwys rhan o'r Sagrada Família) yn Safle Treftadaeth y Byd, a nodwyd eu bod yn tystio i gyfraniad arbennig a chreadigol Gaudí o fewn datblygiad pensaerniaeth a thechnoleg adeiladu. Mae'r gwaith wedi dylanwadu llawer ar ffurfiau a thechnegau a oedd yn briodol i ddatblygiad adeiladwaith modern yn yr 20g.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysbrydolwyd y Sagrada Família gan werthwr llyfrau, Josep Maria Bocabella, a sefydlodd Asociación Espiritual de Devotos de San José (Cymdeithas Ysbrydol Cyfeillion St. Joseph).[11] Wedi ymweliad â'r Fatican yn 1872, dychwelodd Bocabella o'r Eidal gyda'r bwriad o godi eglwys debyg i'r un a welodd yn Loreto.[11] Cychwynwyd ar y gwaith ar 19 Mawrth 1882, ar Ŵyl Sant Joseph, a hynny i gynlluniau'r pensaer Francisco de Paula del Villar, a fwriadai eglwys yn yr arddull Gothig, sef ffurf arferol y cyfnod.[11] Gorffennwyd y crypt cromfan ychydig cyn i Villar ymddiswyddo ar 18 Mawrth 1883, a llanwyd y bwlch gan Antoni Gaudí, a ailgynlluniodd y gweddill.[11] Cychwynodd Gaudí ar y gwaith yn 1883 ond ni chafodd ei benodi'n swyddogol fel "Pensaer-gyfarwyddwr" tan 1884.

Carreg wrth garreg...[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwaith newydd y saer maen yn amlwg yn erbyn y rhan hŷn, a staeniwyd gan amser.

Pan holwyd Gaudí am daflen amser y gwaith adeiladu, dywedir iddo ateb, "Tydy fy nghleient ddim mewn unrhyw frys."[12] Cafwyd sylw gan y llenor George Orwell pan ddisgrifiodd y basilica fel "one of the most hideous buildings in the world"[13] Pan fu Gaudí farw yn 1926, roedd 15-25% o'r basilica wedi'i orffen.[6][14] Parhaodd y gwaith o dan lygad barcud Domènec Sugrañes i Gras tan y Rhyfel Cartref yn 1936. Dinistrwyd rhannau o'r basilica gan y rhyfel. Ailgodwyd y rhannau hynny, wedi'u seilio ar gynlluniau a oedd wedi rhanol losgi. Ers 1940 mae'r pensaeri Francesc Quintana, Isidre Puig Boada, Lluís Bonet i Gari a Francesc Cardoner wedi cyfrannu at y gwaith. Carles Buigas sy'n gyfrifol am y goleuo. Y cyfarwyddwr presennol ydy Jordi Bonet i Armengol (mab Lluís Bonet), a ddefnyddiodd y cyfrifiadur yn helaeth i gynorthwyo yn y gwaith - a hynny ers y 1980au. Mae Mark Burry o Seland Newydd wedi bod yn Bensaer Gweithredol ac mae'r cerfluniau anarferol dan ofal J. Busquets, Etsuro Sotoo a Josep Subirachs.

Cwbwlhawyd prif gorff yr eglwys a'r prif gromen (neu fwa) yn 2000 a'r gwaith mwyaf ers hynny ydy croesfa'r gromen a'r talcen crwn (neu'r apse). Yn 2006 canolbwyntiwyd ar y gwaith i gynnal 'prif dŵr Iesu Grist'.

Yn 2008, galwodd rhai o bensaeri mwyaf blaenllaw Catalwnia ar i'r gwaith ddod i ben, nes fod pensaeri'r prosiect yn dychwelyd at freuddwyd a chynlluniau gwreiddiol Gaudí; er i lawer o'r cynlluniau gwreiddiol gael eu llosgi, mae llawer, bellach, wedi'u hadfer.[15].

Cynhaliwyd arddangosfa yn 2010 exhibition, Gaudí Unseen, Completing La Sagrada Família yn 'Amgueddfa Pensaerniaeth yr Almaen', Frankfurt am Main, a oedd yn disgrifio'r cynlluniau a'r dulliau adeiladu y bwriedir eu defnyddio yn y dyfodol.[16]

Y twnel AVE[golygu | golygu cod y dudalen]

Ers 2013, mae trenau-cyflym AVE wedi gwibio gerllaw'r Sagrada Família - oddi fewn i dwnel sy'n rhedeg o dan ganol Barcelona. Ers cychwyn y twnel ar 26 Mawrth 2010 cafwyd cryn anniddigrwydd ac roedd yn bwnc llosg drwy'r brifddinas. Ymateb y Gweinidog dros Waith Cyhoeddus Sbaen (Ministerio de Fomento) oedd fod y twnel yn berffaith saff, ac na fyddai unrhyw effaith ar y basilica.[17][18] Anghytunodd pensaeri a pheirianwyr y Sagrada Família, gan ddatgan y byddai'r drilio a'r trenau-cyflym yn effeithio ar seiliau'r basilica. Cynhaliwyd ymgyrch yn gwrthwynebu'r twnel, ond bu'n aflwyddiannus.

Yn Hydref 2010 cyrhaeddodd y peiriant drilio yn union o dan prif wal yr adeilad.[17] Cychwynodd y gwasanaeth trenau tanddaearol ar 8 Ionawr 2013.[19] Mae'r traciau'n gorwedd ar ddefnydd elastic (sef EdilonSedra) er mwyn lleihau'r cryndod.[20] Hyd yma (2014), nid oes tystiolaeth o unrhyw ddifrod i'r eglwys.

Adeiladu'r Sagrada Família
1988 
Arlunydd wrth ei waith yn y gweithdy gypswm 
Adeiladwyr ym mhrif gorff yr eglwys 
Adeiladwyr mewn gwisgoedd dringo ar un o'r tyrau 
Craen uwch un o dyrrau'r Nativity façade 
Sgaffolding ar y prifdo 

Cysegriad[golygu | golygu cod y dudalen]

Gorchuddiwyd llawer o gorff yr eglwys, a'r prif organ (a osodwyd yno yng nghanol y 2010au) er mwyn i'r gwaith adeiladu barhau law-yn-llaw a chynnal gwasanaethau crefyddol.[21] Cysegrwyd yr eglwys gan y Pab Bened XVI ar 7 Tachwedd 2010 o flaen cynulleidfa o 6,500 o bobl.[22] Roedd cynulleidfa ehangach o 50,000 y tu allan i'r eglwys, yn ymuno yn y gwasanaeth, ynghyd â 100 o esgobion a 300 o offeiriaid a weinyddodd y cymun sanctaidd.[23]

Tân[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 19 Ebrill 2011, cychwynwyd tân bwriadol yn y gysegrfa a gwagiwyd y lle o weithwyr ac ymwelwyr;[24] difrodwyd y gysegrfa a chymerwyd 45 munud cyn diffodd y tân yn llwyr.[25]

Crwban 'yn ymddangos' o dan un o'r colofnau: enghraifft o hiwmor unigryw Gaudí

Rhannau[golygu | golygu cod y dudalen]

Er nad oedd hi'n fwriad i'r adeilad fod yn Gadeirlan (gydag esgob wedi'i bennu), o ran maint, bwriadwyd i'r Sagrada Família fod cymaint a chaderlan. Mae cynlluniau'r rhannau isaf yn debyg iawn i eglwysi cadeiriol Sbaenaidd megis eglwysi cadeiriol Burgos, Leon a Seville. Fel gyda llawer o eglwysi yng Ngahatlwnia a rhannau eraill o Ewrop, mae'r hyd yn fyr, o'i gymharu gyda'i led. Ceir saith capel cromfannol, a nifer fawr o dyrau a cholfnau gwahanol iawn i'r arfer.

Meindyrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Gaudí'n wreiddiol wedi rhagweld 18 meindwr, symbolau o'r deuddeg Apostol, Mair mam yr Iesu, yr Efengylwyr Mathew, Marc, Luc ac Ioan, a'r meindwr uchaf - Crist ei hun. Erbyn 2010 roedd 12 o'r rhain wedi'u cwbwlhau. Ei fwriad oedd fod uchder pob un o'r meindyrau hyn yn cyfateb i bwysigrwydd y gwrthrych roedd yn ei gynrychioli. Darganfuwyd cynlluniau wedi'u harwyddo gan Gaudí'n ddiweddar a oedd yn dangos fod meindwr y Forwyn Fair wedi'i bwriadu i fod yn llai na'r Efengylwyr. Newidiwyd y gwaith ar unwaith i sicrhau fod y cynlluniau gwreiddiol hyn yn cael eu gwireddu. Ar frig meindyrau'r Apostolion bydd cerfluniau o'r symbolau traddodiadol: tarw yn cynrychioli Luc, eryr ar gyfer Ioan, dyn gydag adenydd ar feindwr Mathew a llew i gynrychioli Marc.

Bydd y meindwr canolog o Iesu'n cael goroni gan groes enfawr; bydd uchder y meindwr hwn yn 170 metr - un fetr yn is na Bryn Montjuïc yn ninas Barcelona. Credai Gaudí y dylai creadigaeth Duw (y bryn) fod uwchlaw ei greadigaeth ef. Ceir meindyrau eraill, is, hefyd a fydd yn cael eu coroni gan weseion y Cymun, gydag ysgubau o wenith a ffiolau o rawnwin, a fydd yn cynrychioli'r cymun sanctaidd.

Pan gwbwlheir y meindyrau hyn, y Sagrada Família fydd yr eglwys talaf (neu uchaf) drwy'r byd cyfan.

Ffasâdau[golygu | golygu cod y dudalen]

talwyneb Bydd gan yr eglwys dri dalwyneb enfawr (neu dair ffasâd): Ffasâd yr Eenedigaeth yn wynebu'r dwyrain, Ffasâd y Dioddefaint i'r gorllewin a Ffasâd y Gogoniant sydd heb ei gwbwlhau ond a fydd yn wynebu'r de. Gorffennwyd Ffasâd yr Eenedigaeth cyn Rhyfel Cartref 1935 ac yn y dalwyneb hwn y gwelir dylanwad pennaf Gaudí. Cychwynwyd ar Ffasâd y Dioddefaint yn 1954 a gorffennwyd tyrau'r ffasâd yn 1976. Ceir cerfluniau arbennig iawn o gymeriadau poenus y Croeshoelio, gan gynnwys Crist ei hun, wrth droed y colofnau, sef gwaith (dadleuol) y cerflunydd Josep Maria Subirachs. Yn 2002 y cychwynwyd gweithio ar Ffasâd y Gogoniant a hwn fydd y mwyaf a'r mwyaf coffaol o'r tri. Bydd yn cynrychioli dyrchafiad Crist at Dduw. Bydd yn darlunio uffern, y purdan ac elfennau o'r Saith Pechod Marwol a'r Saith Rhinwedd Nefolaidd.

Ymweld[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir ymweld a rhai rhannau o'r eglwys, yr amgueddfa a'r siop. Tan yn ddiweddar gellid dringo'r tyrau am ddim, ond mewn lifft yn unig mae gwneud hynny bellach, ac yna ar droed.

Ariannu[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid yw Llywodraeth Sbaen yn cyfrannu'r un ddimai goch y delyn at y gwaith, mwy nag ydy'r Eglwys Gatholig. Arian unigolion preifat a dalodd am y gwaith cychwynol.[26] Bellach, mae'r arian a gesglir wrth y giat yn talu am y gwaith adeiladu, gyda chymorth cyfraniadau gwirfoddol a dderbynir gan 'Gyfeillion y Sagrada Família'.

Y gyllideb ar gyfer y gwaith adeiladu yn 2009 oedd €18 miliwn.[21]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Zerbst, Rainer (1988). Antoni Gaudi — A Life Devoted to Architecture. Trans. from German by Doris Jones and Jeremy Gaines. Hamburg, Germany: Taschen. ISBN 3-8228-0074-0. 
  • Nonell, Juan Bassegoda (2004). Antonio Gaudi: Master Architect. New York: Abbeville Press. ISBN 0-7892-0220-4. 
  • Crippa, Maria Antonietta (2003). Peter Gossel, ed. Antoni Gaudi, 1852–1926: From Nature to Architecture. Trans. Jeremy Carden. Hamburg, Germany: Taschen. ISBN 3-8228-2518-2. 
  • Schneider, Rolf (2004). Manfred Leier, ed. 100 most beautiful cathedrals of the world: A journey through five continents. Trans. from German by Susan Ghyearuni and Rae Walter. Edison, New Jersey: Chartwell Books. p. 33. ISBN 978-0-7858-1888-5. 
  • AA.VV. (2001). Lunwerg, Barcelona, ed. Modernisme i Modernistes. ISBN 84-7782-776-1. 
  • Barral i Altet, Javier (2001.). L'isard, Barcelona, ed. Art de Catalunya. Arquitectura religiosa moderna i contemporània. ISBN 84-89931-14-3.  Check date values in: |date= (help)
  • Bassegoda i Nonell, Joan (1989). Ed. Ausa, Sabadell, ed. El gran Gaudí. ISBN 84-86329-44-2. 
  • Bassegoda i Nonell, Joan (2002). Criterio, Madrid, ed. Gaudí o espacio, luz y equilibrio. ISBN 84-95437-10-4. 
  • Bergós i Massó, Joan (1999). Ed. Lunwerg, Barcelona, ed. Gaudí, l'home i l'obra. ISBN 84-7782-617-X. 
  • Bonet i Armengol, Jordi (2001). Ed. Pòrtic, Barcelona, ed. L'últim Gaudí. ISBN 84-7306-727-4. 
  • Crippa, Maria Antonietta (2007). Taschen, Köln, ed. Gaudí. ISBN 978-3-8228-2519-8. 
  • Flores, Carlos (2002). Ed. Empúries, Barcelona, ed. Les lliçons de Gaudí. ISBN 84-7596-949-6. 
  • Fontbona, Francesc y Miralles, Francesc (1985). Ed. 62, Barcelona, ed. Història de l’Art Català. Del modernisme al noucentisme (1888-1917). ISBN 84-297-2282-3. 
  • Giralt-Miracle, Daniel (2002). Lunwerg, ed. Gaudí, la busqueda de la forma. ISBN 84-7782-724-9. 
  • Gómez Gimeno, María José (2006). Mundo Flip Ediciones, ed. La Sagrada Familia. ISBN 84-933983-4-9. 
  • Lacuesta, Raquele (2006). Diputació de Barcelona, Barcelona, ed. Modernisme a l’entorn de Barcelona. ISBN 84-9803-158-3. 
  • Navascués Palácio, Pedro (2000). Espasa Calpe, Madrid, ed. Summa Artis. Arquitectura española (1808-1914). ISBN 84-239-5477-3. 
  • Permanyer, Lluis (1993). Ed. Polígrafa, Barcelona, ed. Barcelona modernista. ISBN 84-343-0723-5. 
  • Puig i Boada, Isidre (1986). Ed. Nou Art Thor, Barcelona, ed. El temple de la Sagrada Família. ISBN 84-7327-135-1. 
  • Tarragona, Josep Maria (1999). Ed. Proa, Barcelona, ed. Gaudí, biografia de l’artista. ISBN 84-8256-726-8. 
  • Van Zandt, Eleyearr (1997). Asppan, ed. La vida y obras de Gaudí. ISBN 0-7525-1106-8. 
  • Zerbst, Rainer (1989). Taschen, ed. Gaudí. ISBN 3-8228-0216-6. 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Works of Antoni Gaudí, UNESCO World Heritage Centre, accessed 14-11-2010
  2. Drummer, Alexander (23 July 2010). "Pontiff to Proclaim Gaudí's Church a Basilica". ZENIT. http://www.zenit.org/article-29981?l=english. Adalwyd 7 Tachwedd 2010.
  3. "The Pope Consecrates The Church Of The Sagrada Familia". Vatican City: Vatican Information Service. 7 Tachwedd 2010. Archifwyd o y gwreiddiol ar 11 Tachwedd 2010. http://www.webcitation.org/5uAAUTwy8. Adalwyd 11 Tachwedd 2010.
  4. Delaney, Sarah (4 Mawrth 2010). "Pope to visit Santiago de Compostela, Barcelona in November". Catholic News Service. http://www.catholicnews.com/data/stories/cns/1000887.htm. Adalwyd 7 Gorffennaf 2010.
  5. "Unesco, Works of Antoni Gaudí". Whc.unesco.org. http://whc.unesco.org/en/list/320/. Adalwyd 7 Tachwedd 2010.
  6. 6.0 6.1 Minder, Raphael (3 November 2010). "Polishing Gaudí's Unfinished Jewel". The New York Times. http://www.nytimes.com/2010/11/04/arts/04iht-sacred.html?_r=1&scp=1&sq=gaudi%20sagrada%20familia&st=cse.
  7. Schumacher, Edward (1 Ionawr 1991). "Gaudí's Church Still Divides Barcelona". The New York Times. http://www.nytimes.com/1991/01/01/arts/gaudi-s-church-still-divides-barcelona.html?scp=16&sq=gaudi%20sagrada%20familia&st=cse.
  8. Burnett, Victoria (11 Mehefin 2007). "Warning: Trains Coming. A Masterpiece Is at Risk.". The New York Times. http://www.nytimes.com/2007/06/11/world/europe/11spain.html?scp=20&sq=gaudi%20sagrada%20familia&st=cse.
  9. Rainer Zerbst, Gaudí — a Life Devoted to Architecture., tud. 190–215
  10. Goldberger, Paul (28 Ionawr 1991). "Barcelona". National Geographic. http://www.nationalgeographic.com/traveler/articles/1003barcelona.html.[dolen marw]
  11. 11.0 11.1 11.2 11.3 The Gaudí & Barcelona Club Sagrada Família
  12. Hornblower, Margo (28 Jan 1991). "Heresy Or Homage in Barcelona?". Time. http://www.time.com/time/magazine/article/0,9171,972215,00.html.
  13. Orwell, George (1938). Homage to Catalonia. Secker and Warburg. [the anarchists] showed bad taste in not blowing it up when they had the chance. 
  14. Gladstone, Valerie (22 Awst 2004). "ARCHITECTURE: Gaudí's Unfinished Masterpiece Is Virtually Complete". The New York Times. http://www.nytimes.com/2004/08/22/arts/architecture-gaudi-s-unfinished-masterpiece-is-virtually-complete.html?scp=10&sq=gaudi%20sagrada%20familia&st=cse.
  15. Fancelli, Agustí (4 December 2008). "¿Por qué no parar la Sagrada Familia? [Why not stop the Sagrada Familia?]" (yn Spanish). http://www.elpais.com/articulo/cultura/parar/Sagrada/Familia/elpepicul/20081204elpepicul_4/Tes. Adalwyd 7 Gorffennaf 2010. (English tr.)
  16. Burry, Mark; Gaudí, Antoni (2007). Gaudí Unseen. Berlin: Jovis Verlag. ISBN 978-3-939633-78-5. 
  17. 17.0 17.1 Comorera, Ramon (13 Hydref 2010). "La tuneladora del AVE perfora ya a cuatro metros de la Sagrada Família [The tunnel boring machine of the AVE is already excavating four meters from the Sagrada Família]" (yn Spanish). El Periódico de Catalunya. http://www.elperiodico.com/es/noticias/barcelona/20101013/sagrada-familia-pasa-primer-test-del-ave/530676.shtml. Adalwyd 9 Tachwedd 2010.
  18. ADIF (Administrator of Railway Infrastructures). "Madrid – Zaragoza Barcelona – French Border Line Barcelona Sants-Sagrera – high-speed tunnel". http://www.adif.es/en_US/infraestructuras/lineas_de_alta_velocidad/madrid_barcelona_frontera_francesa/tunel_sagrera.shtml. Adalwyd 9 November 2010.
  19. "El AVE alcanza Girona" (yn Spanish). 8 Ionawr 2013. http://www.elperiodico.com/es/noticias/sociedad/ave-alcanza-girona-2288906. Adalwyd 8 January 2013.
  20. Comorera, Ramon (12 Mawrth 2012). "Doble aislante de vibraciones en las obras de Gaudí [Ynysydd dwbwl i leihau'r cryndod yn adeiladau Gaudí]" (yn Spanish). El Periódico de Catalunya. http://www.elperiodico.com/es/noticias/barcelona/doble-aislante-vibraciones-las-obras-gaudi-1526442. Adalwyd 12 Mawrth 2012.
  21. 21.0 21.1 Montañés, José Ángel (13 Mawrth 2009). "La Sagrada Familia se abrirá al culto en septiembre de 2010" (yn Spanish). El País. http://www.elpais.com/articulo/cataluna/Sagrada/Familia/abrira/culto/septiembre/2010/elpepuespcat/20090313elpcat_2/Tes. Adalwyd 19 Mehefin 2009. (English tr)
  22. Pope Benedict consecrates Barcelona's Sagrada Familia. BBC News. 7 Tachwedd 2010. http://www.bbc.co.uk/news/world-europe-11705036
  23. "Visita histórica del Papa a Barcelona para dedicar la Sagrada Família". La Vanguardia. 7 Tachwedd 2010. http://www.lavanguardia.es/ciudadanos/noticias/20101107/54065744060/visita-historica-del-papa-a-barcelona-para-dedicar-la-sagrada-familia.html
  24. Woolls, Daniel (19Ebrill 2011). "Fire in Barcelona church sees tourists evacuated". The Star (Toronto). http://www.thestar.com/news/world/article/976956--fire-in-barcelona-church-sees-tourists-evacuated?bn=1.
  25. [s.n.] (19 Ebrill 2011). Fire by suspected arsonist at Sagrada Familia. The Telegraph; adalwyd Ebrill 2013.
  26. Fletcher, Tom. "Sagrada Família Church of the Holy Family ". Essential Architecture. http://www.essential-architecture.com/SPAIN/SP-BA/BA-006.htm. Adalwyd 5 Awst 2008.