Grawnwin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Grawnwin ar gyfer gwin coch

Grawnwin yw ffrwyth y winwydden (Genws Vitis). Gellir ei bwyta neu eu defnyddio i wneud gwin ymhlith pethau eraill.

Mae grawnwin yn tyfu yn glwstwrau o rhwng 6 a 300, a gallant fod yn goch, du, melyn neu gwyrdd. Gwyrdd yw'r grawnwin a ddefnyddir ar gyfer gwin gwyn. Daw'r rhan fwyaf o'r grawnwin a dyfir yn fasnachol o'r winwydden Vitis vinifera, y winwydden Ewropeaidd, sy'n dod yn wreiddiol a ardal Môr y Canoldir a Chanolbarth Asia.

Yn ôl yr FAO, defnyddir 75,866 cilometr sgwar o dir trwy'r byd ar gyfer tyfu grawnwin. Gelwir y tir y tyfir y coed arno yn winllan.

Mannau lle tyfir grawnwin; data o 2005.
Gwlad Arwynebedd a ddefnyddir
Sbaen 11,750 km²
Ffrainc 8,640 km²
Yr Eidal 8,270 km²
Twrci 8,120 km²
Unol Daleithiau 4,150 km²
Iran 2,860 km²
Romania 2,480 km²
Portiwgal 2,160 km²
Yr Ariannin 2,080 km²
Awstralia 1,642 km²
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Grawnwin
yn Wiciadur.