Gwinllan

Oddi ar Wicipedia
Gwinllan arferol

Darn o dir a neilltuir ar gyfer tyfu gwinwydd i gael grawnwin yw gwinllan. Fe'i cysylltir yn bennaf â gwledydd y Môr Canoldir ond ceir gwinllanoedd mor bell i'r gogledd â de Prydain a'r Almaen. Erbyn heddiw mae gwinllanoedd yn rhan o'r tirlun mewn nifer o wledydd y tu allan i Ewrop, e.e. Yr Ariannin a Tsile yn Ne America, De Affrica ac Awstralia.

Yn drosiadol mae gwinllan yn aml yn cynrychioli gwareiddiad a diwylliant mewn gwrthgyferbyniad â'r "anialwch" heb ei drin gan ddynion. Yn y ddrama enwog Buchedd Garmon gan Saunders Lewis mae cymeriad Emrys Wledig yn cymharu Cymru i winllan, mewn geiriau a ddyfynir yn aml:

Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad,
I'w thraddodi i'm plant
Ac i blant fy mhlant
Yn dreftadaeth dragwyddol ;
Ac wele'r moch yn rhuthro arni i'w maeddu.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: