Gwyrdd

Oddi ar Wicipedia
Gwyrdd
Enghraifft o'r canlynollliw, lliw primaidd, lliw a enwir gan HTML4 Edit this on Wikidata
Mathgoleuni, lliw Edit this on Wikidata
Rhan o7-liw'r enfys Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwyrdd

Lliw yw gwyrdd, yn cyfateb i olau â thonfedd o dua 520–570 nanomedr. Mae'n un o'r lliwiau primaidd ynghyd â coch a glas.

Symbolaeth[golygu | golygu cod]

Mae'r lliw gwyrdd yn cynrychioli byd planhigion a thyfiant Natur, yn enwedig yn y gwanwyn.

Yn Tsieina mae'n gysylltiedig â mellt a hirhoedledd. Yng nghrefydd Islam, gwyrdd yw lliw ffyniant ysbrydol a materol, doethineb a'r proffwydi;[1] mae i'w weld yn aml ar faneri Islamaidd a baneri cenedlaethol gwledydd Mwslim, e.e. baner Libya.

Yn symbolaeth Cristnogaeth mae gwyrdd yn cael ei gysylltu ac adnewyddu a gobaith; yn yr Oesoedd Canol roedd rhai artistiaid yn paentio croes Crist yn wyrdd fel arwydd o'r Atgyfodiad a'r gobaith o ddychwelyd i Eden.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Udo Becker, The Continuum Encyclopedia of Symbols (Efrog Newydd, 2002).
  2. Udo Becker, op. cit..
Chwiliwch am gwyrdd
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am liw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.